Saturday, October 20, 2012

Beth sydd mewn enw?

Mae'n debyg ei bod yn gwbl ragweladwy y byddai penderfyniad y Blaid i ddefnyddio'r term The Party of Wales weithiau  tra'n cyfathrebu yn y Saesneg yn esgor ar ymateb emosiynol - mae'r Gymraeg yn fater emosiynol yng Nghymru, ac yn arbennig felly'r agweddau totemig, arwynebol a chosmetig sy'n ymwneud a hi.

Wna i ddim mynd i mewn i'r ddadl fan hyn, ond mi hoffwn gyfeirio at un pwynt sy'n cael ei godi yn y  ddadl ar wefan Golwg360 - sef bod nifer o'r prif bleidiau Gwyddelig efo enwau Gwyddelig - ac enwau Gwyddelig yn unig.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod hynny yn hollol wir - y dair plaid fwyaf ar yr ynys yw Fianna Fail, Fine Gael a Sinn Fein.  Ond mae yna wahaniaeth eithaf sylfaenol rhwng yr Iwerddon a Chymru yn y cyswllt hwn.  Er eglurder, ystyrir SF a FF yn bleidiau mwy cenedlaetholgar na FG.

Mae'r gwahaniaeth o bosibl i'w weld ar ei gliriaf pan fydd arweinydd Sinn. Fein, Gerry Adams yn holi'r prif weinidog, Enda Kenny yn y Dail.  Kenny ydi arweinydd Fine Gael - plaid geidwadol sydd (mymryn  yn anheg efallai) yn cael ei disgrifio fel West Brits gan eu gelynion gwleidyddol.  Mi fydd Adams yn gofyn ei gwestiynau yn aml mewn Gwyddeleg, ond Gwyddeleg  digon elfennol, ac yn cael ei atebion mewn Gwyddeleg rhugl, coeth.  Mae Gwyddeleg y West Brit yn llawer gwell nag ydi  Gwyddeleg y Gweriniaethwr.

Does yna ddim cymaint a hynny o lefydd ar ol yn yr Iwerddon lle mae niferoedd arwyddocaol o bobl yn siarad yr iaith o ddiwrnod i ddiwrnod.  Un o'r ardaloedd sydd ydi Connemara yng Ngorllewin Galway - wele batrwm etholiadol Connemara - mae'n ddigon tebyg i un gweddill y sir ag eithrio cefnogaeth sylweddol i aelodau annibynnol.  Ceir llawer o siaradwyr Gwyddeleg hefyd yn ardal Glenties yn Donegal.  Eto mewn etholiadau lleol o leiaf mae'r patrwm yn debyg i un Connemara - adlewyrchiad o'r patrwm sirol, ond gyda chefnogaeth cryf i ymgeiswyr annibynnol.  A bod yn deg mae pethau ychydig yn wahanol mewn etholiadau Dail, lle ceir cefnogaeth sylweddol i SF - ond mae hynny oherwydd bod yr ymgeisydd, Pierce Dogherty yn byw yn Glenties.

Mae pethau'n dra gwahanol yma yng Nghymru wrth gwrs, mae'r iaith yn gryfach o lawer, mae yna berthynas lled gryf rhwng y gallu i siarad Cymraeg a thueddiad i fotio i Blaid Cymru, ac mae'r iaith yn fater gwleidyddol mewn ffordd nad ydyw yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Yn y Weriniaeth dydi'r Wyddeleg ddim yn cael ei chysylltu efo un plaid, na hyd yn oed un math o wleidyddiaeth.  Ar rhyw olwg mae'n perthyn i pob plaid.  O ganlyniad does yna ddim goblygiadau etholiadol i enwau Gwyddeleg ar bleidiau gwleidyddol.

Gyda llaw, mae rhai o bleidiau Iwerddon yn gwneud yr un peth a'r Toriaid neu Lafur yng Nghymru ac yn defnyddio fersiynnau Saesneg a Gwyddeleg eu henwau - Comhaontas Glas ydi'r enw Gwyddeleg ar y Blaid Werdd, a Páirtí an Lucht Oibre ydi'r Blaid Lafur.

5 comments:

Anonymous said...
This comment has been removed by a blog administrator.
Ifan Morgan Jones said...

Piti na chafodd David Melding ei ffordd a newid enw'r Ceidwadwyr yng Nghymru i 'Ymlaen'.

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-14779092

Efallai y byddai Plaid Cymru yn fwy hyderus wrth defnyddio eu henw Cymraeg wedyn.

HC said...

A ddefnyddir enw Gaeleg ar yr SNP yn y Gorllewin ? . Dwi'n cofio darllen rhywle , ond ni wn os mai ffaith neu si neu camsynaid ydoedd, fod Plaid Lafur ynysoedd y Gorllewin yn fwy pleidiol i'r iaith na'r SNP yn yr ardal.

Anonymous said...

Beth yw'r pwynt ti'n geisio'i wneud?

menaiblog said...

Fi ta HC?

O'm rhan i mae'r pwynt yn ymddangos yn weddol amlwg. Does yna ddim dimensiwn gwleidyddol i iaith enw plaid wleidyddol yn yr Iwerddon. Mae yna yng Nghymru.