Dwi newydd dreulio'r diwrnod yn ardal Verdun, yng Ngogledd Ddwyrain Ffrainc. Mae'r dref yn lle hynod ddymunol a heddychlon ond mae'n enwog oherwydd brwydr erchyll rhwng yr Almaen a Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw cannoedd o filoedd ar y ddwy ochr yn ystod y frwydr - a barhaodd am 300 niwrnod. Cafodd naw o bentrefi ar y safle eu difa - rhai ohonynt wedi bod yn gymunedau hyfyw ers Oes y Rhufeiniaid. Nid oedd yn bosib dychwelyd iddynt wedi'r rhyfel oherwydd y difrod a'r holl ffrwydrolion marwol oedd ar hyd y lle. Serch hynny maent yn parhau i fod yn bentrefi yn llygaid y gyfraith gydag etholiadau i ddewis cyngor pentref a maer - i bentrefi sydd wedi eu chwythu oddi ar wyneb daear ganrif yn ol a lle nad oes fawr ddim ar ol o'r pentrefi gwreiddiol. Mae'r rhan fwyaf o'r coedwigoedd enfawr wedi eu cau i'r cyhoedd oherwydd eu bod yn parhau i fod a gweddillion dynol, gwenwyn rhyfel a ffrwydrolion sydd heb ffrwydro. Byddin Ffrainc yn unig sydd a hawl mynediad.
Serch hynny mae llawer i'w weld - ceiri tan ddaearol anferth a'r L'ossuaire de Douaumont er enghraifft. Lle i storio esgyrn ydi L'ossuaire. Mae'r un yn Douramont yn anferth - mae yna weddillion dynol 130,000 o filwyr yn L'ossuaire de Douaumont - yn Almaenwyr a Ffrancwyr. Mae'r nifer esgyrn yn cynyddu'n flynyddol fel mae mwy o weddillion yn cael eu darganfod a'u storio. Mae yna fynwent filwrol y tu allan lle claddwyd tua 16,000 o'r sawl y gellid eu hadnabod. Ceir mynwentydd tebyg yma ac acw ar hyd yr ardal. Roedd mwyafrif llethol y sawl fu farw yn yr ardal yn ddynion yn eu dau ddegau, a'u tri degau cynnar - oed fy mhlant i heddiw. Bywydau nad oedd wedi hanner eu byw yn llythrennol wedi eu chwythu'n ddarnau.
Mae'n bosibl ymweld a'r naw pentref coll - er nad oes yna ddim llawer i'w weld ag eithrio ychydig o adfeilion treuenus, arwyddion i ddangos pwy arferai weld yn lle, ac eglwys fechan sydd wedi ei hadeiladu ar pob safle yn y blynyddoedd ar ol y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'r cysylltiad gwleidyddol yn weddol amlwg mae'n debyg gen i. Y ganrif ddiwethaf oedd yr un mwyaf gwadlyd yn hanes y ddynoliaeth o ddigon. Roedd y rhyfeloedd a arweiniodd at y tywallt gwaed yn cael eu gyrru gan ddwy ffrwd wleidyddol wahanol imperialaeth a gwrthdaro ideolegol. Cenfigen a drwg deimlad rhwng y sawl oedd yn rheoli pwerau imperialaidd mawr oedd yn gyfrifol am yr hyn ddigwyddodd yn Verdun, a chafwyd cryn dywallt gwaed yn ail hanner y ganrif pan oedd yr ymerodraethau mawr yn syrthio'n ddarnau. Ac wedyn roedd yna'r gwrthdaro ideolegol oedd yn y bon yn ymwneud ag anghytundeb ynglyn a'r ffordd orau o drefnu economiau.
O edrych yn ol mae llawer o'r hyn oedd yn achosi i bobl ddefnyddio dulliau diwydiannol i ladd ei gilydd yn eu cannoedd o filoedd yn ymddangos yn ddi sylwedd a di ddim erbyn heddiw. Ond ar y pryd roedd
gwleidyddion y pleidiau sefydliadol ynghyd a'r wasg oedd yn eu cefnogi yn datgan yn groch bod rhaid mynd i ryfel er mwyn atal rhyw erchylldra neu'i gilydd. Doedd yna ddim consensws sefydliadol tros pob rhyfel - er enghraifft roedd ein cyfeillion yn y Daily Mail yn groch yn erbyn cymryd rhan yn yr Ail Ryfel Byd - cyn iddi ddechrau - er eu bod o blaid bron i pob rhyfel arall a gymrodd Prydain ran ynddi trwy'r ganrif. Ond roedd lled gonsensws yn amlach na pheidio, ac roedd y farn gyhoeddus yn cael ei llywio mewn modd oedd yn ei gwneud yn bosibl i gychwyn a chynnal rhyfel.
Mae ein hanes diweddar yn dangos yn glir i ni nad ydi lled gonsensws gan y sefydliad gwleidyddol yn golygu bod y consensws hwnnw yn gywir. Mae hynny yr un mor wir am ryfeloedd y ganrif ddiwethaf ag yw am wleidyddiaeth y ganfif yma. Roedd barn y Toriaid a Llafur am ymyraeth yn Afghanistan ac Irac yn gwbl anghywir. Roedd polisi economaidd neo ryddfrydig a'r llyfu a llempian o gwmpas banciau anghyfrifol yn gwbl anghywir, roedd yr ymgyrch ofn a dychryn yn erbyn annibyniaeth i 'r Alban wedi ei seilio ar gelwydd, dydi'r gred gwltaidd mewn llymder ddim yn gwneud unrhyw synnwyr economaidd, ac mae'r corws sy'n rhybuddio yr aiff Llafur i ddifancoll os ydynt yn dewis arweinydd sydd o'r tu allan i'r consensws sefydliadol hefyd yn anghywir.
Mae coelio nonsens y grwpiau cul sy'n berchen y cyfryngau a sy'n rhedeg y sefydliadau gwleidyddol yn San Steffan wedi arwain at drychineb ar ol trychineb yn ystod y ganrif ddiwethaf, a does yna ddim lle o gwbl i gredu y bydd dilyn yr un grwpiau yn gibddall yn arwain at ganlyniadau llesol yn ystod y ganrif yma chwaith.
No comments:
Post a Comment