Tuesday, April 16, 2013

Mae yna etholiad ddydd Iau _ _ _

Mae eleni yn anarferol i'r graddau nad oes yna etholiadau i'r rhan fwyaf ohonom.  Mae yna ambell i eithriad wrth gwrs - bydd holl drigolion Ynys Mon yn cael pleidleisio ar Fai 2 o ganlyniad i antics rhyfedd cynghorwyr (annibynnol yn bennaf) yr ynys tros y ddau dymor diwethaf.  Bydd trigolion Dwyrain Risca yn cael pleidleisio ar yr un diwrnod yn sgil marwolaeth cynghorydd Llafur.

Daw cyfle trigolion ward Peblig yng Nghaernarfon ynghynt - y dydd Iau yma i fod yn fanwl gywir.  I'r rhai yn eich plith sydd ddim yn gyfarwydd a thre'r Cofi, ward wedi ei chanoli ar stad dai enwog 'Sgubor Goch ydi Peblig.  Mae yna ddwy sedd wag ar gyngor tref Caernarfon yn dilyn ymddiswyddiadau.  Mae gan y Blaid ymgeiswyr ar gyfer y ddwy sedd sef Glyn Thomas a Brenda Owen.

Mae amgylchiadau etholiadau Ynys Mon yn tynnu sylw at yr anhrefn sy'n gallu digwydd os ydi annibynwyr yn cael gormod o ddylanwad ar gyngor.  Plaid Cymru ydi'r unig blaid sydd yn sefyll - mae gan drigolion Peblig gyfle i gryfhau rheolaeth y Blaid ar gyngor y dref a felly sicrhau cyfeiriad gwleidyddol pendant i waith y cyngor.  Bydd etholwyr Mon yn cael eu cyfle nhw i ddatgan barn am lanast y blynyddoedd diwethaf mewn pethefnos - yr un diwrnod ag y bydd pobl Risca yn cael y cyfle i ddatgan barn ar y sioe gyfrinachgar, unbeniaethol sydd bellach yn rhedeg Cyngor Caerffili.  

3 comments:

Dylan said...

Beth oedd amgylchiadau'r ddau ymddiswyddiad ym Mheblig?

Cai Larsen said...

Dim byd diddorol mae gen i ofn. Dau gynghorwydd ddim eisiau bod wrthi am bedair blynedd arall.

Dylan said...

Fawr o bwynt iddyn nhw sefyll y llynedd felly!