Monday, April 14, 2014

Blogiadau o'r Almaen - rhan 1


Roedd yr haf diwethaf yn anarferol i Flogmenai yn yr ystyr na chymerwyd gwyliau.  Yn lle hynny mi es ati i wneud ychydig o flogio gwleidyddol tra ar wyliau yng ngwlad y Basg a Gogledd Spaen.  Doeddwn i ddim yn disgwyl i lawer ddarllen a dweud y gwir, ond er syndod i mi cefais fwy o ddarllenwyr yn ystod y cyfnod hwnnw nag yn ystod unrhyw ran arall o'r flwyddyn.  Felly dyma drio'r un peth eto - 'dwi yn ardal Berlin y tro hwn.

Y Trabant ydi'r car isod - darn o beirianwaith a ddaeth yn drosiad am fethiant y drefn Gomiwnyddol i lwyddo ar lefel economaidd.  Fyddai neb wedi credu hynny pan gynhyrchwyd y Trabant am y tro cyntaf yn Nwyrain yr Almaen yn 1958  - fel car roedd yn cymharu'n ffafriol ag unrhyw beth a gynhyrchwyd yn y Gorllewin ar y pryd.  Serch hynny ychydig iawn o ddatblygiadau a gafwyd wedi hynny - erbyn diwedd yr wythdegau roedd y cyferbyniad rhwng y Trabbi ar un ochr i Wal Berlin a'r Mercs a'r Beamers ar yr ochr arall yn ymylu ar fod yn greulon.  

Er mor elfennol mae'r car yn ymddangos i ni heddiw, roedd yn eitem i'w thrysori yn Nwyrain yr Almaen - roedd rhestr aros o ddeuddeg mlynedd i gael un, ac roedd yn costio rhwng 11,000 a 13,000 Ostmark - cyfwerth a chyflog cyfartalog ugain mis.  Mae cyflog cyfartalog yng Nghymru yn tua £20,000 y flwyddyn - felly roedd yn costio mwy na £32,000 yn ein pres ni.  

Rydych yn hynod o anhebygol o weld Trabbi ar y lon heddiw oni bai bod ei injan wedi ei addasu'n sylweddol - mae'n cynhyrchu llawer mwy o lygredd na sy'n gyfreithlon - tua phump gwaith cymaint o carbon monocsid na char gorllewinol o'r un cyfnod.   Roedd y  cynhyrchu llawer iawn mwy o wenwyn na Mercs oedd efo injan chwe gwaith cymaint a'r uned 600cc oedd yn gyrru'r Trabbi.



6 comments:

Anonymous said...

Ym mha ffordd oedd y Trabant yn ymharu'n fafriol gyda unrhyw beth yn y Gorllewin ? Daeth y Mini allan yn 1959, a glywais i erioed neb yn honni fod y Trabant yn unrhywbeth ond parodi'r Comiwnyddion o gerbyd ar bedair olwyn.

Cai Larsen said...

Yn 1959?

System ger, suspension, dreifio efo olwynion blaen, cario 1,000kg, bywyd o 28 mlynedd, adeiladwaoth unedig.

Anonymous said...

Beth am yr injan

Cai Larsen said...

Roedd yr injan yn gachu o'r dechrau'n deg.

Anonymous said...

Dyfala pa gar mae ffilm y 'Muppets' yn ei watwar !

Cai Larsen said...

Studbaker a Ford Woodie?