Sunday, February 23, 2014

Pam y bydd rhaid i Mark Drakeford ddod i arfer efo beirniadaeth o gyfeiriad y cyfryngau Seisnig

Mae'n ddiddorol bod y Blaid Doriaidd yn Llundain - gydag ychydig help gan Darren Millar - wedi penderfynu mynd ati i ymosod ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru er mwyn sgorio pwyntiau gwleidyddol yn San Steffan.  Asgwrn y gynnen y tro hwn ydi un set o ffigyrau ar farwolaethau  anisgwyl, sy'n awgrymu bod posibilrwydd bod y gyfradd (RAMI) yn uwch nag y dylai fod, ac ebost digon gofalus ar y pwnc gan gyfarwyddwr meddygol y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, Bruce Keogh.

Y peth cyntaf i'w ddweud am hyn ydi ei bod yn hawdd gwneud i unrhyw gorff sy'n gorfod cyhoeddi amrediad mawr o ffigyrau ynglyn a'i  effeithiolrwydd ei hun ymddangos yn wael.  Mae pob set o ffigyrau yn amrywio tros amser, ac mae rhai ffigyrau am gymharu'n wael efo rhai cyrff eraill tebyg.  Mae'r amrywiaeth naturiol a geir oddi mewn i unrhyw set o ddata yn sicrhau hynny.  Os oes rhywun yn mynd ati i chwilio am pob ffigwr 'gwael' y gall ddod o hyd iddo, tra'n anwybyddu pob ffigwr 'da' gall wneud i unrhyw gorff sy'n cyhoeddi data amdano ei hun ymddangos yn fethiant.

Mae'n amlwg pam bod hyn yn digwydd.  Dydi etholiadau nesaf San Steffan ddim ymhell i ffwrdd ac mae'r Toriaid yn Lloegr yn cael eu hunain efo gweinyddiaeth Lafur yng Nghaerdydd i ymosod arni.  Dydi o ddim mewath o ots os ydi'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a'r sawl sy'n gweithio iddo yn cael eu pardduo a'u sarhau yn enw'r achos hollbwysig yma.  Gallwn ddisgwyl mwy a mwy o'r math yma o beth tros y misoedd sy'n arwain at etholiad cyffredinol 2015.  Mae yna rhywbeth gwirioneddol anymunol am y peth.

Meddyliwch am ennyd bod y llywodraeth SNP yng Nghaeredin rhywbryd tua 2010 wedi defnyddio sgandal Ysbyty Stafford  i awgrymu y byddai'r un peth yn digwydd ar hyd a lled yr Alban petai llywodraeth Lafur yn cael ei ethol i Holyrood.  Byddai'r ymateb gan y cyfryngau newyddion Seisnig yn ffyrnig - gwleidyddion di egwyddor, anfoesol yn defnyddio dioddefaint cleifion am resylau etholiadol ac ati.  A byddai'r cyfryngau Seisnig yn gwbl gywir i ymateb yn y ffordd yna.

Waeth i ni heb a disgwyl i'r cyfryngau Cymreig strancio llawer oherwydd bod y gwasanaeth iechyd Cymreig yn cael ei droi'n bel droed etholiadol gan wleidyddion Toriaidd yn Lloegr - maen nhw'n rhy llywaeth o lawer i wneud hynny.

Wedi dweud hynny mae yna rhywbeth anymunol o eironig yn y ffaith bod y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn debygol o gael ei beirniadu yn hallt tros y 15 mis nesaf gan y cyfryngau Adain Dde Seisnig - a hynny yn eu ffordd hysteraidd unigryw eu hunain.  Bydd hyn yn gryn ysgytwad i lywodraeth sydd hyd yn hyn wedi cael mynd o gwmpas ei phethau yn absenoldeb hyd yn oed beirniadaeth gyfrifol ac adeiladol o gyfeiriad y cyfryngau Cymreig.  

2 comments:

Unknown said...

Rwy'n cytuno Cai gyda'r blog. Un rheol i un ac un i bawb arall. Wedi dweud hynny, cefais sgwrs unwaith mewn caffi yn Llangefni adeg is-etholiad Rhun. Siaradais i ag o a gofynnais gwestiwn ynglyn a'r gwasanaeth ambiwlans - dywedodd un o'r criw y Blaid Lafur yr oeddwn yn aelod o Blaid Cymru a fe wrthododd ateb fy nghwestiwn! Hefyd daeth o drosodd yn wael iawn ar y wasg fel dyn blin - chydig fel Leighton Andrews - mae agenda fan hyn gan y Toriaid yn bendant - OND beth am i'r Blaid Lafur cymryd tipyn bach o gyfrifoldeb am UNRHYW beth - bai ar y Nats, bai ar y Toriaid, bai ar y Saeson... D I F L A S!

Unknown said...

Rwy'n cytuno Cai gyda'r blog. Un rheol i un ac un i bawb arall. Wedi dweud hynny, cefais sgwrs unwaith mewn caffi yn Llangefni adeg is-etholiad Rhun. Siaradais i ag o a gofynnais gwestiwn ynglyn a'r gwasanaeth ambiwlans - dywedodd un o'r criw y Blaid Lafur yr oeddwn yn aelod o Blaid Cymru a fe wrthododd ateb fy nghwestiwn! Hefyd daeth o drosodd yn wael iawn ar y wasg fel dyn blin - chydig fel Leighton Andrews - mae agenda fan hyn gan y Toriaid yn bendant - OND beth am i'r Blaid Lafur cymryd tipyn bach o gyfrifoldeb am UNRHYW beth - bai ar y Nats, bai ar y Toriaid, bai ar y Saeson... D I F L A S!