Saturday, June 18, 2016

Pam bod y marchnadoedd betio yn anghytuno efo'r polau?

Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn gwybod fy mod wedi bod yn gymharol besimistaidd ynglyn a refferendwm dydd Iau.  Un o'r rhesymau am hynny ydi methiant yr ymgyrch Aros i greu dadl gadarnhaol o pam y dylid aros yn yr Undeb, ac un arall ydi symudiad y polau piniwn tuag at yr ochr Gadael.  Mae yna resymau eraill hefyd.

Serch hynny mae'r marchnadoedd betio wedi parhau i awgrymu mai'r ochr Aros fydd yn ennill y dydd. Ar hyn o bryd maen nhw'n awgrymu bod y tebygolrwydd o bleidlais aros tua 70%.  Rwan gall marchnadoedd betio fod yn anghywir - ac maen nhw weithiau.  Ond maen nhw'n fwy tebygol na pholau piniwn o fod yn gywir.  Y rheswm am hynny ydi bod marchnadoedd betio yn ystyried y polau, ond maen nhw'n ystyried amrediad o ffactorau eraill hefyd - ffactorau na all y polau eu hystyried.  Er enghraifft, pan lofruddwyd Jo Cox yn gynharach yr wythnos yma, ymatebodd y marchnadoedd betio yn syth fwy neu lai gan awgrymu tebygrwydd uwch y byddai'r ochr Aros yn ennill.  Mae hynny'n amlwg yn ganfyddiad synhwyrol - ond dydi'r polau cyfredol ddim yn adlewyrchu'r digwyddiad trist hwnnw eto.

Mi fyddwn i'n awgrymu bod y canlynol ymysg y ffactorau ychwanegol i'r polau mae'r marchnadoedd yn eu hystyried.  

1). Roedd y polau ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2015 yn enwog o anghywir.  Does yna neb wedi egluro'r  gwahaniaeth yn llawn - ond y prif reswm mae'n debyg oedd bod gormod o bobl  ieuengach yn y sampl.  Mae pobl ieuengach yn llai tebygol o bleidleisio na phobl hyn mewn etholiadau arferol.  Mae'r cwmniau polau wedi mynd i'r afael a hyn trwy leihau'r nifer o bobl ieuengach yn eu samplau - ond does yna ddim ffordd o wybod i sicrwydd os bydd pobl ieuengach yn llai tebygol na phobl hyn o bleidleisio mewn refferendwm Ewrop.  

2). Mae digwyddiadau cymharol fach yn fwy tebygol o gael effaith ar batrymau pleidleisio mewn refferendwm na mewn Etholiad Cyffredinol.  Mewn Etholiad Cyffredinol mae'r rhan fwyaf o bobl o lawer - mwy na 70% mae'n debyg - yn pleidleisio yn union fel y gwnaethant yn yr Etholiad Cyffredinol blaenorol.  Does yna ddim 'y tro o'r blaen' yn y refferendwm yma.  Dydi'r balast o batrymau pleidleisio blaenorol ddim yn bresenol - ac mae hyn yn gwneud pethau yn fwy anwadal.  Ar ben hynny mae rhai cwmniau polio yn cymryd patrymau blaenorol i ystyriaeth cyn dod i gasgliadau blaenorol.  Dydi hynny ddim yn bosibl y tro hwn.  

3). Mae'r polau eu hunain yn anghyson.  Mae polau ar lein yn tueddu i roi pleidlais uwch i'r ochr Gadael na'r rhai ffon.   Dydi hi ddim yn glir pam bod hyn yn digwydd - ond yn amlwg mae'r polau ar lein, y polau ffon neu'r ddau yn anghywir.

4). Dydi'r polau ddim yn 'gweld' y sawl sydd newydd gofrestru - ac mae yna lawer iawn o bobl felly.  Mae'n debyg i 1.65 miliwn o bobl gofrestru fis diwethaf.  Mae'n debyg i hanner miliwn o bobl gofrestru ar y diwrnod cofrestru swyddogol olaf.  Cofrestrodd tua chwarter miliwn y diwrnod wedyn - wedi i estyniad gael ei ganiatau.  Roedd mwyafrif llethol y bobl hyn yn ifanc - ac mae'r ifanc yn fwy tebygol o lawer i bleidleisio i aros na'u rhieni.

5). Dydi'r polau ddim yn 'gweld' Prydeinwyr sy'n byw mewn gwledydd tramor chwaith.  Caiff Prydeinwyr sydd wedi byw yn y DU yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf bleidlais.  Am resymau amlwg mae'r rhan fwyaf o'r bobl hyn yn debygol o bleidleisio i aros yn Ewrop.  Mae yna tua 5.6m o Brydeinwyr yn byw y tu allan i'r DU.

6). Mae yna hen hanes o ogwydd tuag at y status quo yn nyddiau olaf refferenda.  Mae hyn yn digwydd ym mhob refferendwm bron.

1 comment:

Anonymous said...

"Er enghraifft, pan lofruddwyd Jo Cox yn gynharach yr wythnos yma, ymatebodd y marchnadoedd betio yn syth fwy neu lai gan awgrymu tebygrwydd uwch y byddai'r ochr Aros yn ennill...ond dydi'r polau cyfredol ddim yn adlewyrchu'r digwyddiad trist hwnnw eto."

Erbyn heddiw,

"Jo Cox's death sparks EU referendum poll surge for Remain as tragedy changes opinion"
http://www.mirror.co.uk/news/uk-news/jo-coxs-death-sparks-eu-8226820#ICID=sharebar_facebook