Mae'n ddifyr i gynrychiolwyr y Rhondda yn y Cynulliad a San Steffan neidio'n amheus o gynnar ar y stori am Nicola Sturgeon a ymddangosodd yn rhai o'r papurau adain Dde ddoe. Doedden nhw ddim ar eu pennau eu hunain wrth gwrs - roedd yna Aelodau Seneddol Cymreig eraill wrthi - yn arbennig felly Huw Irranca Davies, ac roedd Plaid Lafur yr Alban wrthi yn ei gyfanrwydd.
Efallai y byddwn yn dod yn ol at hynny maes o law, ond Leighton Andrews a Chris Bryant sydd gen i mewn golwg ar hyn o bryd. Mi neidiodd y ddau ar y stori, er i Leighton newid ei feddwl pan gadarnhaodd llysgenad Ffrainc nad oedd yn wir. Chwalodd yr ail drydyriadau gwreiddiol hefyd. Chware teg iddo am hynny, er ei bod yn ddadlennol bod well ganddo gymryd gair y Telegraph nag un Gweinidog Cyntaf yr Alban. Dydi Chris ddim wedi diweddaru ei sylwadau, felly am wn i bod well ganddo gredu'r Torygraph a'r Mail na Gweinidog Cyntaf yr Alban a diplamyddion Ffrainc.
Ond yr hyn sydd wedi ypsetio'r ddau go iawn ydi 'r ddadl a'r ffaith bod Leanne wedi ymddangos ynddi. Mae Leighton yn poeni y bydd yn ymladd ben ben a rhywun llawer mwy poblogaidd ac adnabyddus na fo ei hun yn etholiadad y Cynulliad y flwyddyn nesaf, a dydi Chris ddim yn mwynhau gweld Leanne yn ymgyrchu efo Shelley rwan. A'r mwyaf yn y byd mae Shelley a Leanne yn ymgyrchu, a'r mwyaf yn y byd o gyhoeddusrwydd mae Leanne yn ei gael, y mwyaf amlwg ydi'r gwahaniaeth rhyngddynt a'r bonheddwyr Llafur. Mae'r boneddigion wedi arfer at sylw cyfryngol sy'n anwybyddu Plaid Cymru tra'n rhoi mor o gyhoeddusrwydd i'w plaid eu hunain.
Mae Leighton wedi ei eni yng Nghymru, ond wedi treulio ei flynyddoedd ysgol uwchradd yn Dorset. Do daeth yn ol i Gymru, do dysgodd y Gymraeg, ac ia mae ganddo aelwyd Gymraeg - a chware teg iddo am hynny hefyd. Ond dydi o ddim yn swnio fel rhywun o'r Rhondda, a dydi o ddim yn ymddwyn fel rhywun o'r Rhondda, a dydi o ddim yn meddwl fel Rhywun o'r Rhondda. Dydan ni ddim yn son am rhywun efo street cred yn Nhreorci yma.
Mae Chris hyd yn oed yn fwy o chwadan allan o ddwr yn y Rhondda. Wedi ei eni yng Nghaerdydd ond wedi ei addysgu yn ysgol breifat Cheltenham College a Choleg Mansfield yn Rhydychen ac yn y papurau yn amlach nag y byddai'n hoffi oherwydd ei dreuliau. Mae'n dipyn o fonheddwr yn cynrychioli'r werin datws - tipyn bach fel y Toriaid uchelwrol hynny oedd yn arfer cynrychioli tlodion yn San Steffan yn y dyddiau pan nad oedd fawr neb yn cael pleidleisio. Mae ei blaid yn pleidleisio tros doriadau sy'n uniongyrchol niweidiol i'w etholwyr - yn union fel Toriaid ac wrth gwrs mae Chris yn hoffi pwysleisio ei hunaniaeth 'eangfrydig' tra bod y Rhondda efo hunaniaeth Gymreig iawn.
Mae unrhyw olwg wrthrychol ar yr hyn sy'n cael ei gynnig i etholwyr y Rhondda eleni a'r flwyddyn nesaf yn dangos cystadleuaeth rhwng dwy o'r Rhondda sydd a gwerthoedd pobl y Rhondda sydd yn fodlon pleidleisio tros fuddiannau pobl y Rhondda yn erbyn dau wr bonheddig o'r tu allan i'r Rhondda sydd a gwerthoedd o'r tu allan i'r Rhondda a sy'n fwy na pharod i weithredu mewn modd sy'n groes i fuddiannau trigolion y Rhondda. Mae cyhoeddusrwydd diweddar Leanne yn gwneud hynny'n fwyfwy amlwg - a dyna'r rheswm am y gwichian a'r gwingo cyhoeddus.
7 comments:
A sut mae "rhywun o'r Rhondda" yn ymddwyn te? Sôn am gyffredinoli stereoteipaidd!!
Dwi ddim n nabod llawer o bobl o'r Rhondda sy'n dangos ei hun fo Joanna Lumly na'n hawlio miloedd lawer a ail dy fel Mr Bryant. Wyt ti?
A dwi'n eitha siŵr y byddai lot o bobl y Rhondda'n hapus iawn i gael llun gyda Joanna Lumley tasen nhw'n cael cyfle.
Hmm, Joanne yn y Rhondda - un ddiddorol.
Gyda'i waith ysgrifennu llyfrau ar hanes y Ty Gyffredin a threfnu rhenti ei flat yn Llundain, mae'n synod i mi fod gan Chris Bryant amser i ddarllen y Telegraph.
O, dwi'n meddwl bod dipyn go lew o Lafurwyr yr Alban yn gwybod bod y stori Telegraph ar y ffordd ac yn aros ego'u bysedd ar eu cyffyrddellau yn barod. Efallai bod y neges wedi cyrraedd Cymru fach.
Wps mae'r blogiad yma wedi bod yn dan ar groen rhywun - sgwn i pwy?
Post a Comment