Rydym wedi chwerthin ar ben camddealltwriaeth Alun Pugh ynglyn a natur etholiad San Steffan yn y gorffennol. Mae'n ymddangos i lafurio efo'r argraff bod aelod seneddol Arfon am gael ei wneud yn arlywydd, a'i fod felly am gael gweithredu unrhyw ddeddfwriaeth mae eisiau ei gweithredu.
Y gwir wrth gwrs ydi pe byddai Arfon yn ethol Alun byddai'n ethol ci bach ufudd a'i brif flaenoriaeth fyddai ufuddhau i'r chwipiaid Llafur. Hyd yn oed petai pawb yng Nghymru yn fotio i gael cwn bach ufudd Llafur i'w cynrychioli yn Llundain, mae'n hynod anhebygol y byddai'n gwneud gwahaniaeth o ran pwy sy'n rheoli yn San Steffan.
Ta waeth mae Alun wrthi eto yn dweud wrth bobl Arfon mai'r unig beth sydd rhaid iddynt ei wneud i gael gwared o dreth llofftydd ydi ethol Alun. Mae'n rhaid ei fod a meddwl isel o ddeallusrwydd ei ddarpar etholwyr.
Y broblem ydi wrth gwrs, ei bod anodd gwybod pa mor ddifrifol y dylid cymryd addewidion Llafur. Wedi'r cwbl roedd Llafur yn addo cael gwared o gytundebau sero awr cyn belled yn ol a 1995 a chawsant dair blynedd ar ddeg faith i wneud hynny, ond wnaethon nhw ddim trafferthu. Efallai mai un o'r rhesymau am hynny ydi oherwydd bod dwsinau o aelodau seneddol Llafur yn cyflogi eu staff ar gytundebau sero awr.
Petai Llafur yn cael ei hethol i lywodraethu yn San Steffan y tebygrwydd ydi y byddai'r addewid yma yn mynd yr un ffordd a'r un cytundebau sero awr - oni bai bod yr SNP a/neu Plaid Cymru yn rhan o bethau ac yn darparu Llafur efo'r asgwrn cefn sydd mor amlwg absennol gan y blaid honno.
No comments:
Post a Comment