Saturday, March 15, 2014

Ac i'r sawl sydd ddim yn cymryd bygythiad UKIP yn etholiadau Ewrop o ddifri _ _ _

Dyma mae pol ComRes a ryddhawyd heno yn ei awgrymu (ar lefel Prydeinig).

Petai'r canlyniad yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru mae'n debyg mai Llafur fyddai'n cael y sedd gyntaf, UKIP fyddai'n cael yr ail, Y Blaid fyddai'n cael y drydydd a Llafur fyddai'n cael y bedwerydd gan adael y Toriaid heb sedd.

19 comments:

Anonymous said...

Ar ba sail ti'n dweud hynny?

Dwi ddim yn confinsd o gwbl fod neges y Blaid yn ddigon clir ac ysbrydoledig i gael pleidwyr allan.

Anonymous said...

fydd y toriaid ddim yn colli se ty Plaid fydd yn colli y set, maer plaid yn mynd i colli set nhw gan fod pleidlais y toriaid yn dal i fynu yn well nag un yr cenedlaetholwyr

Anonymous said...

Mae'r pol yma yn seiliedig ar nifer o ymatebion sy'n sicr i bleidleisio yn etholiad Ewrop, h.y. 10 allan o 10 yn sicr. Heb y pwyso, mae'r ffigwr lefel DU yn wahanol - Llafur yn gyntaf, UKIP yn ail. Does dim digon o wybodaeth ar lefel Cymru yn y manylion, ond mae'n dangos fodlonrwydd pleidlais SNP a Plaid Cymru fotio ym mis Mai, h.y. os ti'n ymateb 'Plaid' i pol piniwn Prydeinig sy ddim yn prompto ar gyfer y Blaid, ti'n fwy tebyg nag unrhyw plaid arall i foto - yn cynnwys UKIP. Cefnogaeth Plaid Cymru yn cryf iawn ac yn bwriadau pleidleisio ym mis Mai, ond rhaid sicrhau hyn dros y ddwy fis nesaf.

Gwynfor Owen said...

Cytuno a dy ddadansoddiad yn llwyr er yn bersonol buasai yn well gennyf weld y Toriaid yn cadw eu sedd na UKIP. Mae gan hyd yn oed y Toriaid fwy i'w gynnig I Gymru yn Ewrop na sydd gan UKIP

Alwyn ap Huw said...

Difyr iawn.

Pum mlynedd yn ôl mi ddywedais i'r union bethau mae Leanne yn dweud am fygythiad IWCIP i'r Blaid a'r Genedl.

Cefais fy lambastio ar Flog Menai am ddweud fy nweud, efo dadleuon yn fy erbyn oedd yn hynod debyg i'r rai sy'n cael eu crybwyll gan Dafydd Êl bellach! Rhyfedd o fyd.

Cai Larsen said...

Yn lle oedd UKIP yn y polau bryd hynny Alwyn?

Boi o Feirionnydd said...

Y rheswm y mae IWCIP yn boblogaidd ydi achos, yn syml iawn, nid ydynt o blaid ymuno a'r Undeb Ewropeaidd. Nid gwyddoniath gain yw hyn. Mae pobol yn sylweddoli mai sham yw'r UE ag yn anffodus dyma'r unig blaid sydd yn fodlon datgan hyn yn gyhoeddus ar hyn o bryd

Alwyn ap Huw said...

Dwi'm yn cofio be oedd y polau piniwn yn dweud, ond rwy'n cofio bod yr unig pôl oedd yn cyfrif wedi rhoi sedd i IWCIP, pan oedd y Balid yn darogan /gobeithio ennill y safle cyntaf a chipio'r bedwaredd safle hefyd. Breuddwyd ffôl na cafodd ei wireddu gan i'r Blaid peidio ystyried bygythiad IWCIP ac ymosod ar ei wrth Gymreictod.

Gwynfor Owen said...

Dwi hefyd yn gweld Alwyn dy fod tn dweud bod dy deulu dy Hunan wedi pleidleisio UKIP. Fel ffordd o ymosod sr y Blaid. Peth Rhyfedd iawn I wneud,

Cai Larsen said...

Mae gen i ofn Gwynfor bod Alwyn yn llafurio o dan y cam argraff mai grwp protest yn erbyn Plaid Cymru ydi UKIP. Mewn gwirionedd, ar wahan i deulu Alwyn, ychydig o symud a geir rhwng y naill blaid a'r llall. Roedd pleidlais UKIP yn is yng Ngwynedd yn 2009 nag mewn unrhyw sir yng Nghymru - ac mae'n debyg y gallet gynnwys Lloegr yn honna hefyd. Doedd yna ddim i'w ennill wrth dantro am UKIP yn 09 - deinameg yr etholiad honno oedd cyn bleidleiswyr Llafur yn chwilio am gartref dros dro. Mae hon yn wahanol y ddeinameg yma ydi UKIP yn dwyn pleidleisiau oddi wrth y pleidiau unoliaethol eraill. Yn y sefyllfa yma mae'n bwysig i'r Blaid gael ei phleidlais greiddiol allan. Mae tynnu sylw at berygl UKIP yn ffordd dda o wneud hynny.

Boi o Feirionnydd said...


Dwi dal ddim yn deall obsesiwn Plaid efo UKIP.Gwir,mae eu daliadau yn erbyn diddordebau Cymru ond pwy sydd wir yn meddwl fod hyn unrhyw yn wahanol i’r pleidiau undebol eraill yng Nghymru? Mae’r holl bleidiau yma gyda daliadau yn erbyn Cymru a’n buddiannau. Y gwahaniaeth rhwng Llafur Cymru, Y Toriaid Cymreig a’r Lib dems ydi eu bod nhw mymryn mwy slic a clefrach gan allu cuddio ei diffyg parch at Gymru drwy gogio bod a diddoredeb a drwy ein tawelu efo ambell i air ag adeilad Cymraeg a rhoi hawliau ieithyddol i’r Cymry Cymraeg tra yn ein gwerthu allan ym mhob maes arall.

Dwi ddim yn annog cefnogi UKIP yng Nghymru ond oleiaf nid ydynt mor dywyllodrus a’r pleidiau eraill-maent yn dangos ei agenda gwrth Gymreig yn weddol glir. Ond dau faes mae UKIP yn gywir ydi ei gwrthwynebiad i ymuno a’r Undeb Ewropeaidd a’r angen i gael rheolaeth synhwyrol ar fewnfudo - i Brydain yn eu context nhw ond perthnasol i Gymru hefyd wrth gwrs. Y rheswm mae Plaid mor paranoid amdanynt ydi achos fod Plaid yn mynnu peidio trafod yr holl fater o beryglon yr Undeb Ewropeaidd (sydd wedi cefnogi di coup anghyfreithlon yn yr Wcrain ag sy'n gwrthod cydnabod y bleidlais yn y Crimea)

Gwynfor Owen said...

Cytuno Cai

Alwyn ap Huw said...

Naratif Plaid cymru yn 2009 oedd bod modd i Blaid Cymru dod i frig rhestr Etholiad Ewrop ac ennill ail sedd.

Cefais fy lambastio ar Flog Menai am ddweud bod modd i Blaid Cymru dod i frig y rhestr ond byddai Iwcip yn enill y bedwaredd sedd.

Roeddwn yn agosach at ddarogan y canlyniad na thi, ond mor siomedig a thi mae'r trydedd safle cafodd Plaid Cymru, ac mor siomedig a thi bod plaid mor ffiaidd ac Iwcip wedi cael troedle yng gwleidyddiaeth Cymru.

Cawn derbyn, o leiaf, bod hynny o gytundeb rhyngom?

Waeth i ti peidio a gwadu bod pobl oedd wedi eu siomi a'r Blaid wedi aros gartref yn 2009 a bod rhai o gyn bleidleiswyr y Blaid wedi pleidleisio i Iwcip – enghreifftiol yw fy ngwybodaeth teuluol nid prawf bod Hymphrisiaid Meirion yn wahanol i bob bleidleisiwr arall na theulu arall; fel y gwyddost yn iawn. A dan din yw dweud yn gwahanol!

Do, Gwynfor, fe bleidleisiodd aelodau o fy nheulu estynedig i IWCIP fel protest yn erbyn y Blaid. Byddai'n well gennyf pe na baent wedi gwneud – ond nid ydwyf am eu galw y gachwrs a bradwyr am wneud - gan mae dim trwy eu sarhau mae eu cael yn ôl i'r ffowld, rhywbeth mae DET yn gwybod mi dybiaf!

Cai Larsen said...

Mi fyddwn i'n licio gweld linc i ddarn o ddarogan gen i oedd yn awgrymu na fyddai UKIP yn ennill sedd yn 2009 - oes gen ti un?

Mae ffigyrau 2009 ar lefel etholaethau yn gyhoeddus - ac wedi eu cyhoeddi ar y blog yma. Roedd pleidlais UKIP yn is yng Ngwynedd nag yn unman arall - felly mae'n rhesymol casglu nad oedd y Blaid yn colli llawer o bleidleisiau iddyn nhw.

Boi o Feirionnydd said...

Unwaith eto, dwi ddim yma i amddiffyn IWCIP, ag ydynt,maent yn pwshio agenda Saesnig/Brydeinig ar Gymru a heb fawr o barch i Gymru. Ond a allith rywun bwyntio allan pam yn union ei bod yn 'ffiaidd' ag pa bethe maent wedi ei ddweud i gefnogi y cyhuddiad yma(dydi deud eu bod am reoli mewnlifiad ddim yn cyfri gyda llaw) Hefyd, byswn yn icio gwbod pam eu bod yn waeth na phleidiau eraill undebol Cymru?

Alwyn ap Huw said...

Uffern dan!

Rwy'n difaru weithiau imi alw fy mlog yn Hen Rech Flin gan fy mod, yn amlwg, yn bictiwr o lawenydd o gymharu â dy rwgnach di.

Mae'n ffaith dy fod ti yn gobeithio i'r Blaid dod i'r brig yn 2009 ac ennill y bedwaredd sedd. Does dim rhaid imi chwilota drwy dy archif i ganfod post sy'n dweud hynny; dyna oedd naratif y Blaid ar y pryd ac mae pob post gen ti yn driw i naratif y Blaid.

Dwi ddim am drafferthu cribo drwy dy hen byst i chwilio am air arbennig, neu frawddeg penodol er mwyn ceisio profi negydd; yn bennaf gan fy mod yn sicr dy fod wedi gwneud y fath ymchwil dy hun. Ond wrth iti gribinio drwy dy hen byst a ddois di ar hyd i bost a oedd yn rhagweld y posibilrwydd bod Iwcip am ennill sedd a rhybuddio cefnogwyr y Blaid i beidio aros gartref er mwyn gochel rhag hynny. Naddo mwn!

Waeth iti beidio cogio na fu'r ddadl am y ffordd gorau i ymdrin ag Iwcip wedi codi ar ein blogiau, fe wnaeth, yn anffodus; gan arwain at sefyllfa byddai'n llawer gwell gen i'w anghofio, pe bai modd.

Yr hyn rwy'n methu deall yw pam dy fod mor biwis am bwnc yr ydym yn weddol gytûn arni?

Roeddwn i'n dweud yn 2009 bod angen ymosod ar Iwcip, wyt ti a Leanne - bellach yn cytuno efo fi. Roeddwn, ac yr wyf, yn deall pryderon DET, gan iddynt gael eu coleddu mor glir ar Flog Menai yn 2009. Pam sacio fo am fynegi'r un farn a thi pum mlynedd yn niweddarach?

Yr wyf yn wir obeithiol bydd Jill yn cael ei dychwelyd i Senedd Ewrop, byddai'n wych pe bai Marc yn cael ei ethol hefyd. Mae Stephen Cornelius yn berthynas pellennig i mi, byddai'n ciwdos yn y cart achau i'w weld o'n cael ei ethol. Breuddwyd wleb byddai gweld Plaid yn cael 100% o'r Bleidlais a Gwynfor ym Mrwsel hefyd; ond dyna fy mreuddwyd ffôl!

Rwy'n cytuno bod annog y rhai o'n plaid na wenieithont bleidleisio yn 2009 i dynnu bys o din a gwneud yn sicr eu bod yn cefnogi’r Blaid eleni. Dwi heb fy mherswadio bod naratif sy'n dweud na allwn drechu Iwcip yw'r modd gorau i wneud hynny!

Cai Larsen said...

Hmm, felly ti'n priodoli safbwynt i mi yn 2009, tra'n methu dangos i mi gymryd y safbwynt honno.

Yn y cyfamser roeddyt ti'n meddwl y dylid bod yn gas efo UKIP yn 2009, ond ti'n meddwl na ddylid gwneud hynny rwan am dy fod o dan yr argraff bod llwyth o gefnogwyr y Blaid wedi pleidleisio iddynt o'r blaen ond am ypsetio'n lan os geith na rhywbeth cas ei ddweud amdanynt y tro hwn.

Does yna ddim naratif na ellir curo UKIP gyda llaw - rhywbeth arall ti wedi ei wneud i fyny ydi hynny. Y naratif ydi ei bod yn bwysig bod pawb yn mynd allan i bleidleisio i sicrhau na fydd UKIP yn ennill y sedd.

Boi o Feirionnydd said...


"Yr hyn rwy'n methu deall yw pam dy fod mor biwis am bwnc yr ydym yn weddol gytûn arni?"

Dwi'n meddwl fod hwn yn bwynt teg Cai os gai ddeud. Mae gwahaniaeth barn yn beth da ond ma hyn yn ymddangos fel dadl braidd yn ddiangen rywsut, yn gyhoeddus eleiaf. Bosib y bydde sgwrs dros baned neu beint yn fwy cynhyrchiol!?

Alwyn ap Huw said...

Cai bach, weithiau yr wyt yn chwilio am ddadl nad yw'n bod!

Rwy'n ffyddiog bydd Jill yn cadw ei sedd.

Mi roddaf pob gefnogaeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod Jill yn cadw ei sedd.

Mae fy nghefnogaeth i Blaid Cymru yn etholiad Ewrop 2014 yn 100% a mwy.

Rwy'n credu bod Leanne yn hollol gywir i nodi bygythiad Iwcip i'r achos cenedlaethol, fel y gwenes i (yn yr anialwch) 5 mlynedd yn ôl!

Wrth ddweud fy mod yn deall safbwynt Dafydd Êl, dwi ddim yn dweud fy mod yn ei gefnogi, dim ond yn dweud fy mod yn deall ei safbwynt.

Dyna dy wendid mawr fel sylwebydd gwleidyddol Cai, yr wyt yn gymaint o Zelot fel na elli di byth sefyll yn ôl a gweld y pictiwr mawr!

Ydi Plaid Cymru yn ymosod ar ei wleidydd praffaf yn gwened lles i'r Blaid neu lles i'w gelynion?

Rwyf am weld y Blaid yn ennill mwy na'r 30%o'r bleidlais cafwyd yn 1999, dwi ddim yn sicr bod syrthio allan ymysg ein gilydd yw'r ffordd gorau i gyrraedd y fath nod!