Thursday, April 09, 2015

Pwy oedd yn lluchio Tippex ar geir Saeson oedd yn meiddio rhoi baner areu ceir?

Am fwy o wybodaeth dilynwch y linc -  http://maes-e.com/viewtopic.php?f=12&t=19029&p=289752#p289752
  • Fi'n cytuno ei fod e'n hollol gyfoglyd (sickening?!) gymaint o faneri Lloegr sydd i'w gweld o gwmpas Cymru. Mae e wir yn dangos y gradd mae ein cymdeithas ni wedi ei infiltratio gan fewnfudwyr sydd ddim yn barod i intergreiddio.

    Yn aml iawn, o beth fi di gweld, mae'r rhai a baneri Saesnig yn chwifio yn bobl ifanc, sydd wedi eu geni a'u magu yng Nghymru, ond sydd yn deyrngar i Loegr. Mae hyn yn codi cwesitynnau amdano ni'r Cymry hefyd. Gwir fod bai ar y rhieni, ond mae'n amlwg fod y system addysg wedi methu a chreu cenedlaetholdeb Cymraeg o fewn y bobl hyn, a thybed hefyd faint ohonom ni Gymry, yn ein dyddiau ysgol, geisiodd ddod a'r bobl yma (aka chavs) mewn i'r cylch Cymraeg. Allai ddim siarad a chydwybod clir am hun o bell ffordd, felly peidiwch meddwl mod i'n pregethu, ond mae'n rhyebwth i ystyried dwi'n teimlo.

    Mae'r sector adwerthu (retail) hefyd yn gyfrifol am wneud y sefyllfa'n waeth fi'n credu, ac ar draws Prydain, nid jyst yng Nghymru. Mae Cwpan y Byd, i raddfa fawr jyst yn gyfle i siopau'r stryd fawr i 'cashio fewn', gan ddefnyddio special offers a phwysedd cymdeithas i greu group mentality ffug - Cenedlaetholdeb Asda style! Wedi dweud hynny, fe ges i'r cyfle, pan ges i gynnig banner Lloegr am hanner pris yn WHSmiths Oxford, i gael ateb gyda'r frawddeg "Since I am neither a simpleton nor a casual racist I must decline your offer." Doedd 'Stacey' druan ddim yn gwbod ble i edrych!

    Wel, dyna'r rant. I orffen ar neges bositif, bues i yn Sbar Aber ddoe, a doedd gyda nhw ddim baneri ar werth. Roedd baner Lloegr yno, ynghyd a baneri pob gwlad arall yng Nghwpan y Byd AC roedd baner Cymru yno hefyd. Yna dyma fi'n cerdded heibio i Cafe Society drws nesa, ac roedd crysau 'Cymru' wrth flaen y drws. Gwych. Siopwch yno, iddynt gael gweld fod cefnogi Cymru yn gam economaidd da.


    O.N. Mae hyn yn contradicto braidd be ddwedes i yn gynharach am yr angen am ddeialog rhwn Cymry a Saeson, Ond - fe ges i ysbrydoliaeth a, beth i wneud os yw'r baneri ar geir yn eich pisho chi bant sydd yn gyfreithiol (sort of), yn hwyl, ac yn creu cur pen i berchennog y car - TIPPEX - taflwch botel o'r stwff dros y car, bydd yn edrych yn ridiciwlys (yn enwedig os yw'n gar sgleiniog boy-raceraidd), bydd angen gwario oriau yn ei lanhau (neu arian yn y car-wash) ac, heb edrych yn agos, bydd yn edrych fel cachu adar! Perffaith - I'r Gad :crechwen: (ond peidiwch prynu'r tippex yn Smiths!)
    Iau 29 Meh 2006 10:31 am
* Diolch i Ifan Morgan Jones am ddod o hyd i'r linc a'i gwyntyllu ar trydar - mae ei wybodaeth am gynnwys y diweddar annwyl maes e yn well nag un neb arall.

5 comments:

Anonymous said...


Can this be widely publicized? He certainly deserves to be rumbled.

Anonymous said...


Ife'n bosib I anfon hwn at Y Cambrian News, South Wales Daily Post, Lib Dems, Toris, Western Mail etc, etc. Huw yn haeddu dim llai ar ol ei sylwadau diweddar.

Anonymous said...


This buffoon is advocating criminal damage and needs to be reported to the appropriate authorities and the Welsh media.
Can someone provide a translation and send it to the appropriate sources. This individual stuck the knife into an honest, principled man.

Anonymous said...


Job arbennig o dda i dod lan a hwn. Nawr, rhaid i neud e'n gyhoeddus. Gwych.

Anonymous said...

'Priceless'! Gwerthiant Tippex yn debyg o ddisgyn yn sylweddol os fydd Cymru'n cyrraedd Ewro 2016.