Thursday, November 27, 2014

Y broblem efo'r Lib Dems

Er gwaethaf ffigyrau hynod o isel y Lib Dems yn y polau 'cenedlaethol, mae'n nhw'n debygol o ddal mwy o'u seddi na mae'r polau hynny'n awgrymu.  Mae pol Ashcroft a gyhoeddwyd heddiw o seddau ymylol Lib Dems yn dangos hyn yn dda.  Mae Ashcroft yn gofyn dau gwestiwn - sut y byddech chi'n pleidleisio yn gyffredinol? a sut y byddech chi yn pleidleisio yn yr etholaeth hon?  Mae yna wahaniaeth sylweddol yn y gefnogaeth i'r Lib Dems mewn etholaethau maent yn eu dal ar hyn o bryd.

 Er enghraifft edrychwch ar Brycheiniog a Maesyfed.  Ar y cwestiwn cyffredinol 18% o'r bleidlais mae'r Lib Dems yn ei gael - ac maent yn dod ar ol UKIP a'r Toriaid.  Am y cwestiwn penodol etholaethol maen nhw'n cael 31% ac yn ennill y sedd.

Mae'n fwy na phosibl y bydd UKIP yn cael tair gwaith pleidlais y Lib Dems ym mis Mai - tra'n cael traean ( neu lai) o'u haelodau seneddol.  Mae gennym ni drefn etholiadol ryfedd iawn.

O - bu bron i mi anghofio son bod cefnogaeth y Blaid yn treblu o gymharu ag etholiad 2010.  

Cliciwch ar y ddelwedd i'w gweld yn well - neu gweler yma


5 comments:

Anonymous said...


"Other" yn golygu'r Blaid yn unig? Beth am y Gwyrddion?

Anonymous said...

ti'n iawn Cai. Galali'r un peth ddigwydd yng Ngheredigion, er, dwi'n meddwl bod deinameg Ceredigion yn wahanol.

Ie, os yw'r Blaid yn polio 'cystal' yn BaM yna mae rhywbeth mawr yn digwydd!

M.

Cai Larsen said...

8% oedd pleidlais y Blaid ar y cwestiwn penodedig am yr etholaeth.

Cai Larsen said...

Hefyd cofier mai'r hyn sy'n digwydd ydi bod y Lib Dems yn colli pleidleisiau ond bod y Toriaid methu cymryd mantais am bod UKIP yn cymryd eu pleidleisiau nhw. Fydd UKIP ddim yn cymryd pleidleisiau gan y Blaid i raddau arwyddocaol yng Ngheredigion.

Anonymous said...

Fyddwn ni ddim mor siwr am UKIP Yng Ngheredigion. Cymry Cymraeg oedd pawb oni'n nabod oedd wedi pledleisio I UKIP yn yr etholiadau dwethaf
Er eu bod nhw mor wrth gymreig mae eu delwedd yn apelio at nifer fawr o Gymry cynhennid hefyd. Camp Plaid fydd tynnu pleidlais y cadach Mark lawr a gobeithio fod y bleidlais arall yn rhannu'n ddigonol fel fod pleidlais craidd Plaid a'r bleidlais wrth UKIP yn ddigon