Sunday, August 09, 2015

Mymryn am y Saeson Cymraeg

Dydw i fawr o eiteddfodwr - er fy mod i'n mynychu'r rhan fwyaf ohonynt o ddiigon - cael fy llusgo yno gerfydd fy nghlust braidd ydw i a dweud y gwir.  Beth bynnag, mi gefais ddianc am ychydig oriau ddoe a mynd am dro i Groesoswallt - tref nad ydw i erioed wedi ymweld a hi o'r blaen.  Mae gan y dref amgueddfa ddigon diddorol - ond hynod ddi drefn.  Ymysg yr hyn oedd yn cael eu harddangos oedd y cofebau isod - cofebau i'r milwyr o'r ardal a fu farw yn y Rhyfeloedd Napoleonaidd a Rhyfel y Crimea yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.





Roeddwn eisoes yn gwybod i'r Gymraeg oroesi am gyfnod maith ynn Ngogledd Sir Amwythig a bod dwsinau o enwau Cymraeg ar bentrefi - Bettws-y-Crwyn, Llanvair Waterdine, Llanymynech, Trefarclawdd ac Argoed er enghraifft, a channoedd o enwau caeau a thai - Rhyd y Cwm, Gwern y Brenin a Phencraig er enghraifft.  Ond nid oeddwn yn disgwyl gweld cymaint o gyfenwau Cymreig.  Mae mwyafrif llethol yr enwau ar y gofeb Napoleanaidd yn rhai Cymreig, ac mae mwyafrif clir yr enwau ar y gofeb Rhyfel y Crimea a ymladdwyd ddeugain mlynedd yn ddiweddarach yn rhai Cymreig hefyd.  Mae'r niferoedd yma'n uwch nag y byddent yn y rhan fwyaf o gymdogaethau yng Nghymru heddiw.  

Yn y dref yma y gwelodd Y Cymro olau dydd gyntaf yn 1932 ac yn ol Gwyddoniadur Cymru roedd siaradwyr Cymraeg nad oedd a'u gwreiddiau yng Nghymru yn byw yn yr ardal ymhell i mewn i'r ugeinfed ganrif.  Dwi'n cofio siarad (yn y Gymraeg) efo hen gwpl yng Ngorsef Aberystwyth yn y saith degau hwyr oedd yn dweud eu bod yn byw wrth ymyl 'Soswallt'chwedl hwythau.  Wnes i ddim gofyn iddynt ar pa ochr i'r ffin roeddynt yn byw - mae Croesoswallt bum milltir o'r ffin efo Cymru. Roeddynt  wedi rhyfeddu at wrthrych roeddwn yn ei gario o dan fy nghesail, ac yn ceisio fy nghael i egluro sut oedd yn gweithio, a phwy oedd y 'parti' ar y clawr.  LP Geraint Jarman oedd gen i.  Roedd yna gapel Cymraeg - Horeb yn agored yn y dref ar ddechrau'r ganrif yma.  Mae nifer o siopau efo perchnogion sydd a chyfenwau Cymreig, a hyd y gwn i yma mae'r unig siop gwerthu llyfrau Cymraeg y tu allan i Gymru - er bod gen i gof plentyn o ymweld ag un yn Llundain yn y saith degau cynnar.

Does yna ddim byd yn newydd am hyn oll wrth gwrs - a dwi'n siwr bod nifer sy'n darllen y blogiad yma yn gwybod llawer mwy na fi am hanes y Gymraeg yn ardal Croesoswallt.  Ond mae'n drawiadol fel mae rhywfaint o'r cymunedau sydd y tu hwnt i Gymru sydd wedi cynnal y Gymraeg yn cael mwy o sylw cyfryngol na'i gilydd.  Mae'n ddealladwy bod mor a mynydd yn cael ei wneud o oroesiad yr iaith ar ochr arall y Byd ym Mhatagonia - ac mae'r ffaith bod ffigyrau blaenllaw ym myd darlledu yn byw yn Llundain yn egluro pam bod cymuned Gymraeg y ddinas honno yn cael cymaint o sylw.  Mae maint y gymuned Gymraeg yn Lerpwl yn y gorffennol yn egluro pam bod ei hanes hithau wedi ei groniclo'n gymharol drylwyr.  

Ond mae llawer Gymry Cymraeg wedi ymfudo yn y gorffennol i ddinasoedd a threfi ar hyd a lled y Byd, ac wedi byw o leiaf rhai agweddau ar eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg wedi gadael Cymru.  Er nad ydi trosglwyddiad iaith o un genhedlaeth i'r llall yn yr amgylchiadau hyn yn dda - mae straeon y bobl hyn yn rhan o stori'r Gymraeg. Ac mae stori'r Saeson yng Ngogledd Amwythig (a Swydd Henffordd) oedd yn siarad y Gymraeg yn rhan o stori'r Gymraeg hefyd.  Mae'n anffodus nad oes mwy yn cael ei wneud o hanes y cymunedau hynny.





2 comments:

helen Mary Jones said...

Pan o ni yn tyfi fynnu yn Sir Trefaldwyn yn y 70 roeddwn i'n amal yn dweud bod 'na mwy o Gymru Cymraeg yng Nhgorsowsallt no oedd yn Trallwng. (sori am safon y Cymraeg)

Anonymous said...

Diddorol tu hwnt.
O edrych ar y map ieithyddol yn dilyn cyfrifiad 1971, a'r defnydd ohono wedyn i ddiffinio 'Y Fro Gymreag' , credaf fod hynny'n dangos y buasai'r diffiniad yna yn anochel yn cynnwys yr ardal rhwng Dyffryn Ceiriog a Croesoswallt, er na holwyd y cwestiwn am iaith yn Lloegr. Dwi'n cofio cyfarfod rhyw hogiau yn y 'Wynnstay' yn Croesoswallt yn 1992 a oedd a'i ffermydd yn llythrennol ar y ffin. Yr oedd yr hogiau yma yn Gymry (gwrth-Seisnig iawn !) yn eu hugeiniau cynnar ar y pryd. Dwi hefyd yn cofio hogyno'r ardal oedd yn coleg hefo fi nad oedd erioed wedi byw yng Nghymru tan hynny.
Credaf fod yna gapel Cymraeg (Unedig) yno o hyd, ac yn rhyfedd iawn, yng nglwb Golff Croesoswallt mae twrnament golff gwenidogion a blaenoriaid yr hen gorff yn cael ei gynnal o hyd ! Croeoswallt ydi'r dref y buasai henoed Dyffryn Ceiriog yn ymddeol iddi, yn aml, a chredaf y buasai yna gymdeithas llawnach o Gymry yno na nunlle arall y tu allan i Gymru.
O ran ardaloedd eraill, cafodd fy nhaid gynnig fynd yn wenidog i Stoke yn y 30au, a dwi'n cofio'r rhaglen 'Almanac ? ' yn yr 80au'n gwneud stori ddifyr ar olion y Gymraeg yn Workington, dwi'n meddwl - roedd yna Eisteddfod draddodiadol yno ar y pryd, ond yn y Saesneg.
Ymhellach i'r De, tybiaf fod yr eglwys yn dymuno fod offeiriaid rhai o ddyffrynoedd anghysbell Gorllewin sir Henffordd yn siarad Cymraeg tan y ganrif ddiwethaf.
Mae yna wahaniaeth, wrth gwrs, rhwng olion Cymraeg cynhenid ( sef ardal Croesoswallt - ac ardal 'Y Dref Wen' Tecwyn Ifan ) ac olion cymdeithasau o fudwyr Cymraeg ei hiaith. Lerpwl fuasai'r enghraifft clasurol o'r rhain.