Saturday, December 14, 2013

Liz yn mynd a hi

Dwi'n deall mai Liz Saville Roberts aeth a hi yn dilyn yr hystings y Blaid am enwebiaeth Meirion / Dwyfor.  Llongyfarchiadau i Liz a chydymdeimlad a Mabon, Gwynfor, John a Dyfed.


7 comments:

Anonymous said...

Newyddion da o lawenydd mawr! Llongyfarchiadau i bawb am eu rhan yn y broses... Da cael cymaint ymgeisgwyr rhagorol yn cynnig eu hunain,

Anonymous said...

Newyddion da o lawenydd mawr.

Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu'n rhan o'r broses. Gwych o beth fod cynnifer o ymgeiswyr rhagorol wedi mentro cynnig eu henwau...

Bydd Liz yn AS rhagorol

Emlyn Uwch Cych said...

Mi fydd hi'n AS gwych.

Anonymous said...

Newyddion gwych i'r Blaid ac i Meirion Dwyfor - da iawn Liz!

Mabon said...

Ie wir, llongyfarchiadau gwresog iddi.

Does gen i ddim amheuaeth y bydd Liz yn ymgeisydd 'formidable' i Blaid Cymru. Does gen i ddim amheuaeth chwaith y bydd yn ennill yr etholiad ac yn Aelod Seneddol penigamp.

Ar lefel bersonol mi wnes i fwynhau'r cyfarfodydd dewis yn arw. Roedd y pedwar (rwy'n cynnwys Mandy) ymgeisydd arall yn rhagorol, ac mae'n nhw oll yn bobl da a chydwybodol. Rwy'n dweud yn gwbl ddidwyll ei fod wedi bod yn bleser cael rhannu llwyfan gyda nhw.

Bydd Liz yn dod ag agwedd ffresh, gwahanol i dy llychlyd San Steffan, ac yn chwa o awyr iach i'r lle. Mae'n ddynes ffeind ond cadarn.

Llongyfarchiadau gwresog iddi. A phenblwydd hapus hefyd - am anrheg :)

Wotsh owt Cameron, Miliband et al!

Mabon

Cai Larsen said...

Diolch Mabon - mae'r sylwadau'n adlewyrchu'n dda arnat.

Anonymous said...

Cofiwch am ei rhan yn cau ysgolion bach Gwynedd !