Thursday, June 04, 2015

Llafur ac ymgeisyddiaeth ddeuol i'r Cynulliad

Mae ymateb Leighton Andrews ac Alun Davies i'r newyddion bod Leanne Wood wedi rhoi ei henw ymlaen ar gyfer ymgeisyddiaeth ar restr Canol De Cymru yn ogystal a bod yn ymgeisydd yn etholaeth y Rhondda yn ragweladwy.  Mae Leighton yn ein sicrhau mai dim ond yn y Rhondda y bydd o yn sefyll, tra bod Alun Davies - am resymau sydd ond yn amlwg iddo fo ei hun - yn mynegi 'siom'. 


 

Wnaeth Leighton ddim dweud iddo yntau ymddangos fel ymgeisydd rhestr yn ogystal ag ymgeisydd rhestr yn 2003 - a wnaeth yr un o'r ddau son nad oes yna fawr o bwrpas iddyn nhw eu hunain roi eu henwau ar y rhestrau oherwydd ei bod yn hynod anhebygol y byddant yn cael eu hethol yn y ffordd yna.

Beth bynnag, dyma un neu ddau o ffeithiau ychwanegol am y gyfundrefn etholiadol anarferol sydd gennym yn etholiadau'r Cynulliad.  

Syniad Llafur oedd y drefn yma yn y lle cyntaf - nhw ddaeth a'r drefn i fodolaeth ar gyfer etholiadau 1999 - yng Nghymru a'r Alban.

Cefnogodd Llafur adael trefniadau etholiadol Cymreig yn nwylo Llywodraeth y DU, a hwy yn nes ymlaen a symudodd y gwaharddiad ar ymgeisyddiaeth ddeuol yng Nghymru - ond wnaethon nhw ddim byd o gwbl am ymgeisyddiaeth ddeuol yn yr Alban. 

Mae'n wir ei bod yn bosibl dadlau bod ymgeisyddiaeth ddeuol yn gwobreuo methiant - ond mae yna ffordd hawdd o gwmpas hynny - sefydlu trefn etholiadol STV fel y ceir yng Ngogledd Iwerddon.  Byddai hynny yn gwobreuo ymgeiswyr cryf, byddai'n sicrhau bod Aelodau Cynulliad yn uniongyrchol atebol i etholwyr a byddai'n decach a mwy chyfrannol na'r drefn sydd ohoni.  Dyna ydi polisi Plaid Cymru a'r SNP, ond 'does gan Llafur ddim diddordeb mewn symud i'r cyfeiriad yma.

Mae'r rhesymau tros ymddygiad anghyson Llafur yng nghyd destun y mater hwn yn weddol gyfarwydd - buddiannau Llafur sy'n dod gyntaf i Lafur pob amser.  Mae ymgeisyddiaeth ddeuol o fantais iddynt yn yr Alban, 'dydi hynny ddim yn wir yng Nghymru.  Felly maent yn erbyn ymgeisyddiaeth ddeuol yng Nghymru tra eu bod o blaid trefn felly yn yr Alban.  

Maent yn erbyn STV oherwydd y byddai hynny yn golygu y byddant angen tua 45% o'r bleidlais i gael mwyafrif llwyr - gallant wneud hynny efo llai na 40% o dan y drefn sydd ohoni.

Mae'n reol di feth bod lles y Blaid Lafur Gymreig yn dod cyn pob dim arall yng nghyd destun datganoli.  Dyna sy'n egluro eu hagwedd at y drefn o ethol Aelodau Cynulliad, a dyna sy'n egluro yr holl anghysondebau eraill sydd ynghlwm a'r setliad datganoli yng Nghymru - roedd y setliad ei hun yn ganlyniad i broses o gyfaddawdu oedd wedi ei lunio i fynd i'r afael a thyndra oddi mewn i'r Blaid Lafur - nid oedd yn ganlyniad i ddyhead i sicrhau llywodraethiant effeithiol.











7 comments:

Anonymous said...

Ac mae nhw'n maeddu galw eu hunain yn 'progressives'!

Oes gan Blog Menai sylwadau ar Liz yr ymgeisydd Blairaidd yn swyno Carwyn, Doughty, Nick Smith a Chris Evans?

Crwt o'r wlad said...

Cytuno'n llwyr ond "y Blaid Lafur Gymreig"? Does dim byd Cymreig (na Chymraeg) am y Blaid Lafur. Mae'r haul yn codi ac yn gostwng yn nhin Lloegr i'r bradwyr yma. Gorau pa mor gyflym gellir torri eu crib.

Cai Larsen said...

Mi fyddwn yn edrych ar arweinyddiaeth Llafur maes o law.

Anonymous said...

Ymddiheuriaf: meiddio nid maeddu uchod am 6.08.

Unknown said...

Diddorol iawn Cai. Diolch

Anonymous said...

Crwt o'r wlad wedi codi pwynt pwysig.

Yn y Guardian ddoe, 04. 06. 2015, roedd yna ddadansoddiad manwl o'r hyn aeth o'i le yn ymgyrch y Blaid Lafur. Tua'r diwedd y darn hirfaith cafwyd un frawddeg eithaf damniol.

Miliband's aides say that looking back, he blames the Labour defeat on the SNP (Dyma mae'n amlwg y prif reswm).. ac yna .. yna ..

ac yn olaf,

" the party's wariness to discuss identity or Englishness."

Englishness sylwch nid Britishness. A finna'n meddwl mai plaid Unoliaethol yn ymladd etholiad Prydeinig oedd etholiad 2015 i Lafur.

Rwan beth mae Englishness yn ei olygu ? Iaith, diwylliant, arferion, traddodiadau ?

Sawl cwestiwn difyr yn codi

1. Englishness - rwan ydi hwn yn rhywbeth ar gyfer Lloegr yn unig, neu fel yn achos criced, England and Wales.
2. Ydi'r Blaid Lafur, yn sgil canlyniadau 2015, felly wedi cefnu ar Sgotland, unwaith ac am byth ?
3. A fuo yna unrhyw ymgynghori gyda Carwyn Jones a'r Blaid Lafur yng Nghymru yn ystod y broses hon o geisio dadansoddi methiant etholiad 2015 ?

Petai hyn wedi digwydd, yna mi fysa rhywun does bosib yn y 'branch office' yng Nghaerdydd wedi tynnu sylw Llundain at oblygiadau'r frawddeg ryfeddol hon.

Ta waeth - ceisiwch ddarllen yr erthygl. Hynod ddifyr!

Anonymous said...

"Mae'n reol di feth bod lles y Blaid Lafur Gymreig yn dod cyn pob dim arall yng nghyd destun datganoli."

Aye..
ac yn amgenach onid oedd "Cyn pob dim arall" "lles" Leanne a'i thebygrwydd o'i hethol gyda chynllun "B" yn ei hol-boced yn enghraifft o'r "rheol haearnaidd oligarchiaieth" y cymdeithasegydd gwleidyddol Michels ar waith?

R'oedd Michels wedi sylwi fod galwadau cystaleuaeth etholiadol chwim yn rhwym o orseddu cnewyllyn o gewri ar y brig o fewn pob plaid - hyd yn oed mewn pleidiau ar y chwith fel y Democratiaid Cymdeithasol yn yr Almaen - a hynny ar draul y "drones" cyffredin.

Oes 'na ddisgwyl i hoelion wyth pleidiau gwleiddyddol (beth bynnag ydy anghytundebau PC, Llafur, ayb a'u gilydd) fynnu ymostwng, gan wadu eu hunain y gwobrau melys? Wedi'r cwbl,nhw sydd wrthi benna' fel y rhai cyntaf i'r felyn; a chaiff y lleill falu rhywle arall..