Saturday, September 07, 2013

Pam bod ymyraeth y Gorllewin yn Syria yn debygol o fod yn niweidiol i bobl Syria

Mae'n weddol glir bellach y bydd America a Ffrainc yn ymosod ar Syria maes o law.  Yr hyn nad yw'n glir ydi beth yn union ydi'r  bwriad - disodli'r llywodraeth 'ta'i gosbi am wneud defnydd o nwy gwenwynig, ac felly ei gwneud yn llai tebygol y bydd nwy gwenwynig yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol.

Rwan mae'n weddol amlwg nad ydi hyn yn syniad da - os mai ymosod er mwyn atal ailadrodd y defnydd o nwy ydi'r bwriad mae'n llai nag eglur - llawer llai nag eglur - y bydd taflu ychydig o gannoedd o daflegrau Cruise i ganol y llanast yn cael yr effaith a fwriedir.  Yn wir gallai gael effaith cwbl groes i'r bwriad - gallai ymdeimlad o wendid annog yr weinyddiaeth yn Damascus i ddefnyddio WMDs eto ac eto ac eto.  Does yna ddim ffordd o ddweud.

Os mai newid y llywodraeth ydi'r bwriad, 'dydi hanes diweddar ddim yn awgrymu bod ymyraeth y Gorllewin i'r pwrpas hwnnw am helpu'r bobl sy'n byw yn y Dwyrain Canol - i'r gwrthwyneb.   Wele isod gyngor y Swyddfa Dramor i bobl sy'n bwriadu teithio i Libya, Irac ac Afghanistan.

Libya

The FCO advise against all travel to parts of the country.The FCO advise against all but essential travel to parts of the country.The FCO advise against all but essential travel to Tripoli, Zuwara, Az Zawiya, al Khums, Zlitan and Misrata, and to the coastal towns from Ras Lanuf to the Egyptian Border, with the exception of Benghazi. The FCO advise against all travel to all other parts of Libya, including Benghazi.

Afghanistan


The Foreign and Commonwealth Office (FCO) advise against all or all but essential travel to different parts of the country according to provincial region:
Kabul

The FCO advise against all travel to the Surobi, Paghman, Musayhi, Khak-e Jabbar and Chahar Asyab Districts of Kabul province.

The FCO advise against all but essential travel to the city of Kabul.
Northern Afghanistan

The FCO advise against all travel to Balkh, Kunduz, Badakhshan and the Baghlan-e Jadid District of Baghlan.

The FCO advise against all but essential travel to Takhar, Faryab, Jawzjan, Samangan, Sari Pul and the remainder of Baghlan.
Eastern Afghanistan

The FCO advise against all travel to Ghazni, Kapisa, Khost, Kunar, Laghman, Logar, Nangarhar, Nuristan, Paktika, Wardak and Paktya.

The FCO advise against all but essential travel to Bamiyan, Parwan and Panjshir .
Southern Afghanistan
The FCO advise against all travel to Helmand, Kandahar, Nimroz, Uruzgan and Zabul.
Western Afghanistan

The FCO advise against all travel to Badghis and Farah, and the Shindand and Gozarah Districts of Herat province.

The FCO advise against all but essential travel to Dai Kundi, Ghor and remaining districts in Herat.

There is a high threat from terrorism and specific methods of attack are evolving and increasing in sophistication. There is a high threat of kidnapping throughout the country.

Irac

The Foreign and Commonwealth Office (FCO) advise against all but essential travel to the whole of Iraq, except the Kurdistan region

Y gwir amdani ydi bod ymyraeth Gorllewinol pob amser yn farwol i bobl gyffredin yn y Dwyrain Canol - roedd yn farwol yn ystod dyddiau'r ymerodraeth Rufeinig roedd yn farwol yn ystod dyddiau'r  Croesgadau, roedd yn farwol yn ystod dyddiau'r ymerodraethau Ewropiaidd, roedd yn farwol yn nyddiau'r Great Game yn erbyn Rwsia, roedd yn farwol yn ystod y cyfnod ol ymerodrol, ac mae'n farwol yn y dwthwn hwn. 

Mi fyddai'n braf meddwl y byddai'r Gorllewin yn dysgu gwers o hanes a meindio eu busnes am unwaith - ond dydi hynny ddim am ddigwydd.  Y rheswm am hynny ydi nad oes dim oll y tu cefn i'r holl waredu, rhincian dannedd, moesoli a hunan gyfiawnder ag eithrio hunan les - dyna pam rydym yn ei chael mor hawdd i ymosod ar un gwlad sy'n cael ei rheoli gan weinyddiaeth cwbl ffiaidd, tra'n cefnogi gweinyddiaeth ffiaidd mewn gwlad arall.

Mae'r rhan fwyaf o wledydd y Dwyrain Canol yn cael eu cam reoli yn ddifrifol.  Mi fydd yna amser yn y dyfodol pan y bydd pethau'n well - ond does gan y Gorllewin ddim rhan i'w chwarae yn hynny.  Mae'r Gorllewin wedi profi  mewn gair a gweithred am ganrifoedd lawer nad oes ganddo unrhyw beth cadarnhaol i'w gynnig i'r rhan yma o'r Byd. 

No comments: