Wel, meddyliwch am y peth am funud:
Mae yna stori yn torri mewn papur dyddiol adain Dde sydd wedi gweld cwymp sylweddol yn ei safonau newyddiadurol yn ddiweddar. Mae'r stori yn honni bod Gweinidog Cyntaf yr Alban wedi dweud wrth lysgenad Ffrainc nad ydi Miliband yn addas i fod yn Brif Weinidog. Dydi'r stori ddim yn wir.
Mae tri pherson oedd yn y cyfarfod yn cadarnhau nad oedd y stori yn wir - llysgenad Ffrainc, cynrychiolydd y llysgenad a Gweinidog Cyntaf yr Alban. Ond mae'n well gan Miliband gredu memo sydd wedi ei 'sgwennu gan was sifil yn Swyddfa'r Alban (mae'n debyg) nad oedd yn y cyfarfod a sydd yn nodi bod y stori'n anhebygol o fod yn wir.
Mewn geiriau arall mae'n awgrymu bod llysgenad Ffrainc yn gelwyddog, bod swyddog arall yng ngwasanaeth diplomataidd Ffrainc yn gelwyddog, a bod Gwrinidog Cyntaf un o wledydd y DU yn gelwyddog - a hynny ar y sail mwyaf tila y gallai dyn feddwl amdano.
Rwan, dwi'n mawr obeithio nad Cameron fydd y Prif Weinidog ar ol Mis Mai - ond mae'r bennod yma yn codi'r cwestiwn o pa mor addas ydi Miliband ar gyfer y job.
No comments:
Post a Comment