Tuesday, December 31, 2013

Ffigyrau'r flwyddyn

Yn anisgwyl braidd mae Blogmenai wedi torri record o ran darllenwyr - ar y mesur ymwelwyr unigryw o leiaf.  Roeddwn wedi disgwyl cwymp sylweddol eleni oherwydd nad oedd yna etholiadau arwyddocaol ar y gweill.  Mi fydd darlleniad y blog ar ei uchaf o lawer yn ystod cyfnod etholiad.  Dwi hefyd wedi blogio cryn dipyn llai na mewn blynyddoedd blaenorol.

Roedd is etholiad anisgwyl Ynys Mon o gymorth, ac hefyd am rhyw reswm neu'i gilydd roedd yna lawer iawn o ddiddordeb yn y blogio o'r Cyfandir tros yr haf.

Beth bynnag, diolch i bawb sydd wedi galw draw.  Peidiwch a bod yn ddiethr y flwyddyn nesaf.


Y gongs blwyddyn newydd

Mae'n debyg bod disgwyl i ni fel cenedl ymfalchio unwaith eto bod rhai yn ein plith wedi derbyn rhyw anrhydeddau neu'i gilydd sydd wedi eu llunio yn y dyddiau pan roedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn bodoli - a sydd erbyn heddiw yn rhyw fath o gofebau i'r Ymerodraeth honno.

Fel arfer mae'n gyfuniad rhyfedd o bobl - anrhydeddau am wneud rhywbeth neu'i gilydd yn wirfoddol, anrhydeddau i bobl am wneud y joban maent yn cael eu talu am eu gwneud, anrhydeddau am fod yn ffrindiau efo gwleidyddion dylanwadol, anrhydeddau am fod yn selebs, anrhydeddau am beidio a chicio yn erbyn y tresi ac anrhydeddau am gyfuniad o'r uchod.

Felly mae Geraint Talfan Davies yn cael  yn cael OBE am ddarlledu - darlledu oedd ei waith, mae Efa Griffith Jones yn mynd cam ymhellach ac yn cael ei hun yn Aelod o'r Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i blant a'r iaith Gymraeg - mae'n cael ei thalu am hynny, ac mae Rosemary Butler yn cael ei gwneud yn Fonesig am ei gwasanaethau i ddemocratiaeth a merched.  Mae'r rhestr od yn un gweddol faith.

Mae urddo Rosemary Butler yn gwneud i mi feddwl am flogiad arall ar Flogmenai, sef hwn.  Cyfeirio mae'r blogiad at gyfweliad a wnaed ar Post Prynhawn gan Gareth Glyn gyda Bethan Jenkins wedi i honno beidio ag ymddangos yn y Cynulliad i groesawu brenhines Lloegr.  Mi ges i ebost digon chwerw ac annifyr ddiwrnod neu ddau wedyn gan Gareth yn cwyno am y blogiad.

Yr hyn roedd y blogiad yn tynnu sylw ato oedd yr agweddau gwaelodol BBCaidd oedd ynghlwm wrth y trywydd holi - sef bod pobl sydd ddim yn hoffi'r sefydliad Prydeinig yn rhagrithiol ac yn ceisio tynnu sylw atyn nhw eu hunain.  Hynny yw mai diffygion persenoliaeth sy'n egluro eu amharodrwydd i gymryd rhan ym mhartion llyfu a llempian y Bib, nid unrhyw ddiffygion yn y sefydliadau Prydeinig.

Tra bod Bethan wedi absenoli ei hun roedd Rosemary Butler wedi sefyll y tu ol i'r Frenhines efo Carwyn Jones o flaen mor o gamerau.  Ond eto i'r Bib y person nad oedd ar gyfyl y lle oedd yn tynnu sylw ati hi ei hun, nid yr un oedd yn sefyll o flaen yr holl gamerau yn ei dillad dydd Sul yn torheulo yng ngoleuni'r cameras fflach oedd wedi eu cyfeirio at Frenhines Lloegr.   Mae'n amhosibl dychmygu Rosemary Butler neu Carwyn Jones yn cael cwestiwn megis 'Ond rydych yn derbyn eich bod yn tynnu sylw atoch chi eich hunain trwy sefyll y tu ol i'r Frenhines o flaen cant a hanner o gamerau?' gan rhywun sy'n gweithio i'r Bib - er nad oes dim yn fwy amlwg na'u bod yn tynnu sylw atynt eu hunain.

A dyna ni - mae Rosemary wedi cael ei hurddo oherwydd ei gwasanaeth i 'ferched a democratiaeth'.  Mae hefyd wedi cael ei gwobreuo am fod yn lleddf, yn sefydliadol ac am beidio a chicio yn erbyn y tresi - fel bron i bawb sy'n ymddangos ar y rhestrau hyn.

Llongyfarchiadau iddi hi a'r gweddill - does yna neb ohonoch wedi tynnu sylw atoch eich hunain - mewn rhyw hen ffordd hyll o leiaf.


Sunday, December 29, 2013

Amcanion i'r Blaid ar gyfer 2014

1). Cadw'r sedd Ewrop.  Mater gweddol syml fydd hyn o sicrhau bod cefnogwyr arferol y Blaid yn mynd allan i bleidleisio.  Mae'n debyg mai tua thraean fydd yn pleidleisio - hanner yr hyn sy'n pleidleisio mewn etholiad San Steffan.  O dan yr amgylchiadau hyn pe byddai'r Blaid yn cael 3/4 ei phleidlais San Steffan allan byddai'r bleidlais yn agos at 20% a byddai'r sedd yn eithaf saff. Doedd y Blaid ddim ymhell o gael 3/4 ei phleidlais 2005 allan yn 2009.

2). Datblygu ymateb synhwyrol i ganlyniad refferendwm annibyniaeth yr Alban.  Beth bynnag y canlyniad bydd natur perthynas Cymru a gweddill y DU yn newid yn sylfaenol.  Os bydd yr Alban yn mynd ei ffordd ei hun bydd llywodraethau Llafur yn y DU yn mynd yn bethau llawer llai cyffredin.  Bydd hyn yn gwneud mwy o ddatganoli yn atyniadol i lawer o bobl yng Nghymru.  Bydd y Blaid Lafur Gymreig yn ceisio osgoi derbyn pwerau trethianol am resymau rydym eisoes wedi eu trafod.  Bydd hyn yn ei dro yn rhoi cyfle i'r Blaid.  Os mai 'na' fydd yr ateb yna mae'n debygol y bydd y setliad efo'r Alban yn cael ei rhesymoli, a bydd pwerau pellach yn cael eu datganoli i'r Alban.  Mae'n bwysig o safbwynt y Blaid bod cyd destun Cymreig i hyn, ac mae'n bwysig mynd ati i amlinellu'r cyd destun hwnnw.

3). Paratoi ar gyfer etholiad cyffredinol 2015.  Un mis ar bymtheg sydd yna tan yr etholiad yma.  Yr wythnosau sy'n arwain at yr etholiad ydi'r rhai gwaethaf i'r Blaid gael ei neges i'r etholwyr - mae ei llais yn cael ei foddi'n llwyr gan swn byddarol cyfryngol. Y misoedd cyn yr etholiad cyffredinol ydi'r amser i'r Blaid drosglwyddo ei neges - golyga hynny'r flwyddyn nesaf.  Mae yna risg hefyd na fydd y glymblaid yn aros efo'i gilydd tan 2015.  Fel y bydd diwrnod yr etholiad yn dod yn nes bydd gwerth cynnal y llywodraeth yn lleihau, a bydd y demptasiwn i bleidiau'r glymblaid dynnu allan tros rhyw fater o egwyddor neu'i gilydd er mwyn sicrhau mantais etholiadol yn cynyddu.

4). Mae'r Blaid angen bod yn glir am union natur ei neges ar gyfer etholiad San Steffan a'i throsglwyddo. Mae'r ffaith bod Llafur Cymru yn rhoi'r bai am y toriadau maent yn eu gweinyddu ar y glymblaid tra bod Ed Balls yn dweud ei fod am gadw at gynlluniau gwariant y Glymblaid honno yn cynnig cyfle amlwg.

5). Bydd yr etholiad San Steffan nesaf yn torri tir newydd i'r graddau y bydd llai o bobl nag erioed o'r blaen yn derbyn eu gwybodaeth am yr etholiad o'r cyfryngau prif lif.  Mae darlleniad papurau newydd yn syrthio fel carreg trwy'r DU.  Bydd mantais sylweddol gan y sawl sy'n gwneud defnydd o ddulliau amgen o gyfathrebu neges wleidyddol.  Mae'n bwysig i'r Blaid fod ar flaen y gad yma.

6). Pres.  Bydd etholiadau Ewrop, San Steffan a'r Cynulliad yn ddrud iawn.  Does gan y Blaid prin ddim noddwyr corfforaethol ac undebol.  Yn wahanol i'r pleidiau unoliaethol mae'r rheolaeth ariannol yn dda a does ganddi hi ddim dyledion mawr.  Ar un ystyr mae hyn yn fantais - dydan ni ddim ar gledr llaw neb - fel y pleidiau unoliaethol.  Ond mae etholiadau yn ddrud - ac yn arbennig felly pan mae yna etholiadau pwysig flwyddyn ar ol blwyddyn.  Mae'r Blaid angen dod o hyd i well ffyrdd o sicrhau llif arian.  

Friday, December 27, 2013

Yr iaith Gymraeg yng Nghaernarfon

Gydag ymddiheuriadau i'r sawl yn eich plith sydd ddim yn adnabod tref Caernarfon, wele fapiau a gwybodaeth am broffeil ieithyddol y dref - maent wedi eu cymryd o wefan Claire Miller.

Fel rydym wedi son eisoes dyma'r unedau cyfrifo lleiaf ssydd ar gael, a dyma'r rhai lleiaf fydd ar gael am ganrif.

Mae Caernarfon a'r ardal o gwmpas y dref yn unigryw o ran dwyster y siaradwyr Cymraeg - ac efallai nad oes cymaint a hynny yn gyffredin rhyngddi a lleoedd eraill yng Nghymru.  Serch hynny efallai ei bod yn werth nodi nad oes patrwm cryf sy'n cysylltu siaradwyr Cymraeg a dosbarth cymdeithasol, er bod yr ardaloedd 90%+ yn tueddu i fod yn rhai tlawd.  Mae canol y dref yn wanach na'r stadau mawr ar y cyrion - yn rhannol oherwydd mewnfudo o Ddwyrain Ewrop, ac mae'r ardaloedd gwledig y tu allan i'r dref yn wanach - patrwm cyffredin yn Arfon.  Does yna ddim gwahaniaeth amlwg chwaith rhwng datblygiadau tai cymharol newydd a hen gymdogaethau.



Ffordd y Gogledd Dwyrain


Ffordd y Gogledd Lon Campell


Ffordd y Gogledd Canol


De Twthill


Twthill Lon Ysgol Rad


Gogledd Twthill


Cae Gwyn


Ael y Garth


Canol Dre Black Boy



Ffordd Bangor



Canol Dre Stryd Garnon


Canol Dre Maes


Canol Dre Penrallt


Sgubor Goch Lon Eilian

Sgubor Goch Gorllewin Cae'r Saint


Sgubor Goch Dwyrain Cae'r Saint


Sgubor Goch Ffordd Wern


Sgubor Goch Ffordd Sgubor Goch


Sgubor Goch Cae'r Garreg


Ardal Bro Helen


Ardal Caer Segontium



Ardal Glan Seiont


Ardal Hen Ysgol Hendre





Ardal Llys y Garn


Cefn Hendre


Ffordd Eryri i Lon Brics


Clwb Golff Llanfaglan


Lon Parc


Maes Meddyg Caeau Bach


Maes Hyfryd


Peblig Ffordd Fictoria


Cae Bold


Cae Mur / Cae Berllan


Rhosbadrual


Y Glyn


Ffordd Llanberis / Maes Cadnant


Ardal Pontrhug

Wednesday, December 25, 2013

Dolig Llawen

Nadolig Llawen i holl ddarllenwyr Blogmenai.

Monday, December 23, 2013

Neges 'Dolig Carwyn

Felly mae Carwyn Jones yn defnyddio y rhan fwyaf o'i neges Nadolig i ddiolch i filwyr Prydeinig mewn gwledydd tramor am ein hamddiffyn.  Rwan dwi ddim eisiau ymddangos yn aniolchgar, a dwi'n siwr bod llawer o'r sawl sy'n ymuno efo'r fyddin yn gwneud hynny er mwyn amddiffyn pobl eraill, ond mae'n werth gofyn sut yn union mae milwyr Prydeinig mewn gwledydd tramor yn ein hamddiffyn?  Rhestraf isod leoliadau tramor y fyddin Brydeinig.  Oes gan unrhyw un eglurhad ynglyn a beth yn union sydd gan Carwyn mewn golwg?

Belize:  Ymddengys bod milwyr Prydeinig yn yr wlad yma oherwydd bod yna ffraeo rhwng y wlad honno a Guatemala ynglyn a lle'n union y dylai'r ffin rhwng y ddwy wlad fod.  Ceir cyfanswm o ddeg o filwyr yno.

Brunei:  Mae gan y DU bresenoldeb milwrol yn yr wlad yma i bwrpas amddiffyn unbeniaeth brenhinol Islamaidd sydd ymysg pethau eraill yn carcharu pobl hoyw am ddegawd.

Canada:  Mae gan y fyddin gamolfan hyfforddi yng Nghanada.

Yr Almaen: Cafwyd presenoldeb yma ers diwedd RhB2 - i ddechrau i bwrpas meddiannu rhan o'r wlad, ac wedyn i amddiffyn Gorllewin Ewrop oddi wrth yr Indeb Sofietaidd.  'Dydi hi ddim yn glir pam bod y fyddin yno rwan a bydd yn gadael yn 2020.

Kenya: Canolfan hyfforddi arall.

Sierra Leone:  Hyfforddi byddin yr wlad honno.

Gogledd Iwerddon:  Gweddillion y presenoldeb mwy o lawer oedd yno yn ystod y rhyfel hir yn y dalaith honno.

Gibraltar:  Sicrhau mai o Lundain ac nid o Madrid y rheolir y darn bach yma o dir.

Malfinas:  Sicrhau mai o Lundain ac nid o Buenos Aires y rheolir yr ynysoedd.

Cyprus:  Cedwir presenoldeb yma rhag ofn bod yr angen yn codi i ymospd ar rhyw wlad neu'i gilydd yn y Dwyrain Canol.  Yr unig wlad yn y Dwyrain Canol sy'n gallu bygwth y DU ydi Israel.  Gallant yn hawdd anfon bomiau niwclear i Brydain gan ddefnyddio eu taflegrau Jerico neu eu hawerynnau rhyfel  F15 neu F16.  Ond dydi hynny ddim am ddigwydd wrth gwrs - a dydi Prydain ddim am ymosod ar Israel chwaith.

Afghanistan:  Ymladd yn erbyn y Taliban.  Mi fydd y Taliban yn dod i gytundeb efo llywodraeth Afghanistan wedi i luoedd y Gorllewin adael.  Mae'r ymyraeth yma wedi ei gwneud terfysgaeth ar strydoedd y DU yn llawer mwy tebygol.



Sunday, December 22, 2013

'Rheswm' arall i Albanwyr bleidleisio Na

Hmm - y 'rheswm' diweddaraf i beidio a phleidleisio tros annibyniaeth i'r Alban ydi y byddai gwladwriaeth annibynnol yn yr Alban yn 'troi'r DU gasgliad o lwythau unig mewn Byd peryglus ac ymysodol'. Dyna mae'r hanesydd Linda Colley yn ei honni yn Sunday Times heddiw beth bynnag.  Mae hefyd o'r farn mai gwrth Seisnigrwydd sy'n gyrru'r ymgyrch tros annibyniaeth yn yr Alban.

Gallwn ychwanegu'r 'rheswm' yma at y domen o 'resymau' mwyfwy apocolyptaidd sydd wedi eu cyflwyno gan wrthwynebwyr hawliau cyfartal i'r Alban - byddai'n rhaid i Loegr fomio meysydd awyr  yr Alban, byddai'r wlad yn cael ei chwalu'n economaidd gan y rheidrwydd i dalu rhyw ddyledion neu'i gilydd, byddai ciwiau anferth o bobl wrth y ffin yn gafael yn dyn yn eu pasports, y byddai hanner miliwn o bobl yn gadael yr wlad yn y fan a'r lle, y byddai prisiau bob dim yn saethu trwy'r to, y byddai pawb yn cael eu troi'n dramorwyr, na fyddai'n bosibl i'r wlad gael benthyciadau, y byddai'r wlad yn gwbl ddi amddiffyn, y byddai terfysgwyr o bedwar ban Byd yn heidio yno, y byddai'n rhaid gadael yr Undeb Ewropiaidd, y Gymanwlad, NATO a'r Cenhedloedd Unedig, na fyddai syniadau a blaengaredd yn gallu croesi'r ffon, y byddai yna lywodraeth Doriaidd yn Lloegr am weddill amser ac ati, ac ati.

Mae'n adrodd cyfrolau am seiliau deallusol yr achos unoliaethol bod eu hymgyrch wedi ei seilio ar gyfres o fygythiadau hysteraidd yn hytrach nag ar ddadl gyson a synhwyrol sy'n rhoi cig a gwaed ar y cysyniad anarferol ei bod yn well i wledydd gwahanol fod yn rhan o'r un gwladwriaeth.




Wednesday, December 18, 2013

Sgwp fawr y Western Mail am Doriaid Aberconwy

Fydd yna ddim llawer o drafodaeth ar gynnwys y Western Mail ar Flogmenai, a'r rheswm am hynny ydi nad yw awdur y blog yn darllen y papur.  Ond gan i fy sylw gael ei dynnu at y berl o stori yma a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Crynswth y stori yn y bon ydi bod Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb wedi trefnu rhyw ddigwyddiad neu'i gilydd i godi pres, wedi rhoi gwahoddiad i gwahanol bobl ddod, wedi dweud wrth y rheiny am wahodd pobl eraill ac yn bwriadu rhoi'r pres a godwyd at ei ymgyrch etholiadol.

Ymddengys bod y Western Mail yn ystyried bod y nonsens yma yn dipyn o sgwp - a barnu oddi wrth y lle a roddwyd iddi beth bynnag.  Efallai bod y Wail allan o gysylltiad braidd efo gwleidyddiaeth go iawn - ond mae pleidiau lleol yn codi pres, maen nhw yn cadw cofnod o gefnogwyr potensial ac maen nhw yn gwario yr hyn maent yn ei godi ar etholiadau.  I lle mae'r Mail yn meddwl bod y sawl a fynychodd y digwyddiad yng Nghaerhun yn disgwyl bod eu pres yn mynd - tuag at gartref mulod amddifad?  

Mae'r ffordd mae'r Western Mail yn ymdrin a gwleidyddiaeth Gogledd Cymru yn gallu ymddangos yn bisar ar yr olwg gyntaf.  Mae'r stori fach di ddim yma yn cael sylw mawr, ond dwi ddim yn ymwybodol o unrhyw son am ddewis y Blaid o ymgeisydd seneddol ar gyfer etholaeth ddiogel Meirion Dwyfor.  Tameidiog iawn oedd yr ymdriniaeth o is etholiad Ynys Mon, gan dynnu yn drwm ar fyllio hysteraidd y blog Syniadau o Lundain bell.  Roedd mwyafrif llwyr i Lafur ym Mae Caerdydd yn y fantol yn yr etholiad hwnnw wrth gwrs - ac mae'r Western Mail yn disgrifio ei hun fel papur cenedlaethol Cymru.


Pam felly bod y stori yma'n cael sylw gan y papur?  Efallai bod yr ateb i'w gael yn ffynhonnell y stori - sef  ymgeisydd Llafur yn Aberconwy, Mary Wimbury.  Mae Ms Wimbury yn wraig i Tal Michael, sydd wrth gwrs yn fab i Alun Michael.  Mae'r Blaid Lafur Gymreig wedi dewis Mary yn ymgeisydd seneddol yng Nghonwy, a Tal yn ymgeisydd yn is etholiad Ynys Mon (ar ol gwrthod gadael i'r ffefryn lleol sefyll), ac yn ymgeisydd i fod yn Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd yn y flwyddyn a hanner diwethaf.  Tra nad ydi'r Gogledd o fawr o ddiddordeb i'r Mail mae'r teulu Michael yn agos at stepan drws ac at galon yr ymdrech Trinity Mirror.  


Efallai y byddai o fwy o ddiddordeb i ddarllenwyr y papur bod y Blaid Lafur Gymreig yn awyddus i hyrwyddo gyrfa wleidyddol boi sydd efo hanes o gael ei hun o flaen llys barn ar ol cael ei gyhuddo o enllibio aelod o'i blaid ei hun am resymau gwleidyddol.  Ond dydi'r Western Mail na'r cyfryngau prif lif Cymreig ddim am fynd ar ol honna wrth gwrs.   

Sunday, December 15, 2013

Tipyn o help i David Jones

Felly dydi David Jones druan methu deall pan na benodwyd y diweddar Wyn Roberts yn Ysgrifennydd Gwladol tros Gymru.  Mae'n wir i gyfres digon rhyfedd o unigolion oedd a chysylltiadau tenau a Chymru gael eu dewis o'i flaen.  Wedi ymadawiad Nick Edwards yn 1987 cafodd Peter Walker, David Hunt, John Redwood a William Hague eu dewis yn hytrach na Wyn Roberts - er ei bod yn gwbl amlwg bod hwnnw'n llawer mwy addas na'r un ohonyn nhw i wneud y job.

Dydi'r rheswm ddim yn un arbennig o anodd i'w ddeall.  Nid dewis yr unigolyn gorau o safbwynt Cymru oedd Major a Thatcher, ond dewis yr unigolyn gorau o safbwynt y Blaid Doriaidd.  Roedd rhoi lle wrth fwrdd y cabinet i elyn gwleidyddol tra'n gwneud yn siwr nad oedd ganddo fawr o bortffolio yn egluro pam y cafodd Walker a Redwood eu penodi (mae'n well cael y bastad y tu mewn i'r babell yn piso allan na'i gael y tu allan yn piso i mewn oedd eglurhad cofiadwy Major).  Gwobr gafodd David Hunt a help i ris cyntaf y cabinet gafodd Hague.

Mae'r hanes yn adrodd cyfrolau am agwedd waelodol y Toriaid tuag at Gymru.


Saturday, December 14, 2013

Liz yn mynd a hi

Dwi'n deall mai Liz Saville Roberts aeth a hi yn dilyn yr hystings y Blaid am enwebiaeth Meirion / Dwyfor.  Llongyfarchiadau i Liz a chydymdeimlad a Mabon, Gwynfor, John a Dyfed.


Thursday, December 12, 2013

Pol Cymreig diweddaraf YouGov

Cyn bod polau piniwn Cymreig mor brin, mae'n well i mi wneud sylw neu ddau am y pol piniwn YouGov a ryddhawyd ddoe.  Tri phwynt brysiog cyn cychwyn fodd bynnag - yn gyntaf dwi'n croesawu'r pol - does yna ddim digon yn cael eu cynnal yng Nghymru, yn ail mae YouGov ymysg y cwmniau polio gorau yn y DU ac yn drydydd dwi'n derbyn nad yw'n arfer da i wfftio polau nad ydym yn eu hoffi.

Serch hynny mae yna broblem efo polio Cymreig.  Ar lefel y DU - lle ceir polio mynych iawn - mae polio yn gywir.  Gall cwmniau polio addasu eu methedoleg os ydi eu canfyddiadau yn hollol wahanol i ganfyddiadau cwmniau eraill neu os ydynt yn cael eu profi'n anghywir gan etholiadau.  Gan nad oes llawer o bolio Cymreig, does yna ddim yr un cyfle i addasu methodoleg - a gallai hyn arwain yn hawdd at ddiffyg cywirdeb.  

Mi wnawn ni ddechrau efo San Steffan.  Canfyddiad YouGov oedd: 





Llafur 46% (+10%)

Toriaid 21% (-5%)

Lib Dems 8% (-12%)

Plaid Cymru 12% (+1%)
UKIP 10% (+8%)
Others 4% (0)

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod y ffigyrau ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yn  gredadwy - yng nghyd destun y bleidlais Llafur a Thoriaidd o leiaf.  Maent yn cyd fynd yn dda a'r hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl o'r polau Prydeinig.  Yn ystod y degawdau diweddaraf mae Llafur yn y DU yn tan berfformio'r hyn maent yn ei wneud yng Nghymru o rhwng 5% a 15%.  Mae pol diweddaraf Prydeinig YouGov yn rhoi Llafur ar 38%.  yn yr un modd mae'r Toriaid yn tan berfformio yng Nghymru o gymharu a'r DU yn yr amrediad cyfyng iawn o 10% i 13%.  33% oedd sgor y Toriaid yn y pol YouGov Prydeinig diweddaraf.  Mae'r canfyddiad ar gyfer y Lib Dems yn edrych ychydig yn uchel, 3% i 5.5% ydi'r amrediad arferol, ac mae'r pol YouGov Prydeinig diweddaraf  yn eu rhoi ar 10%.


Mi edrychwn ni nesaf ar ganfyddiadau YouGov parthed y Cynulliad (etholaethau):

Llafur  43% (+1%) 
Toriaid 19% (-6%) 
Plaid Cymru 20% (+1%) 
Lib Dems 9% (-2%)
 UKIP 7% (+7%)

Mae'r ffigyrau yma yn gredadwy hefyd.  Oni bai am UKIP a'r Toriaid mae'r symudiadau oll oddi mewn i'r margin for error.  Mae yna amrediad o gywirdeb i pob pol - ac mae hwnnw'n 6% (+\_ 3%) mewn pol o fil mewn un YouGov.  Mae'r gogwydd oddi wrth y Toriaid at UKIP yn cael ei adlewyrchu yn y polau Prydeinig.  Yn 2011 pan gafwyd yr etholiadau Cynulliad diwethaf roedd y symudiad oddi wrth y Lib Dems tuag at Lafur eisoes wedi digwydd, ond nid oedd llawer o'r symudiad oddi wrth y Toriaid at UKIP wedi mynd rhagddo eto.  

Cynulliad Rhanbarthau:


Llafur 40% (+3%)
Tori 19% (-3.5%)
Plaid Cymru 15% (-3%)
UKIP 10% (+5%)
Lib Dems 9% (+1%)

Ar wahan i'r cwymp cymharol fach yng nghanran y Toriaid, does yna ddim problem anferth yma chwaith - mae pleidlais y Blaid yn is na'r disgwyl, ond byddai argyhoeddi pleidleiswyr bod rhoi ail bleidlais i Lafur yn wastraff yn rhan o naratif yr etholiad.

Mae'r canfyddiadau Ewrop yn fwy anodd i'w credu fodd bynnag.

Llafur 41% (20%)
Toriaid 20% (21%)
Lib Dems 8% (11%)
Plaid Cymru 13% (18.5%)
UKIP 13% (13


Rwan y peth cyntaf sy'n taro dyn ydi canran UKIP - dydi o heb symud modfedd bron ers 
2009  - er bod y blaid honno yn cael tair neu bedair gwaith cymaint o bleidleisiau yn y polau San Steffan arferol.  Ar ben hynny maent wedi llwyddo i berfformio yn dda iawn yn ddiweddar mewn etholiadau cyngor ac is etholiadau San Steffan. Ydi hi o ddifri yn gredadwy eu bod wedi symud ymlaen ym mhob maes ag eithrio'r un maent yn arfer gwneud orau ynddo  - etholiadau Ewrop?

Ac ydi hi'n debygol nad ydi cefnogaeth y Toriaid yng Nghymru wedi symud fawr ddim 
chwaith er i'w perfformiad yn y polau (San Steffan ) Prydeinig syrthio'n sylweddol rhwng 
09 a rwan (cwymp yn yr amrediad 6% i 11%)?  Ar ben hynny fel rydym wedi trafod 
mewn blogiad diweddar  bu cwymp sylweddol iawn yn y bleidlais Doriaidd ar hyd a lled Cymru mewn is etholiadau.

Ydi hi'n debygol bod Plaid Cymru yn dal ei thir yn y Cynulliad a San Steffan ond yn colli chwarter ei phleidlais ar lefel Ewrop?

Y gwahaniaeth mawr rhwng etholiad Ewrop ac un San Steffan ydi bod y gyfradd pleidleisio'n llawer is yn y cyntaf - 30.5% yn 2009 o gymharu a'r 64.9% a gafwyn yn etholiadad San Steffan 2010.  Mae lle i feddwl bod hyn yn cael mwy o effaith ar y ganran Llafur nag un neb arall.  Er enghraifft cafwyd pol piniwn YouGov (lefel Prydeinig) ar fwriadau pleidleisio Ewrop ym mis Ionawr 2009 - rhai misoedd cyn yr etholiad Ewrop.  Y canfyddiadau oedd:

Toriaid- 35%
Llafur - 29%
Lib Dems 15%
UKIP - 7%

Y canlyniad ar y diwrnod oedd:
Toriaid - 28%
Llafur 15.7%
Lib Dems 13.7%
UKIP - 16.5%

Hynny ydi roedd canran Llafur hanner yr hyn oedd wedi ei ddarogan yn y pol YouGov tra bod canran UKIP ddwywaith yr hyn gafodd ei ddarogan chwe mis cyn yr etholiad. Un 
rheswm am hyn yn fy marn i ydi bod cefnogwyr Llafur yn llai tebygol na chefnogwyr 
pawb arall i bleidleisio mewn etholiad Ewrop, a'r ail ydi bod cefnogwyr UKIP yn fwy 
tebygol na neb arall i wneud hynny - dyna eu cyfle i fwrw pleidlais yn erbyn Ewrop.  
Petai pleidleisio yn orfodol byddai ffigyrau YouGov yn debygol o fod yn nes ati.  Ond 
gan bod grwpiau gyda gwahanol safbwyntiau gwleidyddol efo tueddiadau tra gwahanol o ran mynd allan i bleidleisio, mae cyfradd pleidleisio isel iawn yn gallu cynhyrchu canlyniadau rhyfedd iawn.

I edrych ar y Blaid yn benodol am ennyd mae yna batrwm pendant o ran lefelau ei chefnogaeth - bydd ei pherfformiad gorau mewn etholiadau Cynulliad, wedyn mewn etholiadau cyngor, wedyn mewn etholiadau Ewrop, a bydd ei pherfformiad salaf ar lefel San Steffan.  Mae'r gwahaniaeth yng nghefnogaeth y Blaid yn etholiadau San Steffan o gymharu ag etholiad Ewrop dilynol yn amrywio o 3.1% yn 2004 i 19.7% yn 1999 - gyda gwell perfformiad yn yr etholaeth Ewrop pob tro.  Byddai'r gwahaniaeth o 1% a geir yn y pol YouGov ymhell, bell oddi wrth cymedr y gwahaniaeth.  

Rwan, dydi patrymau hanesyddol ddim yn santaidd - mae pob patrwm yn newid, ond 
maent yn rhoi fframawith i ni sy'n ein cynorthwyo i ddeall perfformiadau cymharol mewn etholiadau.  Mae canfyddiad y pol hwn am etholiad Ewrop ymhell y tu allan i'r fframwaith hwnnw.  Dwi'n meddwl bod y canfyddiad yng nghyd destun etholiad Ewrop yn wallus, ac mai un rheswm am hynny ydi bod YouGov yn cyfri pawb tra mai llai na thraean sy'n pleidleisio. Mae methodoleg y rhan fwyaf o gwmniau eraill yn cymryd tebygrwydd i bleidleisio i ystyriaeth, ond dydi methodoleg YouGov ddim yn gwneud hynny.  Er bod y canfyddiadau Cynulliad yn fwy credadwy, mae'n bosibl bod methedoleg YouGov yn cuddio rhywbeth yno hefyd - mae cyfraddau pleidleisio etholiadau'r Cynulliad yn uwch na rhai etholiadau Ewrop - ond maent yn is na rhai etholiadau San Steffan.

*Diolch i'r Athro Roger Scully am fod a'r amynedd i ateb cwestiynau gennyf ynglyn a methedoleg YouGov.

Tuesday, December 10, 2013

Y cyfuniad rhyfedd o bobl sy'n galaru Mandela




Robert Mugabe, Barak Obama, Gerry Adams, Raul Castro, David Cameron, Naomi Cambell, Mary Robinson, Henry Kissinger, Bono, George Bush ac ati ac ati - y cwbl yn gwneud eu ffordd i DdeAffrica a'r cwbl yn uniaethu eu hunain efo'r diweddar Nelson Mandela.  Go brin bod yna griw mor eclectig o bobl erioed wedi uniaethu efo un person o'r blaen - yn ystod bywyd y person hwnnw o leiaf.  Ac wrth gwrs ar rhyw olwg maen nhw i gyd yn gywir i wneud hynny - mae naratif bywyd Mandela yn gymhleth ac yn cyffwrdd a naratifau gwleidyddol pob un o'r uchod mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

Dechreuodd ei fywyd gwleidyddol yn aelod o'r ANC di drais cyn mynd ati i arwain y mudiad a chefnu ar egwyddorion di drais,  cael ei garcharu am flynyddoedd maith cael ei ryddhau, arwain yr wlad i gyfundrefn ddemocrataidd gan osgoi rhyfel cartref a thrais eang, gwasanaethu fel arlywydd a threulio blynyddoedd olaf ei fywyd yn eicon rhyngwladol a sant cyfoes.

Yn ystod y cyfnod magodd gysylltiadau agos efo'r Blaid Gomiwnyddol, FRELIMO Samora Michel, Zanu PF Robert Mugabe ac IRA Gerry Adams.  Yn wir mae'n debyg mai cefnogaeth dechnegol yr IRA oedd y tu ol i rai o ymysodiadau mwyaf adnabyddus adain filwrol yr ANC.  Magodd hefyd gysylltiadau efo llywodraethau democrataidd y Gorllewin, ac aeth ati i arwain democratiaeth cyfansoddiadol mewn cyfundrefn economaidd gyfalafol.

Cyffyrddodd bywyd gwleidyddol Mandela efo llawer o themau mawr gwleidyddiaeth ail hanner y ganrif ddiwethaf - y frwydr ideolegol oedd ynghlwm a chyfalafiaeth a Chomiwnyddiaeth, diwedd yr ymerodraethau mawr a blerwch ol imperialaeth, y gwrthdaro rhwng cenedlaetholdeb sifig ac ethnig, y frwydr am hawliau sifil a chydraddoldeb o ran hil a chrefydd, a goruwchafiaeth rhyddfrydiaeth cymdeithasol.

Mae'n adrodd cyfrolau am y ffordd yr ydym yn edrych ar y Byd bod fwy neu lai bawb yn uniaethu efo'r hyn sy'n apelio atynt yn hanes Mandela, tra'n anwybyddu'r hyn nad ydynt yn eu hoffi.  Mae'r cyfuniad o stori dda (digon o ddioddefaint ond diwedd hapus), cymeriad pwerus (deallusrwydd, hunan gred, carisma ac urddas), a'n hangen i fod ar ochr 'gywir' hanes wedi dod a'r bobl mwyaf anisgwyl at ei gilydd am ychydig ddyddiau.

Saturday, December 07, 2013

Dwy flynedd uffernol y Toriaid yng Nghymru

Dydi is etholiadau lleol ddim yn derbyn llawer o sylw gan y cyfryngau prif lif yng Nghymru, a dydi'r ddwy is etholiad yng Nghaerdydd ddim yn eithriadau yn hynny o beth.  Yr hyn sy'n debygol o gael llai fyth o sylw ydi perfformiad uffernol y Toriaid 107 (4.8%) yng Nglanyrafon a 86 (4.8%) yn Spoltt).  Mae'r rhan fwyaf o bobl am wn i yn cofio'r ddau berfformiad erchyll yn Ynys Mon ganddynt eleni - yn etholiadau'r Cyngor (6%)  a'r Cynulliad (8%) gan ddod y tu ol i UKIP ar y ddau achlysur.

Yr hyn na fydd cymaint o bobl yn ei gofio ydi'r gyfres hir o is etholiadau lleol  trychinebus maent wedi ei gael ers dechrau 2012:

Bronglais (Cyngor Tref Aberystwyth) - Dim ymgeisydd.
Pillgwenlli (Casnewydd) - 155 (14.2%).
Penyrheol (Caerffili) - 135 (7.5%).
Bryncoch (Penybont) - Dim ymgeisydd.
Deganwy (Conwy) - 437 (38.4%)
Risca (Caerffili) - 36 (3%)
Caerhun (Conwy) - 170 (22.3%) - ond colli'r sedd a phrofi cwymp o 18.3% yn eu pleidlais.
Cei Connah  (Fflint) - 34 (4.8%).
Sandfields (Castell Nedd / Port Talbot) - 49 (3.3%).
Llansamlet (Abertawe) - 236 (12.9%).
Bettws (Pen y Bont) 12 (1.9%).
Buttrills (Bro Morgannwg)  - 90 (7.4%).
Tredegar Newydd (Caerffili) - 24 (3%).
Gwyngill (Ynys Mon) - Dim ymgeisydd.
Llanbedrgoch (Ynys Mon) - Dim ymgeisydd.
Cyfarthfa (Merthyr) - 26 (2.2%).
Bryncrug (Gwynedd) - Dim ymgeisydd.
De Castell Nedd (Cyngor Tref Castell Nedd) - Dim ymgeisydd.
Penprysg (Cyngor tref Peenybont) - Dim ymgeisydd
Burton (Penfro) - 166 (25%).

Dwi wedi cymryd y canlyniadau i gyd oddi yma.

Rwan dwi'n gwybod nad ydi'r Toriaid yn gwneud cyn waethed yn y polau, a dwi'n gwybod nad ydi hi'n syniad da cymharu gwahanol fath o etholiadau'n rhy agos.  Ond mae'n ymddangos bod y Toriaid Cymreig yn cael coblyn o drafferth i gael eu cefnogwyr i fynd allan i bleidleisio mewn etholiadau lle mae'r gyfradd pleidleisio yn weddol isel.  Etholiad felly fydd etholiad Ewrop y flwyddyn nesaf.  Ar hyn o bryd mae'n edrych yn debygol y byddant yn syrthio o fod ar frig y pol yn 2009 i fod yn bedwerydd y tro hwn - ac mae hefyd yn edrych yn debygol y byddant yn colli eu sedd.  

Friday, December 06, 2013

Hystings Meirion Dwyfor

Mae'r 6 bellach yn 5 - tynnodd Mandy ei henw yn ol heno.  

'Dwi'n credu bod tua 200 o bobl yn Ysgol Glan y Mor, Pwllheli heno.  Bydd digwyddiad tebyg wythnos nesaf yn Nolgellau a bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi wythnos i 'fory.  'Dwi'n rhagweld y bydd canran barchus iawn wedi pleidleisio rhwng y ddau hystings a'r bleidlais bost.  

Roedd perfformiad y pump darpar ymgeisydd yn gadarn iawn.  

Glan yr Afon - da, ond dim cweit digon da


Canlyniad neithiwr yn is etholiad Glan yr Afon, Caerdydd


Llaf 1120 
Plaid 773
Toriaid  107
UKIP 97
TUSC 70
LD 58

Byddai ad ennill un o'r seddi a gollwyd y llynedd wedi bod yn dda - ond cafwyd cynnydd yng nghanran y bleidlais yn ogystal a llwyddo i gael dwywaith cymaint o bleidleisiau na'r Lib Dems, y Toriaid, ac UKIP efo'u gilydd.  Da iawn Liz - ond dim cweit digon da y tro hwn yn anffodus?

Yn y cyfamser llongyfarchiadau i Tim Thomas am ennill sedd ym Mhenprysg, Pen y Bont ar y cyngor tref.  Fedra i ddim dod o hyd i'r ffigyrau - croeso i unrhyw un sydd efo mwy o wybodaeth na fi i'w darparu.