Tuesday, September 10, 2013

Ynglyn a'r defnydd o'r Gymraeg gan sefydliadau a busnesau

Un o'r nifer fawr o bethau sy'n dan ar groen y Mrs ydi cylch lythyrau o'r Caban - menter gymunedol ym Mrynrefail, Arfon.  Mae'n nhw'n uniaith Saesneg.  'Mae'r ffaith bod ffrind iddi wedi cynnig eu cyfieithu'n rhad ac am ddim yn ei rhoi mewn hwyliau gwaeth.   A bod yn fwy manwl cymdeithas wirfoddol sy'n defnyddio'r Caban o'r enw Occasional Cinema sy'n anfon y cylch lythyrau sy'n pechu cymaint. Rwan mae yna lawer o bethau da i ddweud am Y Caban - gwnaed defnydd da o arian Amcan 1, mae'r adnodd yn ychwanegiad gwerthfawr i'r hyn sydd ar gael yn yr ardal - ac mae'r Gymraeg yn cael lle yno.  Mae'n weladwy, trefnir digwyddiadau Cymraeg yno o bryd i'w gilydd ac mae'r wefan yn ddwyieithog.  Am fwy o wybodaeth gweler yma.  Ond mae'r syniad o fenter 'cymunedol' mewn ardal lle mai'r Gymraeg ydi'r brif iaith yn cysylltu ei hun efo cymdeithas sy'n blaenori'r  Saesneg yn trosglwyddo'r neges bod yr iaith honno yn bwysicach na'r Gymraeg.  Mae trosglwyddiad gyson o'r neges yma - yn arbennig felly mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn niweidiol iawn i'r Gymraeg.

Mae yna esiamplau gwaeth o lawer o sefydliadau a chwmniau yn is raddio'r Gymraeg mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith.   Rydym wedi trafod Morrisons, Caernarfon sawl gwaith o'r blaen.  Gweler yma er enghraifft.  I'r rhai ohonoch sy'n anghyfarwydd a'r archfarchnad yma, mae ganddi record hir iawn o gyflogi canran anhygoel o uchel o weithwyr di Gymraeg mewn tref lle mae tua 85% o'i thrigolion yn siarad y Gymraeg.  Yn wir mae llawer o'u gweithwyr di Gymraeg yn ifanc - oedran lle nad oes yna nesaf peth i neb yn lleol sydd methu a siarad y Gymraeg.

Mae'r ganran o drigolion yr Upper Falls ym Melffast sy'n Babyddion yn ddigon tebyg i'r ganran sy'n siarad y Gymraeg yng Nghaernarfon.  Petai Morrisons yn agor arch farchnad yn y parc manwerthu sydd ar frig y Falls ac yn cyflogi canran debyg o Babyddion i'r ganran o siaradwyr Cymraeg a gyflogir gan y cwmni yng Nghaernarfon, ac yn parhau i wneud hynny am gyfnod mor faith, yna byddai Prif Weithredwr a Bwrdd y cwmni wedi eu rhoi o flaen llys barn.  Dwi'n gwybod bod rhesymau da iawn am ddeddfau fel hyn yng Ngogledd Iwerddon, a fyddwn i byth eisiau gweld deddfau felly yma - ond mae'n ffaith y byddai disgrimineiddio o'r math yma yn arwain at achos llys mewn rhannau eraill o'r DU.

A thra rydym yn son am y gyfraith, waeth i ni ddweud pwt am yr heddlu.  Pan etholwyd Comisiynydd Heddlu yng Ngogledd Cymru ei brif flaenoriaeth oedd codi trethi lleol a chyflogi mwy o heddlu - er gwaethaf bod cyfraddau tor cyfraith yng Ngogledd Cymru yn syrthio fel carreg, nad oes yna fewath o dystiolaeth bod mwy o heddlu yn arwain at lai o dor cyfraith a bod pawb bron  yn y Gogledd o dan wasgfa ariannol beth bynnag. Blaenoriaeth well a rhatach - ag ystyried mai Cymry Cymraeg yn bennaf  a'i etholodd - fyddai cyflwyno ychydig o gynllunio ieithyddol wrth leoli heddweision.  'Dydi hi ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl bod rhai o bentrefi Cymreiciaf y wlad yn cael eu plismona gan bobl fyddai ddim yn deall gair petaent yn clywed rhywun neu'i gilydd yn cynllwynio i lofruddio holl drigolion cartref i'r henoed.  Dydi hi ddim yn gwneud synnwyr chwaith bod plismyn sy'n arbenigo mewn holi plant yn ddi Gymraeg yn amlach na pheidio - hyd yn oed mewn ardaloedd Cymraeg iawn o ran iaith.  Ni fyddai cael trefn ar hyn oll yn gorfod costio ffadan goch i'r trethdalwr.

Rwan does dim disgwyl i rai o'r sefydliadau 'ma ddilyn polisi o gyflogi siaradwyr Cymraeg yn unig.  Ond mae'n rhesymol disgwyl iddynt ddarparu mewn ffordd sy'n addas i natur ieithyddol yr ardaloedd maent yn eu gwasanaethu.  Mae hyn yn haws i fusnesau a sefydliadau mawr nag ydi hi i rai llai.  Mae ganddynt fwy o sgop i fod yn hyblyg a lleoli pobl sydd efo sgiliau ieithyddol addas i'r ardaloedd maent yn gweithio ynddynt.

Dwi ddim yn awgrymu am funud na ddylid cyflogi pobl ddi Gymraeg mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith.  Mae rhai swyddi lle mae'n rhaid wrth y Gymraeg, mae rhai lle gall pobl sydd ddim yn rhugl eu Cymraeg feistrioli digon i wneud eu gwaith, ac mae swyddi lle nad oes angen y Gymraeg.  Ond mae'n bwysig i'r Gymraeg mewn ardaloedd Cymraeg bod canfyddiad cyffredinol mai hi ydi'r iaith bwysicaf yno.  Mae'n rhesymol disgwyl bod hynny'n digwydd yn ddi ofyn yn achos sefydliadau sy'n derbyn nawdd cyhoeddus.  Mae busnesau preifat yn fater gwahanol.  Os ydi busnesau fel Morrisons,, Asda ac ati'n is raddio'r Gymraeg yn ei chadarnleoedd, peidio a siopa yno a'i gwneud yn gwbl glir i'r busnesau hynny pam ydi'r ffordd orau i gael y maen i'r wal.



2 comments:

Anonymous said...

Gwaethygodd sefyllfa y Caban ar ôl newid rheolwr. Rheolwr di-Gymraeg a ddewiswyd gan Ymddiriedolwyr y Caban. A phenderfyniad ef, tybiwn i, oedd i gyflogi gweinyddwyr di-Gymraeg. Anodd credu nad oedd pobl leol Cymraeg eu hiaith â'r sgiliau i weinyddu pobl yn gwrtais wrth fyrddau'r caffi. Roedd y gweinyddwyr Cymraeg eu hiaith ddim yn or-hapus â'r sefyllfa chwaith.
Roeddwn i'n arfer gweithio mewn uned yn y Caban.

Neilyn said...

Yr ateb yw cyflogi'r dwyieithog yn unig lle mae ymwneud a'r cyhoedd yn uniongyrchol yn y cwestiwn...nid siaradwyr uniaith Cymraeg, ac nid siaradwyr uniaith Saesneg...dim ond y rhai all siarad y ddwy iaith...ac felly a'r gallu i ddiwallu anghenion ieithyddol Y Cymry a'r Saeson fel ei gilydd. Syml.