Dwi'n tueddu i fod yn fwy optimistaidd na llawer o fy nghydnabod ynglyn a'r Gymraeg. Y rheswm am hynny o bosibl ydi'r ffaith fy mod yn byw ac yn gweithio yng Ngogledd Gwynedd, lle mae'r Gymraeg yn gwneud yn eithaf da, ac yn treulio cryn dipyn o amser yn Nhreganna, Caerdydd - lle mae'r Gymraeg eto yn gwneud yn dda. Felly mae fy nghanfyddiad wedi ei lywio gan brofiad gweddol gadarnhaol. Dwi'n gwybod nad ydi pawb mor ffodus a fi yn hyn o beth, a bod profiad llawer o bobl eraill yn fwy negyddol o lawer.
Ta waeth, dwi'n bwriadu cymryd cip ar rhai o ardaloedd Cymru tros yr ychydig wythnosau nesaf. Dwi am ddechrau ym mhle mae pethau orau - a lle dwi'n digwydd byw - ardal Caernarfon. Mae'r ganran gyntaf yn cyfeirio at 2001 pob tro, tra bod yr ail yn cyfeirio at 2011.
Caernarfon:
Seiont 1 - 83.8% / 80.6%
Seiont 2 - 90% / 90%
Peblig - 87.1% / 87.3%
Cadnant - 86.3% / 86.2%
Menai - 83.6% / 83.9%
Un ardal sy'n dangos cwymp, tra bod y gweddill yn weddol sefydlog. Mae rhan Ogleddol Seiont yn ward ryfedd i'r graddau ei bod yn cwmpasu ardaloedd gwledig y tu allan i Gaernarfon yn ogystal a chanol y dref. Mae'n bosibl y gellir priodoli'r cwymp o dros i 3% yn rhannol i fewnfudo gan bobl o'r tu allan i'r DU i ganol y dref. Mae yna nifer o deuluoedd o Ddwyrain Ewrop yn byw yn yr ardal y tu ol i'r post ar y Maes. Mae yna hefyd nifer o fflatiau uwch ben siopau yn y canol, ac mae poblogaeth symudol yn tueddu i fyw yn y rheiny.
Oni bai am yr ardal yma, mae'r Gymraeg wedi dal ei thir yng Nghaernarfon - yn wir ychydig iawn o symud a fu. Mae'r ddwy ward sydd wedi eu canoli ar stadau tai cymunedol mawr - Cadnant (Maesincla) a Peblig (Sgubor Goch) yn parhau i fod ymysg y cymdogaethau Cymreiciaf yng Nghymru, y rhan o Seiont o gwmpas hen Ysgol yr Hendre (cymysgedd o stadau tai preifat a chymunedol) ydi'r unig ardal gyfrifo sy'n cyffwrdd 90%, ac mae Menai (sydd ag eithrio ardal Twthill) yn gefnog iawn, hithau yn mwy na dal ei thir. Mae'r Gymraeg wedi colli tir yn y rhan fwyaf o'r Gymru Gymraeg am ddegawdau, ond prin bod y ffigyrau wedi symud yng Nghaernarfon tros y cyfnod hwnnw.
Orbit Caernarfon:
Y Bontnewydd - 84.8%/ 82.6%
Y Waunfawr - 73.5% / 75.8%
Cwmyglo - 74% / 73.1%
Llanrug - 86.3% / 87.8%
Bethel - 88.1% / 87.3%
Y Felinheli - 71.8% / 64.3%
Llanwnda - 82.5% / 81.6%
Llandwrog - 80.6% / 81.3%
Ar wahan i gymunedau'r Felinheli, Y Waunfawr a'r Bontnewydd mae'r patrwm yn debyg i'r graddau mai ychydig o newid a fu. Mae Waunfawr yn drawiadol oherwydd i'r ganran godi yn ol uwchben 75%, ac mae'r Felinheli yn drawiadol oherwydd y cwymp sylweddol.
Mae'r Felin yn bwysig o ran y Gymraeg i'r graddau ei bod yn sefyll rhwng Bangor Seisnig a Chaernarfon Gymreig. Fel y gymuned Gymreig arfordirol mwyaf Dwyreiniol mae ar un olwg ar reng flaen y frwydr i gynnal yr iaith. Mae'n bosibl mai adlewyrchu'r gwymp sylweddol ym Mangor mae'r hyn ddigwyddodd yn y Felin. Mae hefyd yn bosibl mai twf y Brifysgol sydd y tu ol i rhywfaint o hynny. Ceir llawer iawn o fyfyrwyr mewn wardiau megis Hirael, ac mae rhai yn byw yn y Felinheli hefyd - yn arbennig felly yn ardal y marina.
Rwan rydym wedi edrych ar yr ardal lle mae'r Gymraeg ar ei chryfaf - a dydi pob man o bell ffordd ddim yn gwneud cystal. Yn wir byddwn yn edrych ar ardaloedd cyfagos sydd o dan fwy o bwysau maes o law. Ond mae'r ffaith bod y Gymraeg yn gwneud cystal yma y dangos ei bod yn bosibl i'r iaith ffynnu fel iaith gymunedol - hyd yn oed yn y Byd sydd ohoni.