Sunday, February 16, 2014

Galwedigaeth a'r Gymraeg

Diolch unwaith eto i Hywel am ddarparu linc at waith ynglyn a'r Gymraeg o'i eiddo.

Dwi wedi copio un neu ddwy o siartiau, ond gallwch chwilota yn ol eich dymuniad o ddilyn y linc.  Er bod y patrwm yn amrywio cryn dipyn o ardal i ardal un peth amlwg iawn ydi'r tan gynrychiolaeth cyffredinol  o Gymry Cymraeg yn y grwp uchaf - cyfarwyddwyr, rheolwyr ac uwch swyddogion.








2 comments:

Hogyn o Rachub said...

Un duedd ddiddorol hefyd sylwish i arno ydi bod tangynrychiolaeth mewn nifer iawn o wardiau ymhlith y grwp di-waith neu byth wedi gweithio. Tybed a ydi hynny i raddau'n adlewyrchu un elfen ar y mewnfudiad?

Cai Larsen said...

Ella. Mi wnes i ddadansoddiad rhywbryd o'r wardiau Cymreiciaf yn ol eu lleoliad yn y mynegai amddifadedd cenedlaethol. Y patrwm yno oedd bod y rhan fwyaf ohonynt yn yr ail a'r trydydd chwartel. Hynny yw roedd tan gynrychiolaeth ymysg y wardiau cyfoethocaf a thlotaf.