Monday, September 30, 2013

Os ydych chi'n meddwl ei bod yn ddrwg ar y Gymraeg _ _ _

_ _ _ edrychwch ar sefyllfa'r Gaeleg yn yr Alban. Mae ei dyddiau fel iaith gymunedol yn dod i ben - hyd yn oed yn ei chyn gadarnle yn Ynysoedd y Gorllewin. Ceir Mwy o gwymp yno nag yn unman arall. Diolch i Wiliam Dolben am y daenlen a'r sylwebaeth.

Sylwadau William:

Mae ystadegau'r Aeleg yn yr Alban newydd ddôd allan. Maent yn berthnasol am fod gan yr Alban yr un broblem â Cymru: bro Gymraeg neu Aeleg (Gaidhealtachd) sy'n crebachu a thyfiant yn yr ardaloedd Seisnigaidd.

Yn ôl Wikipedia: " BBC Alba has four studios across Scotland, located in Stornoway, Glasgow, Inverness and Portree. Continuity and channel management is based in Stornoway while the news services are based in Inverness" 'Dwn' i'm lle mae'r pencadlys ond ymddengys nad ydynt wedi canoli popeth yn Glaschu

Yn ail nid yw canlyniadau'r cyfrifiad yn debyg o godi calon y rhai ohonom sydd am weld yr ieithoedd bach yn parhau. 

Gyrraf daenlen at Cai iddo gael ddadansoddi a llwytho ond dyma'r prifganfyddiadau:

1. Yr Alban: gostyngiad bach of ryw fil i 57,000 sef llai na 2% yn nifer y siaradwyr
2. Dirywiad cyson yn y Gaidhealtachd: Yn Eilean Siar (Ynys Hir) o 61% ym 2001 i lawr i 52% ym 2011. Yn 1971 roedd dros 95% yn siarad Gaeleg mewn rhai cymunedau yn Lewis ond erbyn hyn rhyw 12% o'r plant sydd yn siarad Gaeleg ar yr aelwyd yn yr ynysoedd anghysbell hyn. Heb fewnlifiad o bwys (a er gwaetha'r feirniadaeth lem o'r White Settlers) mae'r trigolion cynhenid wedi rhoi'r farwol i'w hiaith eu hunain
3. Dirwyiad pellach yn yr unig ardaloedd lle mae'r iaith yn gyfrwng cymdeithasol mewn rhai cymunedau yn y gorllewin sef Argyll (2001: 4.7%, 2011: 4%, HIghland: 6.2% a 5.4%....

Dyma'r wefan: http://en.wikipedia.org/wiki/Scottish_Gaelic#cite_note-scotland.gov.uk-24

mae'r sefyllfa'n waeth fyth yn yr ysgolion a nodir yn Wikipedia mai dim ond 624 o blant oedd yn siarad Gaeleg ar yr aelwyd ym 2010.

7 comments:

Anonymous said...

Pa bolisiau sydd gan yr SNP i gynnig i'r Gaeleg ? Yr argraff a gefais i erioed oedd mai gweld yr iaith fel anachronistiaeth amherthnasol oedd yr SNP, ac yn ei gweld fel rhwystr i Alban fodern, rydd. A hon yw'r wlad mae cenedlaetholwyr Cymru'n edmygu.

William Dolben said...

Diolch Cai am lwytho hyn

Dydi'r Albanwyr ddim yn moedro eu pennau am "genedl heb iaith cenedl heb galon". Mae'n berffaith bosibl bod yn Albanwr heb fedru'r un gair o'r Aeleg. Mae llawer ohonynt yn honni mai iaith yr Ucheldiroedd un unig oedd Gaeleg yn y bôn neu rywbeth wedi ei fewnforio o Iwerddon ...Cofiwch hefyd fod yr Lowlanders wedi gneud eu gorau glas i ddarostwng y Highlanders anwaraidd nes iddynt droi yn eu carnau ac arddel diwylliant oedd gynt yn wrthodedig ganddynt

Amcangyfrir mai dim ond 20% ohonynt oedd yn siarad Gaeleg ym 1800! Yn y cyfrifiad hwn (2011) nododd 30% o'r boblogaeth eu bod yn siarad Scots /Lallans.

Dyma gip ar brif iaith aelwyd plant cynradd yn yr Alban ym 2010

English 642.498
Polish 6.249
Urdu 4.523
Punjabi 4.398
Arabic 1.793
Cantonese 1.467
French 825
Gaelic (Scottish) 606

Cwta 0.1% sydd yn siarad Gaeleg fwya (1.7% yn siarad Gaeleg yn ôl y Cyfrifiad)

Yr unig beth da ydi eu bod wedi sefydlu eu sianel Aeleg yn Stornoway yn Ynys Hir (Eilean Siar) er bod y dref honno'n Seisnigaidd iawn er blynyddoedd

Hogyn o Rachub said...

Mae sefyllfa’r Aeleg efallai rhywfaint yn dristach na’r Gymraeg mewn sawl ffordd. Mae’r dirywiad dros gyfnod o ganrif yn nifer y siaradwyr wedi bod yn 69%, o 184,000 ganrif nôl i ffigurau heddiw – mae’n ddirywiad sylweddol waeth na’r Gymraeg hyd yn oed.

Fel y dywedodd Wil, mae’n ymddangos na fu mewnfudo o bwys i’r ardal, sy’n gwrthgyferbynnu’n fawr â sefyllfa Cymru, ond yn amlwg dydi’r ffaith bod yr ynysoedd mor anghysbell heb achub yr iaith ychwaith, a bod trosglwyddo iaith yn broblem enfawr (hyd yn oed yn waeth nag yng Nghymru). Yn wir, yn y byd modern, mae’n debyg bod bod yn anghysbell yn broblem o ran cynnal iaith yn hytrach na bod yn fantais ... mae ystadegau’r Gymraeg yn arwydd o hyn.

Ac mae hyn oll er gwaethaf y ffaith i’r Aeleg gael Deddf Iaith a sianel deledu dros y degawd diwethaf. Y cyfan a wna hynny ydi profi nad ydi statws yn achub iaith, sy’n wers o ryw fath i ni yma ‘Nghymru.

Ta waeth – sefyllfa drist iawn.

Anonymous said...

"Pa bolisiau sydd gan yr SNP i gynnig i'r Gaeleg ? Yr argraff a gefais i erioed oedd mai gweld yr iaith fel anachronistiaeth amherthnasol oedd yr SNP, ac yn ei gweld fel rhwystr i Alban fodern, rydd. A hon yw'r wlad mae cenedlaetholwyr Cymru'n edmygu."

Yn anffodus, dwi wedi cwrdd â nifer sylweddol o genedlaetholwyr Albanaidd sydd heb lawer o barch at ieithoedd lleiafrifol. Roedd eu dadleuon yn erbyn yr Aeleg (a'r Gymraeg!) yn atgoffa fi o agweddau'r blaid Lafur yng Nghymru tuag ein hiaith. Mae cenedlaetholdeb "sifig" yn fwy cynhwysfawr. Wrth gwrs, mae'n hawdd iawn i fod yn genedlaetholwr sifig mewn gwlad sydd heb weld mewnlifiad enfawr o Saeson...

Dylai'r Cymry ceisio efelychu'r Basgiaid a Catalwnia nid yr Alban.

Anonymous said...

Ydyd'r Basgiaid a'r Catalwniaid wedi gweld mewnlifiad anfawr i'w tiroedd?

Cai Larsen said...

Bu llawer o fewnfudo i'r ddwy wlwd oherwydd eu bod yn llwyddianus o safbwynt economaidd.

William Dolben said...

Mi dynnaf nyth cacwn yn fy mhen ond dyma fy marn am Gatalwnia a Gwlad y Basg

Er yr holl ewfforia am fudiadau annibynniaeth ar hyn o bryd, mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng Cymru, Catalwnia a bellu

Mae sefyllfa economaidd Catalwnia a Gwlad y Basg yn wahanol iawn i eiddom ni a'r Alban. Maent yn bell o Madrid ond yn agosach at borfeydd brasach Ewrop ac o ganlyniad i hynny yn fwy cefnog o lawer na ni fel y dywed Cai

Mae fel pe tai Swydd Caint a Birmingham yn siarad iaith wahanol i Saesneg ac yn ymladd am ymadael â Phrydain Fawr i dalu llai o dreth i ardaloedd tlawd ar yr ymylon (fel Cymru!!!).

Rhaid i rywun fod yn ddewr i fod yn fewnfudwr yng nghadarnle yr iaith fasgeg. Mae llosgi tai haf fatha cylch meithrin mewn festri yn ymyl y bygythiadau, trais a llofruddiaeth yn erbyn pobl ddiarth yng ngwlad y Basg. Gwaethygodd y trais yma ar ôl dyfodiad democratiaeth a hunanlywodraeth. Y camgymeriad mawr oedd penderfyniad plaid sosialaidd Sbaen (PSOE) i gychwyn rhyfel budr yn yr wythdegau i dalu'r pwyth yn ôl i'r terfyswgwyr didrugaredd.

Yn wahanol i Gymru, mae'r mewnfudwyr yn Catalwnia a GyB wedi ymgartrefu yn yr ardaloedd diwydiannol (fel y bobl a ddaeth i Gymoedd y De yn y 19 a'r 20 ganrif). Bu chwyldro Sbaen yn llawer hwyrach wrth gwrs: o'r pumdegau ymlaen. Maent yn dlotach na'r trigolion cynhenid a maent yn byw yn y rhannau o Bilbao, San Sebastian a Barcelona mwyaf amddifad (os ei di i Barcelona sbïa ar y stadau blêr rhwng y maes awyr a canol crand Barcelona). Mae'r blaid sosialaidd yn cael eu pleidleisiau a mae'r rhan fwya o genedlaetholwyr yn fotio i bleidiau asgell dde (CiU a PNV). Breuddwyd y Taffia??!!!

Rhaid dweud hefyd fod yna agendor anferth rhwng y grymoedd eang sydd gan Wlad y Basg a Chatalwnia â rhai (pitw) Cynulliad a'r Scottish Parliament. Mae Gwlad y Basg hyd yn oed yn codi trethi ei hun

Mae Basgeg yn fwy perthnasol i'r Gymraeg am ei bod yn hollol wahanol i Sbaeneg ac yn o ddyrys i ddysgwr. Mae Catalaneg yn debyg i Sbaeneg ac yn haws ei ddysgu. Fel dysgu Scots i Sais er enghraifft