Saturday, September 21, 2013

Caernarfon 'ta Caerfyrddin?

Mae'r newyddion bod S4C yn ystyried symud i Wynedd neu Gaerfyrddin  yn hynod ddiddorol - os nad anisgwyl. Mi fydd gan S4C nifer o ystyriaethau wrth benderfynu os i adleoli, a lle i adleoli, ac un ystyriaeth yn unig fydd yr un ieithyddol.  (Byddai rhywun yn meddwl gyda llaw mai yn nhref Caerfyrddin neu yng Nghaernarfon y bydd y sefydliad yn cael ei leoli - am resymau ymarferol).

Ond - ag ystyried yr hyn ydi S4C - dylai'r ystyriaeth ieithyddol fod ar ben y rhestr.  O safbwynt cynllunio ieithyddol mae'n llawer mwy synhwyrol i leoli yng Nghaernarfon nag ydi hi yn nhref Caerfyrddin.  Dyma pam.

Mae'r iaith Gymraeg yn parhau i fod yn iaith hyfyw yng Nghaernarfon.  Go brin bod yna unrhyw dref arall lle mae'r Gymraeg yn tra arglwyddiaethu tros y Saesneg ar lefel gymunedol i'r graddau mae hynny yn digwydd yng Nghaernarfon.  Rwan mae hynny yn cael ei yrru gan nifer o ffactorau - patrymau mudo mewnol Gwynedd, agweddau diwylliannol ehangach, diflaniad dosbarth canol Seisnig oedd yn bodoli yn y dref ers talwm er enghraifft.  Ond mae hefyd yn ganlyniad i gynllunio ieithyddol.  Mae'r cyngor sir yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg, mae'r system addysg yn y dref yn arf hynod effeithiol i gynnal y Gymraeg, dydi'r dref ddim wedi ei boddi gan stadau tai di angen fel sydd wedi digwydd yr ochr arall i'r Fenai.

Mae'r gwrthwyneb yn wir am Sir Gaerfyrddin.  Mae yna ffactorau na all neb wneud llawer amdanynt yn milwrio'n erbyn yr iaith yn yr ardal honno, ond 'dydi'r cyngor sir lleol ddim wedi gwneud llawer i fynd i'r afael a'r sefyllfa.  Mae gweinyddiaeth y cyngor yn Saesneg, mae'r polisiau cynllunio wedi bod yn niweidiol i'r iaith ac mae'r system addysg yn cynhyrchu llawer iawn o bobl sy'n gyfangwbl ddi Gymraeg.  Mae'r sefyllfa yn nhref Caerfyrddin gyda'r gwaethaf yn y sir.

Dydi ad leoli S4C ddim am gael effaith traws newidiol ar yr iaith yn unman - ond mae'n siwr o fod o gymorth o ran cyflenwi swyddi i siaradwyr Cymraeg a chodi statws yr iaith yn lleol.  Ond mae yna lefydd lle mae'r llif yn erbyn yr iaith mor gryf fel y byddai unrhyw effaith cadarnhaol yn cael ei foddi.  Mae tref Caerfyrddin ymysg y llefydd hynny.



Y broblem efo tref Caerfyrddin ydi bod y Gymraeg yn marw yno.  Does dim yn dangos y gwahaniaeth rhwng y rhagolygon ar gyfer yr iaith yn y ddwy dref yn well na'r phroffeil oedran y siaradwyr Cymraeg.  Ceir pump uned gyfri sylfaenol yng Nghaernarfon - mae'r proffeil oedran fel a ganlyn (% pobl 65+ gyntaf, canran plant 3-16 wedyn)  - 78.7%\93.2%, 79.7%\96.6%, 85.4%\93%, 83.8%\95.4%, 83.3%\93%.  Y ffigyrau cyfatebol ar gyfer Caerfyrddin ydi - 41.2%\31%, 42.7%\38%, 51.1%\42.1%, 46.9%\37.4%, 46.5%\42.9%, 53.3%\43.6%, 60.1%\42.8%.  Mae ffigyrau tref Caerfyrddin ymysg y rhai mwyaf negyddol yng Nghymru o ran dyfodol yr iaith yn lleol.  Mae ffigyrau'r ardaloedd gwledig cyfagos yn llawer gwell gyda llaw.  Gallai lleoli S4C yng Nghaernarfon fod yn un piler ymysg nifer sydd eisoes yn bodoli i gefnogi'r iaith, does yna ddim byd am wneud gwahaniaeth yn wyneb llif demofraffig tref Caerfyrddin - yn y tymor canolig o leiaf..

Gellid wrth gwrs leoli yn rhywle arall yn Sir Gaerfyrddin, yn hytrach nag yn y dref ei hun.  Mae'r sefyllfa yn well mewn rhannau o'r sir - ond mae'r un problemau sylfaenol yn wynebu gweddill y sir na sy'n wynebu'r dref i wahanol raddau - cyngor lleol di hid, proffeil demograffig anffafriol, patrymau trosglwyddiad iaith gwael a system addysg sydd ddim yn cynhyrchu llawer o siaradwyr Cymraeg.  Piso dryw yn y mor fyddai effaith ieithyddol lleoli'r sianel yno yn wyneb y problemau yma.

Yn bersonol gallaf weld manteision  symud y sianel  i rhywle yng Ngwynedd lle mae yna fwy o bwysau ar yr iaith na sydd yng Nghaernarfon - Dolgellau neu Borthmadog er enghraifft.  Gallai'r effaith ieithyddol fod yn sylweddol mewn llefydd felly.  Ond  yn ol pob tebyg Caerdydd, Caernarfon neu Caerfyrddin ydi'r tri phosibilrwydd.  O safbwynt cynllunio ieithyddol dylai'r sianel gael ei lleoli yng Nghaernarfon - tref Caerfyrddin ydi un o'r llefydd diwethaf yng Nghymru y dylai fynd o'r safbwynt hwnnw.

Mantais arall i leoli'r sioe yng Nghaernarfon ydi'r oriau o hwyl di niwed y byddai dyn yn ei gael yn edrych ar y sioc ddiwylliannol pan fyddai rhai o staff S4C yn dod wyneb yn wyneb a'u cynulleidfa am y tro cyntaf yn eu bywydau.


11 comments:

Wilias said...

Gwynedd: ia, cytuno'n llwyr. Cnarfon? Na! Mae swyddi ar gael yn fanno eisoes, oherwydd canoli gwasanaethau dros y degawdau dwytha, a datblygu diweddar ar lan y Fenai. Tasa gen i bleidlais, Blaenau Ffestiniog fyddai'n mynd a hi. Cymreictod naturiol y dre llawn cystal a Chaernarfon, ond ein Cyngor Sir a'r Bwrdd Iechyd wedi cau gwasanaethau di-ri dros y blynyddoedd, ac angen dybryd am waith i'w chadw hi felly.

Cai Larsen said...

Dwi ddim yn meddwl yr aiff i Stiniog - ond fyddai gen i ddim gwrthwynebiad o gwbl i hynny.

Anonymous said...

aberystwyth ydi'r lle amlwg i'r pencadlys, ynghanol cymru ac yn fuddiol i'r iaith ayyb. Mynd i'r gogledd yn gamgymeriad mawr - genud i S4C edrych fel sianel getto

Ifan Morgan Jones said...

Rydw i wedi ymateb i'r blog yma fan hyn - http://ifanmj.blogspot.co.uk/2013/09/s4caerfyrddin.html?showComment=1379795869872#c7149095198911675676

Rwy'n credu bod dadleuon cryf dros leoli S4C yng Nghaernarfon - hanes y wasg yno, pellter daearyddol o Gaerdydd, creu swyddi, ayyb ayyb - ond dyw cryfder ieithyddol yr ardal ddim yn un ohonyn nhw.

Anonymous said...

Pwllheli neu Porthmadog

Anonymous said...

LLANBERIS--digoned o le yng Nghlynrhonwy!

Anonymous said...

Rhaid i misus chdi llnau ffnestri os ydi cyfryngis yn dwad i dre - he he.

Hogyn o Rachub said...

Mae un ffactor arall wrth gwrs, sef pellter daearyddol. Yn syml, mae Caerfyrddin awr, awr a hanner ar y mwyaf, o Gaerdydd - os byddai swyddi'n symud i Gaerfyrddin y cyfan fyddai'n digwydd ydi y byddai gweithwyr S4C sy'n byw yng Nghaerdydd yn cymudo. Dydi hi ddim yn ddigon pell i orfod symud cartref, felly prin y byddai'n atgyfnerthu'r iaith yno, os o gwbl.

Ioan said...

Cai:

(% plant 3-16 yn gyntaf, canran pobl 65+ wedyn)

ffordd arall ia? i.e. canran uchel o blant yng Nghaernarfon.

William Dolben said...

od caf fotio:

Rhuthun amdani

Tre sydd wedi cymreigio dipyn dros y blynyddoedd a sydd yn sefyll yn llythrennol yn (ymyl) y bwlch

a lle digon smwsh i'r Cyfryngis hefyd

Cai Larsen said...

Ti'n iawn Ioan - wedi ei gywiro.