Saturday, April 05, 2014

Y Wales Blog Awards

Mae'n braf nodi i Flogmenai gael ei hun ar y rhestr fer yng nghategori blog gwleidyddol y flwyddyn y Wales Blog Awards.  Y ddau flog arall ar y rhestr fer ydi  Carmarthenshire Planning Problems, Jacqui Thompson ac Oggy Bloggy Ogwr Owen Donovan - dau flog arbennig o dda - felly mae'n fraint cael ymddangos.  Bydd y noson wobreuo yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Chapter yn Nhreganna ar Fai 15.  

Diolch i bwy bynnag oedd ddigon caredig i fy enwebu.

Gobeithio na fydd yna lythyr gan Archesgob Cymru ac aelodau o Dy'r Arglwyddi yn cyrraedd y beirniaid yn mynnu bod y wobr yn mynd i Gaerfyrddin!

6 comments:

Anonymous said...

Ydi hi actiwali yn wir bod rhywun sydd i fod yn Archesgob Cymru wedi dangos ffafriaeth i un tref tros ddwy arall. Wedi'r cwbl onid ydi'r dyn i fod yn Archesgob Cymru gyfan?

Cai Larsen said...

Dwi ddim yn gwybod a bod yn onest - mynd ar yr hyn mae GO wedi ei ddweud yn Golwg ydw i.

Barry Bangor ydi blasenw'r Archesgob wrth gwrs.

Anonymous said...

Llongyfarchiadau Cai.

Dwi'n mwynhau darllen dy flog.

Dal ati.

Phil Davies

Owen said...

Diolch am cyswllt, a llongyfarchiadau oddi wrth o gyd-enwebai. Mae'n gwenieithus i gael eu crybwyll gyda mor enwog flogwyr.

Gan y ffordd, mae'n sillafu'n "Donovan". ;)

Cai Larsen said...

Ti'n rhy garedig o lawer Owen.

Ymddiheuriadau am y camgymeriad - mi af ati i'w gywiro.

Alwyn ap Huw said...

Llongyfarchiadau.

Mi enillais i y Wales Blog Award 2011 am y flog Cymraeg gorau a chael tystysgrif uniaith Saesneg fel wobr - haerllug braidd!