Wel, un peth maent yn sicr yn ei ddweud ydi bod Gogledd Iwerddon a'r Alban bron yn sicr o bleidleisio i aros yn Ewrop. Mae 1/50 yr Alban yn awgrymu tebygolrwydd o 98% y bydd y wlad honno yn pleidleisio i aros tra bod 1/33 Gogledd Iwerddon yn awgrymu tebygolrwydd o tua 97%.
Mae'r tebygolrwydd y bydd Cymru a Lloegr eisiau aros fodd bynnag yn is o lawer. Mae 2/7 Cymru yn awgrymu tebygolrwydd o tua 78%, tra bod 2/5 Lloegr yn awgrymu tebygolrwydd o tua 71%. Y ffigyrau tros y DU i gyd ydi 1/3 tros aros - tebygolrwydd o 75%. Mae'r marchnadoedd betio gryn dipyn ynfwy hyderus mai'r ochr aros fydd yn ennill na'r polau piniwn.
Byddai canlyniad agos iawn lle mae gwahanol wledydd y DU yn pleidleisio mewn ffyrdd gwahanol yn achosi'r ffraeo mwyaf rhyfeddol. Dwi ddim yn siwr beth fyddai'n achosi y mwyaf o anhrefn - y DU yn pleidleisio o fymryn i adael tra bod yr Alban yn pleidleisio'n drwm i aros, 'ta'r DU yn pleidleisio o drwch blewyn i aros, ond bod Lloegr yn pleidleisio i adael. Byddai'r naill ganlyniad neu'r llall yn gryn fygythiad i ddyfodol y DU.
No comments:
Post a Comment