Mi aeth yr erthygl yma - a ymddangosodd yn y Telegraph yn ddiweddar - a fi'n ol flynyddoedd lawer. Dyma pam.
Flynyddoedd maith yn ol roeddwn i'n gweithio fel ymchwilydd yn Archifdy'r Sir yng Nghaernarfon. 'Doedd y swydd ddim yn talu yn dda, a doedd beth yn union roeddwn yn ymchwilio iddo ddim pob amser yn gwbl glir - ond roedd i'r swydd ei manteision. Un o'r rheiny oedd bod digon o gyfle i dreulio amser yn y 'stafelloedd dogfennau yn bodio trwy peth o'r cannoedd o filoedd o ddogfennau sydd yno. Cofio'r oeddwn bod yn yr ystafell bapurau newydd a dod ar draws adroddiadau yn y wasg Gymreig ar Wrthryfel Dydd Sul y Pasg yn Nulyn yn 1916. Roedd yr ymateb yn un o anghrediniaeth llwyr - canlyniad i orffwylldra cynhenid y Gwyddelod - yn ol y papurau beth bynnag.
Roeddwn yn gwybod bryd hynny bod yr hyn a ddigwyddodd yn Nulyn ar y bore dydd Sul hwnnw yn ganlyniad i nifer o brosesau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasegol oedd wedi bod yn mynd rhagddynt am ddegawdau lawer. Roedd hefyd yn gatalydd i newidiadau a ddigwyddodd yn ddiweddarach. Doedd yna ddim disgwyl i'r sawl oedd yn 'sgwennu papurau newydd y pryd ddeall hynny wrth gwrs - roeddynt yn byw mewn oes lle nad oedd gwleidyddiaeth na chymdeithaseg yn cael eu hastudio. Felly roedd y gohebwyr hynny yn syrthio'n ol ar eu rhagfarnau i egluro'r hyn oedd wedi digwydd.
Dydi hynny ddim yn wir heddiw, a does gan y Telegraph ddim esgys o gwbl i syrthio ar eu rhagfarnau i egluro datblygiadau gwleidyddol nad ydynt yn eu deall na'u croesawu. Mi dria i roi'r hyn sy 'n digwydd yn yr Alban mewn cyd destun hanesyddol - a gwneud yr hyn nad ydi'r Telegraph am ei wneud - rhoi eglurhad call am yr hyn sy 'n digwydd. Mae'r stori yn dechrau go iawn efo diflaniad yr Ymerodraeth Brydeinig yn chwe degau'r ganrif ddiwethaf.
Ar ben hynny mae'r rhan fwyaf o ddigon o'r bobl oedd yn fyw yn ystod yr Ail Ryfel Byd bellach wedi marw. Roedd y profiad hwnnw yn un pwerys oedd yn clymu trigolion y DU at ei gilydd - ac yn rhoi teimlad cryf o bwrpas cyffredin. Roedd yn brofiad trawmatig roedd pawb wedi ei brofi efo'u gilydd. Rhan o hanes ydi'r profiad hwnnw bellach.
Roedd y ddau ffaith yma ar eu pennau eu hunain yn ddigon i greu newid sylfaenol yn hunaniaeth Albanwyr (a Saeson a Chymru o ran hynny). Mae'n debyg bod pobl wedi bod yn dechrau gadael Jac yr Undeb ac ymgynull o gwmpas y Saltire ers diwedd y chwe degau yn yr ystyr bod hunaniaeth cenedlaethol niferoedd sylweddol o bobl wedi dechrau newid bryd hynny.
Pan mae pobl yn son am yr hyn ydi'r Alban heddiw - hyd yn oed papurau anwybodus fel y Telegraph -daw blynyddoed Thatcher yn rhan o'r naratif o flaen dim byd arall. Roeddynt yn bwysig - ond efallai ddim am y rheswm mae'r Telegraph ac ati yn ei feddwl. Mae'n wir i Thatcher greu drwgdeimlad gwirioneddol tuag at y Toriaid yn yr Alban - a chreu amgylchiadau lle'r oedd pleidleisio tachtegol yn digwydd ar hyd a lled yr Alban yn eu herbyn. Ond arweiniodd ei pholisiau at ddad - ddiwydiannu rhannau eang o'r Alban - yn arbennig felly yng nghyd destun diwydiannau oedd wedi eu gwladoli. Roedd y diwydiannau hyn gyda gweithluoedd mawr oedd yn perthyn i undebau llafur yn darparu byddinoedd o bleidleiswyr i Lafur. Pan ail strwythurwyd yr economi aeth yn llawer mwy cymhleth yn economaidd - ac roedd goblygiadau gwleidyddol i'r cymhlethdod newydd yma - erbyn diwedd cyfnod Thatcher roedd y naratif etholiadol traddodiadol yn llai effeithiol o lawer.
Trwy gydol y cyfnod yma roedd hen hollt yng nghymdeithas Gorllewin yr Alban yn dod yn llai pwysig. Yn draddodiadol roedd Pabyddion oedd a'u gwreiddiau yn yr Iwerddon yn tueddu i bleidleisio Llafur tra bod Protestaniaid yn fwy tueddol o bleidleisio i'r Toriaid. Gyda dadfeiliad y bleidlais Doriaidd cafodd yr SNP hi'n llawer haws i ddenu pleidlais Brotestanaidd na'r bleidlais Babyddol. Arhosodd hwnnw at ei gilydd efo Llafur. Arweiniodd hyn at sefyllfa abswrd lle'r oedd llawer o unoliaethwyr yng nghyd destun Iwerddon yn genedlaetholwyr Albanaidd, tra bod cenedlaetholwyr Gwyddelig yn unoliaethwyr Albanaidd. Gwnaeth y twf mewn hunaniaeth Albanaidd yr hollt hanesyddol yma'n llawer llai pwysig.
Ymateb i newidiadau cymdeithasegol yn Lloegr oedd New Labour, Tony Blair. Wna i ddim mynd i mewn i hon gormod, ond llusgwyd y Blaid Lafur yn ei gyfanrwydd i'r Dde. Roedd y newid yn hynod llwyddiannus tros y DU - ac yn yr Alban hefyd ar y cychwyn, ond mi newidiodd y ffordd roedd pobl yn edrych ar y Blaid Lafur yn yr Alban. Roedd yn ei gwneud yn hawdd i'r SNP leoli ei hun i'r Chwith i Lafur (lleoliad llawer o gefnogwyr naturiol Llafur) ac erbyn 2007 roedd mewn grym yn Holyrood. Mae'n dal mewn grym yno - ac mae'r sefyllfa yna'n debygol o barhau i'r dyfodol.
Erbyn diwedd y cyfnod Blair roedd y tirwedd gwleidyddol wedi newid ac enillodd yr SNP etholiad Holyrood 2007. Roedd hyn yn bosibl oherwydd y newidiadau rwyf wedi eu disgrifio ond roedd hefyd i raddau yn ganlyniad i ganfyddiad bod y personel oedd ar gael yn fwy effeithiol (hy competent) na'r hyn oedd gan Llafur i'w gynnig. Roedd talent gwleidyddol Llafur yn cronni o gwmpas San Steffan tra mai Holyrood oedd yn tynnu talent yr SNP. Cafwyd mwyafrif llwyr yn 2011 ac agorodd hynny y drws i'r refferendwm.
Profodd y refferendwm yn gatalydd - ychydig fel digwyddiadau 1916 yn yr Iwerddon. Pleidleisiodd rhai o'r ardaloedd cryfaf i Lafur o blaid annibyniaeth a syfrdanwyd llawer o'u cefnogwyr gan natur (hynod fudur) yr ymgyrch Na. Yn waeth na hynny daeth gwleidyddiaeth beinari idiotaidd Llafur yn ol i'w brathu. Fel roedd Llafur wedi symud yn nes at y Toriaid o ddiwedd yr 80au ymlaen roeddynt wedi gorfod diafoli'r Toriaid fwyfwy gan ddweud wrth yr etholwyr y byddai'n rhaid iddynt fotio Llafur neu byddai'r Toriaid yn dod i fwyta eu babanod a lluchio eu rhieni oedranus i'r mor. Doedd gweld Llafur yn ymgyrchu ochr yn ochr a Thoriaid (ac UKIP) yn defnyddio papurau Toriaidd ac yn amddiffyn llywodraeth Doriaidd ddim yn edrych yn dda i'w dilynwyr traddodiadol. Cafodd llawer eu dadrithio ym mhlaid eu tadau a'u teidiau.
Gwnaed hynny 'n waeth gan y teimladau annifyr a adawyd yn sgil y refferendwm - ymdeimlad iddi gael ei cholli oherwydd mor o gelwydd, ymdeimlad bod y genhedlaeth hyn wedi dwyn dyfodol y genhedlaeth iau, ac yn fwy na dim ymdeimlad mai dwy ochr i 'r un geiniog oedd y Toriaid a Llafur er gwaetha'r holl greu gwahaniaethau ffug.
A felly dyma ni - mae aelodaeth yr SNP yn anferth ac yn cynyddu yn ddyddiol, mae'r polau yn awgrymu y bydd dwsinau o seddi Llafur a Lib Dem yn syrthio i'r SNP fis nesaf, ac mae'n fwy na phosibl y bydd refferendwm arall erbyn 2020. Mae hyn oll yn ganlyniad i brosesau cymdeithasegol, economaidd a gwleidyddol - ac yn ddim i'w wneud ag eglurhad mymbo jymboaidd y Telegraph.
4 comments:
SNP yn ei hanterth; ac ar yr un pryd r'oedd Political Betting yn nodi gostyngiad bach diweddar ym mhleidlais "Ie" dros annibyniaeth - mwyafrif (tenau iawn)o hyd o blaid yr Undeb o hyd. Nid yw'r iaith yn yr Alban yn glawdd ar batrwm Quebec ond oes 'na gyfle i gefnogaeth SNP ymestyn hyd at nenfwd uchel iawn - ond dim cyn uched a sofraniaeth (ar wahan oddiwrth Lundain/Ottawa)ei hunan?
A yw'r Albanwyr yn defnyddio'r SNP fel dull o gael y gorau tybiedig o ddau fyd ?
hy, pwer dros ei bywydau pob dydd ar lefel Albanaidd, ac eto insiwrnas argyfwng o fod yn rhan o luoedd arfog Prydain ?.
Ai 'Devo-Max-Max' yw gwir amcan yr Albanwyr ?, ac maent yn gweld pleidlais dros yr SNP fel y dull cyflymaf o'i gael.
Gwelais innau'r arolwg, ac mae'n rhyfedd fod y gefnogaeth 'Ie' yn disgyn wrth i'r SNP gamu ymlaen.
Y maen prawf i hyn oll fuasai pleidlais aelodaeth o'r UE. Buasai hynny yn chwalu'r Undeb.
Alban unffordd, Lloegr y ffordd arall, a Chymru rhywle yn y canol.
Druan o Gymru felly ...
Byddai opsiwn 'devo max' gwir wedi ennill yn y refferendwn yn llethol, ac wrth gwrs dan ni'n aros am y Vow o hyd! Ond dwi'n credi ei fod rhy hwyr erbyn hyn.
KAM
"Pleidlais aelodaeth o'r UE" ac "Ewrob y rhanbarthau" (am y tro..)
Ie..y bwgan sy'n llechu tu ol y lleni..
caiff Iwerddon ychwaneg o bres na Chymru a'r Alban o goffrau Brwsel ondrhaid caniatau am boblogaeth a statws aelodaeth.
Uwch?mantais Iwerddon fel cyfran (yn ol poblogaeth) o gyllideb Brwsel neu ymyl Barnett yr Alban o fewn y DU?
Pwy a wyr?
Post a Comment