Mae hyn yn y bon yn eithaf syml. Mae gan Blaid Cymru reolau cadarn sy'n gwahardd unrhyw aelod rhag ymaelodi a phlaid sy'n sefyll yn erbyn y Blaid mewn etholiadau. Felly mae aelodaeth ddeuol o'r SNP a'r Blaid yn bosibl, ond tydi aelodaeth ddeuol o'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ddim yn bosibl. Os oes aelod o'r Blaid yn ymuno a'r Blaid Lafur, yna bydd yn colli ei aelodaeth o Blaid Cymru yn ddiymdroi. 'Does gan y Blaid ddim rheolaeth o gwbl tros yr hyn mae pobl nad ydynt yn aelodau yn ei wneud.
Ond mae Llafur wedi penderfynu ar drefn bisar o ddewis arweinydd lle mae gwahanol grwpiau o bobl yn cael pleidleisio, lle mae pobl o unrhyw gred wleidyddol yn cael ymuno fel aelodau ategol am bris gostegol yn unswydd i gael pleidleisio, lle mai'r Aelodau Seneddol sy'n cael dewis pwy sydd yn cael sefyll ond bod rhai ohonynt yn enwebu rhywun nad ydynt eisiau iddo gael ei ddewis. Trefn or gymhleth, afresymegol, boncyrs sy'n gofyn am broblemau.
Bai un plaid ydi'r shambyls yma, ac nid Plaid Cymru ydi honno.
2 comments:
Rwyn cofio dy flog yn cyfeirio at y faith iddo golli 15000 o bleidleisiau ers cael ei ethol gyntaf. Yr hyn sy'n rhyfeddol ydi fod na unrhyw un yn dal i bleidleisio iddo. Tory mewn tei coch os buodd na un erioed. Yn gyson wedi pleidleisio o blaid rhyfeloedd anghyfreithiol ei blaid yn Iraq ac yna'r hyfdra i wrthwynebu (yn gyson) unrhyw ymchwiliad i'r rhyfeloedd.
Ar ben hyn i gyd mae o mor brysur yn newid cyfeiriadau yn Llundain dwi'n synnu fod yr amser ganddo i fod yn ymwybodol o unrhyw ornest am arweinyddiaeth ei blaid.
Mi fyddai dyn wedi disgwyl y byddai troi 30,000 pleidlais i 15,000 yn y Rhondda wedi rhyw awgrymu i Chris bod ei blaid ar y trywydd anghywir - ond na, mwy o'r un peth sydd ei angen. Pwy dwi i ddadlau
Post a Comment