Tuesday, April 14, 2015

Llafur Watch 1006

O diar, ymddengys bod Llafur Cymru yn credu ei bod yn gywilyddus bod pleidiau eraill yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ac yn ennill etholiadau.

7 comments:

Anonymous said...


Pwy yw'r unigolyn yma?

Cai Larsen said...

Darpar ymgeisydd Llafur yn Arfon yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Anonymous said...

OK, doniol iawn ond dwi wedi cael digon ar dy chwerthin am ben Llafur. Be dw i a gweddill Cymru ise gwbod yw shwd ma'r Blaid am wneud yn Arfon. Byddai colli hon yn siom o'r mwyaf. O'r ychydig sylw dw i wedi'i weld i ymgyrch HW mae 'i weld yn go fflat - wyt ti'n rhoi mwy o sylw i Alun na Hywel. Da chi! Cofiwch Ceredigion!!!

Cai Larsen said...

Mi ddyda i bwt pan ga i funud

Hogyn o Rachub said...

Fedrai'm dilyn Sion Jones ar Twitter, ma'r boi yn glown (os ti'n dweud dy fod di wedi gorfod gwerthu dy fusnes i ganolbwyntio ar fod yn gynghorydd yna ti'm ffit i wneud dim ... er mae 'na fwy i hynny na jyst canolbwyntio ar fod yn gynghorydd dybiwn i).

Mae'n torri fy nghalon i fod safon gwleidyddion mor ddiawledig o isel a bod pobl fel y lembo 'na yn cael eu hethol yn y lle cynta. Fyddai o hefyd yn drist iawn tasai rhywun fel Alun Pugh yn disodli Hywel Williams.

Ioan said...

O bell, mae ymgyrch Ceriedigion, yn fy atgoffa o pan gollodd Plaid y sedd y tro cynta: diawl o ffrae rhwng Plaid a Llafur, a'r Lib Dems yn enill yn reit hawdd. Os baswn i'n betio ar unrhyw sedd, Lib Dems yng Ngeredigion fasa hona.

Anonymous said...

Beth oedd y ffrae bryd hynny ? Rhaid cyfaddef nad wyf yn cofio hynny. Nid oedd buddugoliaeth Mark Williams y tro cyntaf yn un hawdd - agos iawn oedd hi,mi gredaf. Yr oedd eu hail buddugoliaeth yn dipyn mwy.
Y tro cyntaf i Mark Williams ennill, yr oedd PC yn reit ffyddiog o ennill, ond yn ystod wythnos olaf yr ymgyrch, daeth yn amlwg fod ymgyrchu brwd ymysg myfyrwyr Aberystwyth wedi talu i'r Lib-dems. Ni wnaiff y rhain fyth bleidleisio i PC.