Wednesday, March 26, 2014

Llafur Cymru yn ffraeo unwaith eto

Does yna ddim llawer dwi'n ei edmygu am Llafur Cymru - ond un eithriad i hynny ydi disgyblaeth mewnol y Blaid - 'dwi'n siwr bod ffraeo mewnol yn digwydd, a dwi'n siwr bod yna safbwyntiau gwrthwynebus yn cyd redeg oddi mewn i'r blaid,   ond anaml iawn mae hynny'n cyrraedd y cyhoedd.

Ond yn ystod yr wythnosau diwethaf mae yna arwyddion bod y pethau yn newid.  Dyna i chi'r ffrae hynod gyhoeddus rhwng Ann Clwyd a Carwyn Jones a phenderfyniad Llafur yn y Cynulliad heddiw nad ydyn nhw eisiau Ms Clwyd ar gyfyl y lle.  Ac wedyn dyna i ni'r coup d'etat oddi mewn i'r Blaid Lafur yng Nghaerdydd - sefyllfa hynod ddigri a arweiniodd at i un o wleidyddion mwyaf amhoblogaidd Cymru, yr anhygoel Russell Goodway, gerdded y planc.  A dyna i ni Owen Smith yn siarad ar ran Carwyn Jones wrth y Byd a'r Betws gan ddweud nad oes gan Lafur ddiddordeb mewn pwerau trethu.  A beth am Llafur Cymru a Llafur yr Alban yn cynhyrchu dau naratif hollol wahanol ynglyn a Barnett?  Ac erbyn meddwl mae yna gryn dipyn o swn wylofain a rhincian dannedd yn dod o gyfeiriad cynghorwyr Llafur yn sgil argymhellion y Comisiwn Williams.

Mae'n anodd osgoi'r argraff bod plaid mwyaf ddisgybledig Cymru yn gyflym ddatblygu i fod yn fwy anisgybledig a ffraegar na'r un plaid arall.  

2 comments:

Anonymous said...

Gobeithio taw hyn yw'r dechrau o'r diwedd iddynt. :-)

Anonymous said...

Gwelwch yr erthygl gan Gerry Holtham heddiw ar Click on Wales.

Does dim cyfryngau Cymreig (gwerth yr enw), ac felly ni fydd pethau yn newydd o gwbl. Mae'r ffraeo Llafur hyn yn gallu digwydd o dan y radar cyhoeddus heb boeni i neb.

Dim ond meibion darogan sy'n newydd pethau yn ein Cymru fach ni ers y cychwyn cyntaf.

Pwy sy nesa?

PD