Friday, September 27, 2013

Gwasanaeth newyddion 'cenedlaethol' mwyaf idiotaidd y Byd?

He, he - ymddengys bod WalesOnline o'r farn mai gwrthryfelwyr Cymreig (rebels) oedd y sawl a losgodd Castell Ystum Llwynarth ger Abertawe ddwywaith, er i'r dywydedig losgi ddigwydd cyn i Gymru gael ei goresgyn.  Fodd bynnag - yn ol WalesOnline - yn dilyn y digwyddiadau anffodus yma aeth yr arglwyddi Normanaidd ati  i droi'r lle yn rhyw fath o Gamelot.

Mae'n anodd meddwl am unrhyw beth sy'n amlinellu dealltwriaeth ryfeddol ein 'gwasanaeth newyddion cenedlaethol' o le Cymru yn y Byd yn well na'r idiotrwydd trist yma.  Mae Cymru'n wlad israddol i Loegr, dyna'r stad naturiol a felly y bu pethau ers dyddiau Gardd Eden.

2 comments:

Anonymous said...

Ni yw fy hanes i cystal ag hynny ond credaf taw William de Londres oedd yn oresgynnwr tra amddiffynwyr yn hytrach na rebeliaid oedd y Cymry. Ai dyna wyt yn ei ddweud? 'Trechwyd' y Cymry bron i ddau gan mlynedd yn hwyrach?

Cai Larsen said...

Ia.