Mae dyn yn rhyw feddwl weithiau bod pwy bynnag sy'n penderfynu ar gynnwys rhaglenni'r Bib yng Nghymru braidd yn boncyrs. Son ydw i wrth gwrs am raglen Oliver Hides ar Radio Wales y bore 'ma.
Roedd yna bobl yn fwy na pharod i ffonio i mewn i hysbysu'r Byd bod gwrando ar bobl yn siarad y Gymraeg yng Nghymru yn wir yn mynd ar eu nerfau. A dyna ydi'r broblem efo'r math yma o gwestiwn wrth gwrs - mae'r rhan fwyaf o bobl yn weddol gall a goddefgar, ond dydyn nhw ddim am drafferthu ffonio'r rhaglen. Ar y llaw arall mae lleiafrif o bobl rhagfarnllyd am neidio ar y cyfle - dydyn nhw ddim yn cael y cyfle i ddweud eu dweud wrth filoedd o bobl yn aml iawn. Roedd y cyfle a roddwyd iddynt gan Radio Wales yn un rhy dda i'w goll.
Gellid bod wedi amrywio tipyn ar y cwestiwn - Do the Jews irritate you? Does people talking in Polish irritate you? DoPakistanis irritate you? Do gay people irritate you? Do people on benifits irritate you? Do women irritate.you? Do unmarried mothers irritate you? Gallwch fod yn weddol sicr y byddech yn cael llu o bobl efo rhagfarnau yn ffonio i gael llwyfan i'w rhagfarnau. Byddai'r un peth yn union yn digwydd petaech yn gofyn Do English people irritate you? Mae gosod cwestiwn o'r fath yn gwahodd ymateb ymfflamychol, ac mae'r gwahoddiad yn siwr o gael ei dderbyn. Dydi corff sydd fel rheol mor wleidyddol gywir ddim yn rhoi cyfle i nytars rhagfarnllyd yn aml iawn, ac mae cyfle prin yn ormod o demtasiwn i'r cyfryw nytars ei wrthsefyll.
Yr hyn sy'n ddadlennol wrth gwrs ydi nad ydi Radio Wales yn cael problem o unrhyw fath gwneud siaradwyr Cymraeg yn dargedau i sen pobl efo rhagfarnau yn eu herbyn, tra na fyddai hyd yn oed yn croesi meddwl golygyddion rhaglenni i wneud yr un peth i grwp arall oddi mewn i gymdeithas. Mae gen i ofn bod y stori yn adrodd cyfrolau am ragfarnau gwaelodol y sawl a wnaeth y penderfyniad i wneud y rhaglen.

No comments:
Post a Comment