Wednesday, October 31, 2012

Cynghorau Sir a'r Gymraeg

Da iawn Arfon Jones - roedd hi'n hen bryd i rhywun ddefnyddio'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddinoethi'r gwirionedd ynglyn a phwysigrwydd y Gymraeg i gwahanol awdurdodau lleol Cymru - er i lawer ddod o hyd i rhyw esgys neu'i gilydd i beidio ag ateb cwestiwn digon syml.

Wna i ddim pasio'r i nodi bod Cyngor Gwynedd ben, ysgwydd, bol, pen glin ac yn wir ffer yn well nag unrhyw gyngor arall o ran sicrhau bod y gallu i siarad a 'sgwennu'r Gymraeg yn greiddiol i'w darpariaeth.  Gwynedd wrth gwrs ydi'r unig gyngor sydd wedi ei arwain gan Plaid Cymru ers ei sefydlu.

Byddwn wedi tybio bod y wers yn eithaf syml - mae grym gwleidyddol i'r Blaid yn arwain at uwchraddio statws y Gymraeg.  Byddai cystal i'r sawl sy'n ymateb yn hysteraidd ac afresymegol os digwydd i'r Blaid ddefnyddio ei henw Saesneg wrth wneud datganiad i'r wasg yn y Saesneg gofio hynny.

14 comments:

Vaughan Hughes said...

Nid Cyngor Gwynedd yn unig sy'n haeddu ei ganmol. Wrth roi'r gorau i'w waith fel Comisiynydd dros Gyngor Sir Ynys Mon talodd Gareth Jones, cyn AC Plaid Cymru, deyrnged dwymgalon i'r defnydd naturiol braf mae cynghorwyr - o bob lliw gwleidyddol - a swyddogion y Cyngor yn ei wneud o'r Gymraeg yn y Siambr ac mewn pwyllgorau.

Cai Larsen said...

Wel, dydi Mon ddim yn darparu'r data a ofynwyd amdano - ond dwi'n gwneud defnydd eithaf mynych o Ganolfan Hamdden Caergybi _ _ _

Anonymous said...

Beth am Ceredigion ?

Anonymous said...

Be? - fyddai Gwynedd ddim mor Gymreigaidd heblaw am Y Blaid (The Pary of Wales) felly?

Cai Larsen said...

Na, wrth gwrs na fyddai hi.

Vaughan Hughes said...

A,dwi'n gweld. Camgymeriad Gareth Jones naif a hygoelus oedd gwirioni ar y defnydd o'r Gymraeg gan gannoedd o bobol yn y pencadlys yn Llangefni yn hytrach na gan lond dwrn yng Nghanolfan Hamdden Caergybi. Y math o resymu y mae BlogMenai, efo pob cyfiawnhad, yn cystwyo Gwilym Owen am fod yn euog ohono.I mi mae dyfarniad dyn o sylwedd fel Gareth yn bwysicach na data.

Simon Brooks said...

Mae'r Blaid yn anghywir yn ei phenderfyniad i arddel The Party of Wales. Mae'n gam symbolaidd o'r pwys mwya, hynny i'r cyfeiriad anghywir - ac mae'n iawn ei beirniadu.

O ran Gwynedd, rwyt ti'n hollol iawn i ddweud fod cyswllt hanesyddol rhwng gafael y Blaid ar Wynedd a normaleiddio'r iaith yn y sir. Fe allasai yn hawdd fod wedi bod fel arall, ac rwy'n cytuno hefyd mai polisiau iaith, cynllunio ac addysg Gwynedd ydi rhai o'r prif resymau pam fod y Gymraeg gymaint yn gryfach yn y sir nag yng Ngheredigion, dyweder.

Ond dwi ddim yn gweld anghysondeb rhwng honni'r naill beth a'r llall. Fe fasa unrhyw ymgyrchydd iaith yn gorfod gweld y ddau osodiad yn gywir.

Anonymous said...

Yn sicr, ni fuasai polisi iaith y sir o fewn addysg wedi bod cyn gryfed o fewn llefydd fel Bangor petai PC ddim yn rheoli. Ydach chi'n cofio rhieni Llandudno'n dod i Gaernarfon i brotestio tua 1979 ?. Dim cefnogwyr y Blaid Lafur a ddaeth yno i'w gwatwar a'u dilorni. ( Credaf fod llun o Huw Jones S4C gynt yno'n dadlau hefo rhyw blue-rinse) .

Cai Larsen said...

Diolch am y sylwadau gyfeillion.

Vaughan - does yna neb yn awgrymu bod GJ yn naif ac ati - cymharol ydi pob dim - mae profiad Gareth o Gymreigrwydd gweision cyhoeddus wedi ei seilio ar Gonwy - ac - och a gwae y Cynulliad.

Rwan dwi ddim yn ymwneud yn aml a Chyngor Mon, a dwi'n siwr dy fod yn gywir bod y sawl sy'n gallu siarad Cymraeg efo'i gilydd yn gwneud hynny. Mae'r Gymraeg yn hyfyw ym Mon, ac mi glywi di lawer mwy o Gymraeg ym Mon nag yng Ngheredigion, er bod y canrannau swyddogol yn weddol debyg yn y ddau le. ( Serch hynny mae yna dystiolaeth bod yna broblem trosglwyddiad iaith ym Mon).

Son ydw i am bwysigrwydd y defnydd o'r iaith i bolisi cyflogi'r awdurdod. Mae'n bosibl bod y cwbl lot y tu allan i Ganolfan Hamdden Caergybi yn siarad Cymraeg - ond cymysg ydi'r negeseuon (gweddol achlysurol rhaid cyfaddef) dwi'n eu cael oddi yno a dweud y gwir.

Ta waeth, fy mhwynt i ydi bod y Gymraeg yn saffach mewn gweinyddiaeth sy'n cael ei rhedeg gan y Blaid. Siawns y gallwn gytuno ar hynny?

Simon - Dwi'n derbyn dy bwynt wrth gwrs - fel arfer mae'n un rhesymegol. Ond fedra i ddim cytuno ar y mater enw - mae cenhadaeth y Blaid yn ehangach nag amddiffyn yr iaith yn unig. Mi fyddwn i'n ei chael yn anodd i fotio i blaid efo enw uniaith Saesneg, a dwi'n dallt pam bod teulu'r Mrs yn ei chael yn anodd i uniaethu efo plaid ag iddi enw uniaith Gymraeg.

Un o Eryri said...

Cytuno yn llwyr gyda chdi am y canmoliaeth I Gwynedd, ac efallai bod Gareth Jones yn cymharu ynys mon i'w gyngor ei hun yn Conwy gyda ei ddatganiad. Mae'r defnydd o Saesneg gan gynghorwyr (yn cynnwys rhai y Blaid) a swyddogion Conwy, ynys mon, Ceredigion, caerfyrddin a phob cyngor arall yn dorcalonnus I gymharu a rhai Cyngor Gwynedd.
Y rheswm dros hyn yw y seiliau cadarn a osodwyd gan grwp y Blaid ar Gyngor Gwynedd yng nghyfnod Cyngor cysgodol Sir Gaernarfon a Meirionydd yn 1995.
Yn dilyn hynny y Gymraeg yw iaith naturiol Cyngor Gwynedd, sydd yn cael ei defnyddio ymhob agwedd o waith y Cyngor.
Fe welir hyn yn glir mewn cyfarfodydd ledled Cymru, pan fydd aelodau a Swyddogion Gwynedd yn siarad Cymraeg hyd yn oed ar adegau pan mae hwy yw yr unig Siaradwyr Cymraeg yn bresennol. Yn anffodus nid yw hyn yn digwydd gyda Aelodau a Swyddogion o Gynghorau eraill.
Mae polisi y Blaid ar Gyngor Gwynedd wedi sicrhau fod hyd yn oed aelodau a Swyddogion sydd heb arfer darllen y Gymraeg hyd yn oed, heb son am ei siarad yn gyhoeddus o fewn dim amser mewn sefyllfa lle mai'r Gymraeg yw ei hoff iaith i'w ddefnyddio.
Efallai y buasai yn beth da I rhai aelodau o Gymdeithas yr Iaith er enghraifft gofio hyn wrth ymosod ar y Cyngor ynglyn a rhai o'i pholisiau.
Pobl sydd yn caru y Iaith yw Plaid Cymru Gwynedd a pobl sydd wedi llwyddo I normaleiddio'r iaith mewn sefyllfa lle Mae pob Cyngor arall yng Nghymru wedi methu

Miles said...

Os nad oes digon o Gymraeg i'w gael yng nghanolfan hamdden Caergybi , yna rhaid i'r bai ddisgyn yn sgwar ar ysgwyddau yr athrawon cynradd oddeutu, dyweder, chwarter canrif yn ol.

Cai Larsen said...

Cweit, Miles, cweit. Dadansoddiad gwych.

Cai Larsen said...

Cytuno 100% Gwynfor.