Wednesday, October 10, 2012

Y neges o bol ITV

Mae'n galonogol nodi canfyddiadau pol piniwn diwedday ITV.

Yn ol y pol mae llawer mwy o bobl Cymru o'r farn y dylai'r rhan fwyaf o rym tros fywyd Cymru fod yn y Cynulliad yn hytrach na San Steffan.  Mewn ateb i gwestion oedd yn holi ym mhle y dylai'r mwyaf o rym fod roedd y canlyniadau fel a ganlyn:


  • Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad 57%
  • Llywodraeth y DU 22%
  • Cynghorau 6%
  • Undebau Llafur 1%
  • Busnesau mawr 1%
  • Y lluoedd arfof 1%
  • Yr Undeb Ewropeaidd 0%
  • Crefyddau 0%
  • Eraill 3%
  • Ddim yn gwybod  10%
  • Plaid Cymru mae'n debyg gen i ydi'r unig blaid sydd yn gwbl ddi amwys yn cytuno efo'r farn gyhoeddus ar y mater cyfansoddiadol yma.  - mae'r Blaid yn nes at y farn gyhoeddus na'r un blaid arall.  Mae lleoli plaid wleidyddol mor agos a phosibl at leoliad gwleidyddol y rhan fwyaf o etholwyr yn rhywbeth mae'n ffasiynol i bleidiau gwleidyddol modern geisio ei wneud.
  • Yn yr achos yma 'does dim rhaid i'r Blaid symud modfedd i fod wedi ei lleoli yn 'briodol'.  Yr hyn mae'n rhaid iddi ei wneud fodd bynnag, ydi sicrhau ei bod yn adeiladu naratif sy'n rhoi llais a fframwaith rhesymegol i'r lleoliad hwnnw, a thrwy hynny gysylltu efo'r etholwyr.  Fel rydym wedi ei drafod yn y gorffennol, y ffordd o wneud hynny ydi trwy ddangos sut y gallai mwy o rym i'r Cynulliad ganiatau i ni fynd i'r afael a phroblemau pob dydd yn fwy effeithiol.  

4 comments:

Anonymous said...

Dwi'n tybio beth mae hwn yn ddweud ydi fod trwch pobl Cymru yn dymuno i'r Blaid Lafur edrych ar ol eu buddiannau. Petae gennym lywodraeth Lafur yn san Steffan, ac un Adain dde yng Nghaerdydd, i'r gwrthwyneb fuasai pethau.
Mae'r Blaid Lafur wedi manteisio yn ystod y bymtheg mlynedd diwethaf ar ymdrechion Blaid Cymru i ennill mwy o rym, a wedyn camu mewn i ennill grym adeg etholiadau. Parasitig iawn.

Anonymous said...

Ahaa, itѕ nice discusѕion оn the topic of this paгagraph аt this plаce at this website, I have read all that, so now mе
also сommentіng here.
My web blog ; DealDash

Anonymous said...

Dim llawer o ôl-effaith prydeindod y Jiwbili a'r Olympics felly...

Haydn

Anonymous said...

Haydn - paid bod mor hunanfodlon. Rydym am gael Brit Nat fest am 4 mlynedd rhwng 2014-18.

Yn hytrach na chofio gwastraff, gwagedd a thrachwant Prydeindod caiff ei droi'n un sbloetsh fawr i ddathlu Prydeindod.

Fydd unrhyw un yn Plaid Cymru yn ddigon dewr i herio hyn nawr!? Yn ddigon o ddyn i ddweud nad yw Cymru eisiau dim o'r arian yma i 'gofio'r Rhyfel. Nad ydym am weld un Union Jack arall yng Nghymru. Dim trips i'r Somme.

Y pwrpas Brydeinig fydd hafalu cenedlaetholdeb Gymreig gyda lladd a llanast ac hafalu cenedlaetholdeb Brydeinig gyda heddwch a chyd-fyw.

Oes rhywun ym Mhlaid Cymru am feddwl a sut mae'r Blaid am ddelio gyda hyn neu ydyn nhw am esgus nad yw'n digwydd a bod yn 'soffistigedig' a mynd gyda'r holl Brydeindod?

Cachgwn.