Tuesday, April 02, 2013

Faint o niwed allai UKIP ei wneud i'r Toriaid

Un o fy hoff wefannau gwleidyddol i ydi politicalbetting.com.  Peidiwch a cham ddeall - os ydych  eisiau gwybodaeth am wleidyddiaeth Cymru (a Gogledd Iwerddon o ran hynny) nid dyma'r lle i ddod - mae'n eithaf anobeithiol.  Mi gewch chi fwy o wybodaeth am wleidyddiaeth yr Alban - ond mae'r wefan ar ei gorau yn ymdrin a gwleidyddiaeth Lloegr (neu Prydain gyfan efallai).  Yn ystod y dyddiau diwethaf maent wedi bod yn tynnu sylw at y tebygrwydd rhwng amgylchiadau etholiadol yr wyth degau cynnar a rwan.

Y ddau beth hynod am etholiad 1983 oedd i'r Toriaid lwyddo i gynyddu eu mwyafrif mewn seddau yn sylweddol er i'w pleidlais syrthio ac i'r gynghrair Rhyddfrydwyr / SDP lwyddo i ennill bron iawn cymaint o bleidleisiau a Llafur tra'n cael ffracsiwn o'u seddau.

Y canlyniad o ran prif bleidiau'r DU oedd (o'i gopio i Wikipedia) oedd:

United Kingdom General Election 1983
CandidatesVotes
PartyStandingElectedGainedUnseatedNet % of total %No.Net %
Conservative6333974710+ 3761.142.413,012,316- 1.5
Labour633209455- 5132.227.68,456,934- 9.3
SDP–Liberal Alliance63323140+ 143.525.47,780,949+ 11.6
SNP7220000.31.1331,975- 0.5
Ulster Unionist161131+ 21.70.8259,9520.0
Democratic Unionist14321+ 10.50.5152,749+ 0.3
SDLP17101- 10.20.4137,0120.0
Plaid Cymru3820000.30.4125,3090.0
Sinn Féin1411100.20.3102,701N/A

Canlyniad yr etholiad blaenorol yn 1979 oedd:

UK General Election 1979
PartySeatsGainsLossesNet gain/lossSeats %Votes %Votes+/−
Conservative359+205544.913,703,429
Labour261-84037.711,512,877
Liberal9-2114.24,324,936
SNP2001.6497,128
Plaid Cymru2000.4135,241
Others17+533.41,063,263

[edit]



Beth sydd wedi digwydd mewn gwirionedd ydi i'r bleidlais 'Chwith' hollti gyda thair miliwn o bleidleiswyr Llafur ynghyd a rhai cannoedd o filoedd o rhai Toriaidd yn troi at y gynghrair newydd.  Canlyniad i'r system etholiadol ryfedd sydd gennym yn y DU ydi dpsbarthiad anarferol y seddi.

Daw hyn a ni at Etholiad Cyffredinol 2015.  Does yna ddim posiblirwydd o hollt ar y Chwith erbyn hynny, ond mae yna hollt ar y Dde eisoes yn bodoli.  UKIP ydi wyneb pleidiol yr hollt hwnnw.   Mae'r blaid adain Dde eithafol yn gwneud yn well nag erioed o'r blaen yn y polau, daethant yn ail yn is etholiad Eastleigh, mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu y byddant yn ail adrodd y gamp yn South Shields ac mae yna bosibilrwydd gwirioneddol y gallant ddod ar y brig yn etholiadau Ewrop 2014.  Yn wir ar un ystyr gallwn ddadlau bod y bleidlais adain Dde ym Mhrydain yn cael ei hollti dair ffordd yn y DU ar hyn o bryd.  Mae cefnogwyr adain Chwith y Lib Dems wedi mynd 'adref' at Lafur gan adael y Lib Dems, y Toriaid ac UKIP yn brwydro am y bleidlais adain Dde.  

Dydi hyn oll ddim yn golygu y bydd UKIP yn gwneud i'r bleidlais Doriaidd yr hyn a wnaeth y Gynghrair Ryddfrydol / Lib Dem i'r un Llafur yn 1983.  Dydi'r Toriaid ddim yn yr un llanast a Llafur yr 80au cynnar, does 'na ddim cymaint o wynt cyfryngol y tu ol i UKIP nag oedd y tu ol i griw David Owen a David Steel, gwan iawn ydi trefniant UKIP ar lawr gwlad a bydd canfyddiad mai dewis rhwng Llafur a'r Tori sy'n dal y sedd ydi hi yn gwneud i bobl fyddai'n hoffi cefnogi UKIP beidio a gwneud hynny mewn llawer o etholaethau.  Yn wir mae'n ddigon tebygol na fydd UKIP yn ennill cymaint ag un sedd yn 2015.  Ond gallant wneud niwed sylweddol i'r Toriaid beth bynnag - yn arbennig o gofio bod y gyfundrefn etholiadol sydd gennym ar hyn o bryd yn ffafriol iawn i Lafur beth bynnag.  

Os nad ydi'r Toriaid yn dod o hyd i ffordd o ddelio efo UKIP gallai eu cyfanswm seddi fod yn llawer is na mae neb - gan gynnwys y marchnadoedd betio yn ei gredu.  


5 comments:

BoiCymraeg said...

Pe bai hynny'n digwydd mi fetai i y byddai'r Toriaid yn edifarhau peidio a gweithredu AV / sytem cyfrannol o ryw fath.

Cai Larsen said...

Ia, mi fyddai AV wedi lliniaru ar y broblem yn sylweddol - byddai'r pleidleisiau UKIP wedi dychwelyd atynt.

Anonymous said...

Digon o wahaniaeth i golli pob sedd ac eithrio un yn yng Nghymru, efallai? Gallai UKIP yn sicr golli seddi Dafi Jones a Dafi Davies i'r naill a'r llall. 'A nation mourns', fel ddudod Private Eye 'stalwm.

Yr unig amheuaeth sydd gennyf ydi Trefaldwyn. Y ffactor bwysig fan'na fydd yr Ymgeisydd DeRhydd...

Anonymous said...

Wyt ti wedi gweld enwebiadau Mon. Mae nifer yr ymgeiswyr yn sylweddol ?

Cai Larsen said...

Do - mi soniaf am yr etholiadau hynny mewn ychydig ddiwrnodiau.