Tuesday, April 21, 2015

Sut i sicrhsu bod Cymru'n cael triniaeth deg

Mae'n debyg na ddylai fod o fawr o syndod i neb bod plaid nad oes a chysylltiad uniongyrchol a Chymru - yr SNP - o blaid i Gymru gael ei hariannu yn gyfartal a'r Alban tra bod y Blaid Lafur 'Gymreig' yn gwbl hapus i Gymru gael ei than ariannu.  

Mae hyn wrth gwrs yn ei gwneud yn fwy tebygol y caiff Cymru ei hariannu yn deg os bydd yr SNP mewn sefyllfa i ddylanwadu ar lywodraeth Lafur.  Fodd bynnag, mae'n bwysig deall mai'r unig ffordd o sicrhau triniaeth deg i Gymru mewn gwirionedd ydi trwy anfon tim cryf o Bleidwyr i San Steffan.  Real politic y sefyllfa ydi mai'r Alban fydd blaenoriaeth yr SNP, a byddai ethol llond trol o'r unoliaethwyr arfetol o Gymru i San Steffan yn rhoi'r neges glir bod Cymru yn hollol hapus efo'i sefyllfa dreuenus.  


1 comment:

Anonymous said...

Ond pam nad oes yr un ddeffroad i'w gael yn y rhannau diwydiannol o Gymru sydd i'w weld mewn llefydd cyhafal yr Alban? I fi, dyna'r cwestiwn mawr.

KAM