Thursday, February 20, 2014

Pa Oes Aur?

Mae'n debyg y dyliwn ymateb - eto fyth - i wybodaeth camarweiniol sy'n cael ei gyfleu ar flog Hen Rech Flin.  Ymateb oedd y blogiad yn ei dro i sylw wnes i yn nhudalen sylwadau y blogiad diwethaf bod y Blaid yn gwneud yn well mewn etholiadau lle mae'r gyfradd pleidleisio yn isel.  Mae'r awdur - Alwyn ap Huw - wedi cymryd o hynny bod polisi bwriadol gan y Blaid o geisio sicrhau cyfradd pleidleisio isel ac mae ymhellach yn dadlau bod y Blaid yn gwneud yn dda yn y 70au pan roeddynt - yn ol Alwyn yn ceisio sicrhau cyfradd pleidleisio uchel.

Rwan dwi wedi bod yn ymwneud mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ag etholiadau ers degawdau a dydw i erioed wedi dod ar draws unrhyw bolisi gan y Blaid - na neb arall o ran hynny - i geisio gostwng y cyfraddau pleidleisio yn fwriadol.  Mi fydd pleidiau yn yr oes sydd ohoni yn ceisio adnabod eu pleidleiswyr a sicrhau eu bod yn dod allan i bleidleisio wrth gwrs.  Ond dydi hynny ddim gyfystyr a dweud bod ymgais yn cael ei gwneud i ostwng cyfraddau pleidleisio.

Yn ail, mae'r syniad bod rhyw oes aur i'r Blaid yn y 60au a'r 70au yn un ffug.  Canlyniadau etholiadau San Steffan yn y 60au a'r 70au oedd 1964 - 4.8%, 1966 - 4.3%, 1970 11.5%, 1974 - 10.8%, 1974 - 10.8%, 1979 - 8.1%.

Canlyniadau'r Blaid mewn etholiadau San Steffan o 2000 ymlaen oedd 2001 - 14.3%, 2005 - 12.6%, 2010 - 11.3%.  Doedd yna ddim etholiadau Cynulliad ac Ewrop yn y chwe degau a'r 70au wrth gwrs, ond roedd y canlyniadau o 2000 fel a ganlyn.  Cynulliad 2003 - 21.2%, 2007 - 22.4%, 2011 - 19.3%.  Ewrop 2004 - 17.4%, 2009 - 18.5%.

Tra fy mod yn derbyn nad ydi perfformiad etholiadol y Blaid yn ddigon da ar hyn o bryd, mae'n gwneud yn llawer gwell heddiw nag oedd yn y 60au a'r 70au.

5 comments:

Dylan said...

Er hynny, mae'n rhyfedd meddwl bod Plaid Cymru wedi rheoli cyngor Merthyr yn y 70au. Sut ddiawl ddigwyddodd hynny a sut ddiawl aeth pethau cynddrwg yn y cyfnod ers hynny?

Cai Larsen said...

Diffyg lleoliad arall i'r bleidlais brotest ydi un rheswm - Lib Dems ac Annibyns prin yn bodoli.

Anonymous said...

Bu'r Blaid yn rhedeg cynghorau Rhondda Cynon Tâf a Chaerffili yn y 1990au a Thâf Elai yn yr 1980au hefyd wrth gwrs.

William Dolben said...

Bûm ym Merthyr dros y wicend ar ôl y gêm. Dylai pwy bynnag oedd yn gyfrifol am y lle gael ei wahardd am byth o lywodraeth leol. Adeiladau hanesyddol yn furddunod, tai cyngor sâl a phob prês wedi eu gwario ar ffyrdd (i fynd o'ne, mae'n debyg). Mae Blaenafon, hefo dim gwerth o olion archaeoleg diwyddianol (yn ymyl Merthyr) wedi gwneud ebwch go lew a wedi ennill status UNESCO. Mi wn nad ydi twristiaeth yn mynd i ddatrys problemau'r Cymoedd ond mae'n well na gadael i'r hen adeiladau fynd a'u pennau iddynt. Dadl ambell i Lafurwr oedd fod yna bethau o bwys i wario prês arnynt a bod ysgolion Cymraeg yn foeth ond ar ôl gweld lle fel Merthyr mae rhywun yn gofyn lle aeth yr holl arian? Roedd Merthyr yn un o drefydd pwysicach y chwyldro diwydiannol ond erbyn heddiw lle blêr ydi a mae plant y dref hon yn gorfod mynd i Aberdâr i gael addysg (uwchradd) Gymraeg...