Dwi eisoes wedi son am y moroedd o bobl a swn oedd ynghlwm a'r digwyddiad - a'r brwdfrydedd heintys oedd yn cael ei greu yno. Fel digwyddiad roedd yn fwy o lawer nag unrhyw ddigwyddiad gwleidyddol dwi wedi bod ynghlwm a fo - a dwi'n eithaf siwr na allai'r un blaid Brydeinig drefnu rhywbeth o'r un maint.
Ond mae yna gymhariaeth arall i'w gwneud gyda chynhadleddau'r Blaid - mae rhai'r Blaid wedi eu trefnu yn llawer gwell. Mewn cynhadledd Plaid Cymru mae pethau yn digwydd ar yr union amser maen nhw i fod i ddigwydd, mae un digwyddiad yn digwydd yn syth ar ol un arall, does yna ddim poetsian o gwmpas am hir yn gosod pethau ar y llwyfan. Dydi pethau ddim fel hyn mewn cynhadledd SNP.
Esiampl dda o hyn oedd sesiwn holi ac ateb Alex Salmond. Treulwyd chwarter awr yn gosod pethau ar ochr y llwyfan. Pan ymddangosodd Salmond yn y diwedd dechreuodd pobl weiddi nad oeddynt yn ei weld, felly bu'n rhaid iddo fynd i ganol y llwyfan i gynnal y sesiwn. Doedd yna ddim pwrpas o gwbl i'r holl dincera.
Mae'n hawdd cymryd pethau yn ganiataol pan mae pethau'n mynd yn iawn - felly dyma fanteisio ar y cyfle i ddioch i bawb o staff y Blaid, ac eraill sy'n trefnu ein cynhadleddau ni. Efallai bod cynhadleddau'r SNP yn fwy na'n rhai ni - ond mae'n rhai ni wedi eu trefnu'n well.
Ac un pwynt bach arall i'r sawl sy'n hoffi bwyta allan neu gymdeithasu - mae'n talu i fod yn perthyn i'r SNP - mae yna glwbiau nos, llefydd bwyta a bariau sy'n cynnig eu gwasanaethau'n rhad os ydych yn dangos cerdyn SNP. Er enghraifft mae'r Yes Bar yn Drury Street yng nghanol Glasgow yn rhoi gostyngiad o 45% i chi ar fwyd os ydych yn dangos cerdyn aelodaeth SNP. Mae'n rhaid bod hynny yn help tuag at yr aelodaeth o 103,000.
No comments:
Post a Comment