Saturday, April 06, 2013

Sut wnaeth stori fach droi'n stori fwy

(Ymddiheuriadau am wallau yn yr isod - wedi ei sgwennu ar ipad, tros frecwast mewn gwesty).

Blog gwleidyddol ydi Blogmenai, ac anaml iawn y bydd yn ymdrin ag unrhyw fater personol - ond gan bod llawer o ddarllenwyr y blog yn debygol o fod wedi darllen am hynt a helynt y blogiwr a'i wraig mewn lifft yn Luton yn y wasg Saesneg mi wnawn ni eithriad.  Mae'r ffordd y cyrhaeddodd y stori'r gwahanol bapurau yn ddiddorol o safbwynt sut mae'r wasg yn gweithio.

Yn ei hanfod mae'r stori yn syml iawn.  Roedd y Mrs a minnau mewn lifft am tua 4 o'r gloch y bore yng ngwesty Ibis pan aeth y lifft yn sownd rhwng un llawr a'r llall.  Roedd cwpl arall yn y lifft ar yr un pryd.  Roeddem ni yn dal awyren i Istanbul am chwech tra eu bod nhw yn cychwyn i Marakesh
hanner awr yn hwyrach.  Er canu'r gloch am sbel ni chafwyd ymateb.  Wedi cysylltu a'r gwesty ar y ffon cafwyd sicrwydd ddwy neu dair gwaith eu bod yn delio efo'r broblem, ond yn y diwedd bu'n rhaid ffonio'r injan dan o'r lifft.  Daeth y rheiny yn weddol gyflym a'n rhyddhau ni.  Roedd yn rhy hwyr i ni ddal yr awyren, ond llwyddodd y cwpl arall i ddal eu un nhw. Roedd tua awr a hanner rhwng yr amser aethom i mewn i'r lifft a'r amser y daethom allan.   Dywedwyd wrthym gan y staff yn y gwesty ar y pryd ein bod ond wedi bod yn y lifft am hanner awr (er eu bod wedi logio yr amser y caethant yr alwad gyntaf a phan ddaeth yr injan dan), y dylem fod wedi cychwyn ynghynt ac mai 'gweithred naturiol' oedd yr hyn ddigwyddodd i'r lifft.  Cefais alwad ffon gan y rheolwr ddeuddydd yn ddiweddarach yn ymddiheuro, yn derbyn cyfrifoldeb ac yn gofyn am fanylion y daith arfaethiedig er mwyn ein digolledu.  Rydym wrthi'n trafod y manylion hynny ar hyn o bryd.

Yr hyn sy'n ddiddorol ydi sut y daeth stori fach am anffawd personol i'r rhan fwyaf o brif bapurau dyddiol Lloegr.  Dwi'n siwr bod Ibis yn meddwl bod ymgyrch fwriadol wedi ei chynnal yn eu herbyn trwy gyfrwng y wasg - nid dyna ddigwyddodd o gwbl.  Ar Justin mae'r bai.

Newyddiadurwr ifanc iawn sy'n gweithio i Radio Three Counties ydi Justin.  Roedd yn digwydd bod yng ngwesty Ibis ban gyrhaeddom yn ol o'r maes awyr i gwyno ac i chwilio am frecwast.  Roedd yn holi pobl am eu barn ynglyn a'r cwestiwn llosg os y dylid codi ar bobl yn ol eu pwysau am fynd ar awerynnau.  Am rhyw reswm cytunodd y wraig i wneud y cyfweliad.  Wedi gorffen dymunodd Justin yn dda i ni ar ein taith, a dywedodd y Mrs nad oedd taith ac egluro pam.  Dechreuodd Justin grwydro i ffwrdd cyn mynd ati i ail feddwl.  Rhoddodd gyfweliad i'r wraig ynglyn a'r digwyddiad a darlledwyd hwnnw ar Radio Three Counties.  Aeth y stori yn fater o drafod brwd ar Radio Three Counties a chafod y Mrs ddau gyfweliad arall tros y dyddiau nesaf i adael i wrandawyr yr orsaf wybod sut oedd pethau yn mynd.  Yn y cyfamser ymddangosodd y stori ar dudalen flaen Luton Today.

Un o Gaerdydd ydi'r wraig ac aethom yno i weld ei mam - ac i aros am ddiwrnod neu ddau.  Cawsom alwad yn weddol ddiymdroi gan Radio Wales yn gofyn i ni fynd i Landaf am gyfweliad ar raglen Mai Davies (dwi'n meddwl).  Wrth aros i fynd i'r stiwdio soniais wrth y cynhyrchydd a'r ymchwilydd bod effeithlionrwydd y Bib i'w ganmol - un gorsaf ranbarthol yn gadael i un arall wybod am stori allai fod o ddiddordeb iddynt a ballu.  Roedd y ddau yn ystyried y sylw yn un hynod ddigri.  Roedd Justin yn perthyn i'r ymchwilydd yng Nghaerdydd, ac roedd wedi cael y wybodaeth am y rheswm hwnnw.  Yr hen ffordd Gymraeg o wneud pethau.

Fel roeddym yn gadael y stiwdio ymddangosodd rhywun o BBC on Line o rhywle efo'i thap recordio a chamera.  Wedi gwneud ei chyfweliad a thynnu ei lluniau gwawriodd arni y gallai BBC Cymru fod a diddordeb - ac anfonwyd rhywun o'r fan honno i wneud cyfweliad efo ni yn y cyntedd.

O fewn ychydig oriau roedd rhywun o'r enw Tom o asiantaeth newyddion Wales News Service y ffon yn gwneud cyfweliad, anfonwyd tynnwr lluniau ( doedd ein lluniau ni ddim digon da) a thynnwyd (yn llythrennol) rai cannoedd o luniau ohonom - tua'u hanner yn neu wrth lifft Canolfan Gelfyddydol Chapter yn Nhreganna.  Mae'n debyg gen i bod Wales News wedi mynd ati i werthu'r stori i unrhyw un oedd eisiau ei phrynu a dyna sut y gwnaeth ei ffordd i'r rhan fwyaf o'r papurau newydd - er bod y
Mirror wedi dod ar draws y stori cyn Wales News. Service.  Mae'n debyg gen i bod ein anffawd ni wedi bod yn ddigon proffidiol i Wales News.  Felly daeth stori oedd yn y bon yn un gweddol fach yn rhywbeth mwy o lawer.

O edrych yn ol mae nifer o bethau yn fy nharo - fel rhywun sydd ddim wedi cael llawer o ddim byd i'w wneud efo'r cyfryngau yn gyffredinol a'r wasg yn benodol yn y gorffennol.  Er enghraifft yn fy ngwaith beunyddiol i rydym braidd yn niwrotig am ddatgelu manylion a rhifau ffon rydym yn eu dal rhag tramgwyddo ar gyfreithiau amddiffyn data,  Dydi'r cyfryngau ddim yn rhannu gofidiau fel hyn - mae gwybodaeth yn cael ei rannu fel mater o gwrs rhwng cydnabod a chydnabod.
Dydi'r rhan fwyaf o'r cyfryngau print ddim yn poeni rhyw lawer am gael eu manylion yn gywir - roedd llawer o fanylion yn ein stori bach ni yn anghywir. Er enghraifft dydi mam fy ngwraig yn byw yn y Bari - ond roedd Lyn wedi gwneud sylw ysgafn wrth rhywun neu'i gilydd efallai y byddai'n mynd i Ynys y Bari am y diwrnod. Roedd y syniad o rhywun yn treulio pethefnos yn y Bari yn hytrach nag Antalya yn gwella'r stori - a gwella'r stori oedd y flaenoriaeth pob tro. Mae'r wasg yn hoff iawn o emosiynau eithafol - 'gutted', 'horrified' ac ati. Dwi ddim yn siwr o ble daeth hynny i gyd. Ond y peth mwyaf diddorol o bosibl ydi i'r stori fagu cymaint o draed. Pe na byddai Justin yn y gwesty ar y pryd go brin y byddai'r holl beth heb fynd at y cyfryngau - fyddwn i heb fynd a hi yno'n sicr. Cael a chael oedd hi iddo wneud ei gyfweliad a ffliwc oedd hi i'r stori ddod yn ol efo nii Gymru - er ei bod wedi ffeindio ei ffordd i'r Mirror erbyn hynny. Dwi'n siwr ei bod yn syndod i News Wales iddynt gael cymaint o lwyddiant yn ei gwerthu. Ac eto mae hi'n stori dda - mae yna rhywbeth yn ddigri am anffawd rhyfedd i eraill - cyn belled nad oes neb yn brifo na mynd yn sal. Roedd yn gyfnod gwyliau efo llawer o bobl yn mynd i ffwrdd eu hunain (ac yn meddwl 'Diolch byth na ddigwyddodd hynna i fi') ac roedd prinder pethau efo mwy o sylwedd yn y newyddion

3 comments:

Anonymous said...

... ac onid oedd ymddangos yn y Mail yn goron ar y cyfan?

Cai Larsen said...

Wel, dwi wedi bod yn rhyw led boeni am hir y byddwn yn ymddangos yn y Mail. Doeddwn i ddim yn meddwl mai fel hyn y byddwn i'n landio yno.

Anonymous said...

Methu dallt yr holl ffys. Rydych yn ffodus iawn yn medru fforddio gwyliau yn y lle cyntaf......yn ail, defnyddiwch y grisiau nid y lifft (diogi) ac yn olaf - nid oes angen i chi boeni am fedru mynd eto yn handi ar wyliau wedi'r cyfan mae gennych ddigonnedd o wyliau ysgol i edrych ymlaen atynt......