Sunday, June 07, 2015

Etholiad y Cynulliad a'r Refferendwm

Mi fydd y sawl ohonoch a edrychodd ar fersiwn Gymraeg y Politics Show heddiw yn ymwybodol i Dafydd Elis Thomas a'r Aelod Cynulliad Mike Hedges anghytuno ynglyn ag amseriad refferendwm Ewrop.  Roedd Dafydd Elis Thomas yn croesawu cynnal y ddwy etholiad ar yr un diwrnod tra bod Mike Hedges yn dadlau y dyliwn gael canolbwyntio ar faterion Cymreig yn etholiad y Cynulliad.  Y Llafurwr sy'n gywir yn yr achos hwn, a'r pleidiwr sy'n anghywir mae gen i ofn.

Refferendwm Ewrop fydd yr etholiad pwysicaf am ddegawdau ar lefel Y DU ers degawdau - bydd yn diffinio sut wlad fydd y DU yn y dyfodol, a byddai pleidlais i adael Ewrop yn debygol o arwain at ymadawiad yr Alban o'r DU.  Bydd effaith y canlyniad yn barhaol ac yn ddi droi'n ol.   Bydd y cyfryngau yn ymwybodol o hyn oll, a bydd y newyddion wedi ei ddominyddu gan gwestiwn Ewrop am wythnosau lawer cyn y bleidlais.  

Ar yr amser gorau mae'n anodd i pob plaid redeg ymgyrch effeithiol mewn etholiad Cynulliad.  Gan bod y rhan fwyaf o bobl Cymru yn cael y rhan fwyaf o'u newyddion o gyfryngau Seisnig mae'r air war y byddwn yn son amdani'n aml yn anodd i'w chynnal i'r holl bleidiau.  Dydi'r mwyafrif  ddim yn cael llawer o fynediad i'r ddisgwrs etholiadol, ac o ganlyniad mae etholiadau'r Cynulliad yn aml yn fwy tebyg i gyfres o is etholiadau lleol ar un ystyr.  Mae hyn o fantais i bleidiau sydd efo peirianwaith lleol cryf, ond mae'n anodd i ymgyrch genedlaethol lwyddo.

Byddai pethau'n llawer, llawer gwaeth pe cynhelid yr etholiad yng nghanol swn byddarol refferendwm Ewrop.  Dylai etholiad y Cynulliad gael ei hymladd ar record y llywodraeth tros y pum mlynedd diwethaf tros faterion datganoledig yn ogystal a chyfeiriad cyfansoddiadol Cymru yn y dyfodol agos.  Petai'r ddwy etholiad ar yr un diwrnod byddai'r materion hynny wedi eu gwthio i ymylon eithaf y ddisgwrs gyfryngol. Byddai gwerth yr etholiad Cynulliadwedi ei lastwreiddio'n llwyr.

7 comments:

Anonymous said...

"Y Llafurwr sy'n gywir yn yr achos hwn, a'r pleidiwr sy'n anghywir mae gen i ofn."
Pa un ydy'r Llafurwr?
Er gwaethaf enw ei blaid, dydw i ddim yn gweld Pleidiwr wedi ei enwi.

Anonymous said...

Pryd gallwn ni gael gwared ar DET. Mae'n AC gwrth-Blaid Cymru. Pryd oedd y tro diwethaf ddweud unrhyw beth sy'n crfyhau'r Blaid?

Byddai cynnal y ddwy etholiad ar yr un diwrnod yn hurt. Penderfynwyd peido cynnal etholiadau Ewrop a lleol ar yr un diwrnod am y 'run rheswm. Mae natur refferendwm hefyd yn wahanol iawn i un etholiad. Ond wrth gwrs, rydym ni'n gwybod hynny'n barod.

DET unwaith eto jyst eisiau sylw. Mae'n barod i ddweud unrhyw beth 'mond i gael 10 munud mewn stiwdio deledu.

Mae wedi bod yn aelod niweidiol i Blaid Cymru ers degawdau bellach. Mae'n aelod o Blaid Dafydd Elis Thomas - dim ond ei ego sy'n cyfri.

Unknown said...

Gwir pob gair Mr Larsen!

Anonymous said...

Y mae Dafydd El yn gocyn hitio ymylol - ond handi gofiwch - i gyd-fynd a chonsensws deu-bleidiol annebyg yma tydi?

Er waetha perfformiadau sy'n amrywio, y mae Plaid Cymru yn hanesyddol yn dueddol o droi allan cyfran ychydig uwch o'u pleidleiswyr adeg etholiadau Cynulliad. Cyfran uwch o nifer llai i raddau h.y.

A wedyn, onid oes 'na ofn ar ran Llafur am bleidleis UKIP uwch ar y diwrnod?
Oes 'na ddarpar-egwyddor yma o osgoi drysu pleidleiswyr fel na ddylid agor bythau pleidleisiau am fwy nag un etholiad ar unwaith? Go brin..Er waetha'r cyfryngau, d'oes dim o reidrwydd yn atal y pleidleiswyr rhag wahaniaethu eu dewisiadau priodol a phwyll fesul etholiad/referrendwm nacoes?

Dangoswyd Blogmenai - gyda llongyfarchiadau i hen Siroedd Bycheiniog a Maesyfed cofier - fap o'r nifer uwch o bobl ddaru droi allan i fwrw pleidleisiau yn yr etholiad cyffredinol fel bod y sgor uchel 'ma yn beth da i'w ddynwared.
Heb son am arbedr arian, os am hybu cyfranogiad o droi ychwaneg o bobol allan ar draws Cymru (er hwyrach Brych/Maesyfed a'i piau hi eto) i, beth am bleidleisio etholiad a referendwm ar yr un pryd amdani?

Anonymous said...

Mewn etholiadau - Cynulliad, Senedd neu Gyngor Sir, y pleidiau gwleidyddol fel arfer, sydd yn gwneud y gwaith o ddewis ymgeiswyr, canfasio, dosbarthu llenyddiaeth ac ymgyrchu.

Mewn refferendwm, mae'r pleidiau yn aml yn dod at ei gilydd. Mae yna yna un criw yn ymgyrchu o dan y faner Ia - tra ma'r lleill yn ymladd o dan enw Na.

Yn ddiweddar yng Nghymru mae'r pleidiau wedi cyd-weithio'n eithaf llwyddiannus ar fater refferendwm. Dwi'n cofio'n iawn (fel Pleidiwr) cyfnod o gyd-weithio'n hapus iawn hefo Cledwyn, ag aelodau eraill o'r Blaid Lafur, a hefyd amball i Ryddfrydwr ym Mon yn ystod refferendwm 1997.

Ond - y cwestiwn syml sydd gen i yw - sut fysa trefnu pethau felly yn 2016, os y cynhelir y cyfan ar yr un diwrnod?

Cyfarfod Refferendwm heddiw - a phobol yn cyd-weithio'n hapus.
Yna fory, ymgyrch Cynulliad, a'r un bobol yn waldio, colbio a lladd ar naill ar llall.

Be aflwydd fydda'r cyhoedd yn ei wneud o sefyllfa o'r fath ?

Mae cymysgu'r ddau beth felly yn hollol anymarferol, ac mae Dafydd El yn deall hyn yn iawn.

Felly Dafydd - pam wnes ti wneud y fath ddatganiad hurt ?



Anonymous said...

Dyma sylwadau'r Comisiwn Etholiadau - mis Mai 2015

Timing of the EU Referendum

Following our report on the Scottish Independence Referendum, we said that holding a poll on such an important constitutional issue on a separate day from any other elections helped both administrators and campaigners plan their activity more effectively and gave voters space to engage with the issues. We said that for other high-profile issues likely to attract cross-party campaigning, such as the UK’s membership of the European Union, a referendum should be held on a separate day to other polls.

Unrhyw sylw DET ?

Anonymous said...

"Refferendwm heddiw - a phobol yn cyd-weithio'n hapus"

Gofynwch i Lafur: oedd ymgyrchu a'r Toriaid ayb ar y cyd yn erbyn annibyniaeth i'r Alban yn gymorth i'r blaid o ran yr etholiad cyffredinol cnalynol yn yr Alban?

Gwelir o bryd i'w gilydd (yn anaml) ymgeisydd mewn trafodaeth yn dweud rhywbeth fel hyn ("Digwydd bod, am unwaith, dwi'n cyd-fynd a'm gwrthwynebydd ar y mater pennodol yma o leia'") Gall ymgeiswyr a phleidleiswyr drin a thrafod fwy nag un testun ar yr un pryd. Y mae hi'n bosibl i etholiadau gynnwys nifer o bynciau llosg ar yr un pryd.

O ran cwango'r Comiswn Etholiadau, ydyn nhw wedi gofyn i bleidleiswyr mewn rhagolwg barn a fyddai cwpl o etholiadau wrth eich boddau i gymryd rhagor o amser dros y proces neu well gennych chi wneud pob dim ar unwaith?