Mae Borthlas yn gwbwl gywir i dynnu sylw Vaughan Gethingat y ffaith bod seremoniau yn bethau digon cyffredin yn y DU - a bod holl Aelodau Seneddol y DU yn cael eu gorfodi i dyngu llw i Mrs Windsor a'i holl ddisgynyddion - er y gallai'r disgynyddion hynny fod yn ddrwgweithredwyr neu'n llwyth o Jimmy Savils hyd y gwyr y sawl sy'n gorfod tyngu llw.
Mae Vaughan yn tueddu i ymateb yn emosiynol a hysteraidd i unrhyw dystiolaeth o genedlaetholwyr Cymreig yn cymryd rhan mewn rhyw seremoni neu'i gilydd. Yr hyn sydd efallai'n anghyfarwydd iddo ydi bod seremoniau braidd yn bisar yn bethau cyffredin iawn yn y DU, a bod llawer o'r seremoniau hynny yn ymwneud a milwriaeth, Mrs Windsor neu'r ddau.
Dwi ddim yn siwr pam nad ydi Vaughan yn ymwybodol o hyn - er iddo gael ei eni yn Zambia, mae ei dad yn Gymro, a bu'n byw yn y DU ers iddo fod yn ddyflwydd, ac yn wir mae bron yn sicr iddo gymryd rhan mewn seremoniau ei hun, megis seremoni graddio - digwyddiad bisar os bu un erioed.
Efallai ei fod yn greadur anarferol o sal am sylwi ar bethau nad ydynt yn ymddangos ar YouTube. . Ta waeth, mae Blogmenai pob amser yn awyddus i helpu - felly dyma restr bach o seremoniau rhyfedd yn y DU:
Swan Upping - Seremoni sy'n ymwneud a chyfri elyrch ar Afon Tafwys. Ymddengys bod y frenhiniaeth yn hawlio pob alarch sydd heb ei marcio, ac mae gan y sefydliad swyddogion sy'n cyfri'r cyfryw elyrch ar hyd Afon Tafwys yn flynyddol. Un o ddefodau bach difir y seremoni ydi bod y cyfrwyr elyrch yn saliwtio Mrs Windsor efo'u rhwyfau wrth fynd heibio Castell Windsor.
Beating Retreat - Rhywbeth neu'i gilydd i'w wneud efo cofio cau sefydliadau milwrol ar ddiwedd diwrnod. Mae'n ymwneud a llwythi o filwyr yn dod at ei gilydd ar gefn ceffylau a ballu ac yn saliwtio Mrs Windsor a'i theulu.
Y Datguddiad - Seremoni flynyddol ar Ionawr 6 lle mae Mrs Windsor, neu ei chynrychiolwyr yn cyflwyno aur, thus a mur i Iesu Grist.
Gun Salutes - Seremoniau lle saethir rhwng 20 a 124 o ergydion o ynnau mawr - fel arfer i ddathlu penblwydd Mrs Windsor, ei gwr neu aelod arall o'r teulu brenhinol - neu i ddathlu genedigaeth babi i aelod o'i theulu.
Garter Thistle Services - Rhywbeth i'w wneud efo dynion yn gwisgo mentyll, capiau felfed du efo plu arnyn nhw ac yn mynd o gwmpas mewn cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau.
Dwi ddim wedi son am y mesyns, yr Urdd Oren, Yr Eglwys Anglicanaidd, yr Eglwys Babyddol sydd efo amrediad rhyfeddol o seremoniau bisar eu hunain rhag rhoi hartan i Vaughan druan.

Ceremony of the Keys - Dynion sy'n gwisgo dillad Tuduraidd yn crwydro o gwmpas Twr Llundain pob nos yn cloi y drysau.
Dwi ddim wedi son am y mesyns, yr Urdd Oren, Yr Eglwys Anglicanaidd, yr Eglwys Babyddol sydd efo amrediad rhyfeddol o seremoniau bisar eu hunain rhag rhoi hartan i Vaughan druan.
9 comments:
Yr oedd Vaughan Gething yn lais amlwg i'r Blaid Lafur yn Aberystwyth pan yn fyfyriwr rhyw 20 mlynedd yn ol. Yr oedd yn ffiaidd yn ei gasineb o genedlaetholdeb bryd hynny.
Siwr fod o o'r farn bod Beth ddigwyddodd yn Zambia yn 1964 yn ffiaidd? Fel arfer y Blair Laura yn hap us Iain I gefnogi rywbeth syn ddigwyddodd my mob man he law bod o'n ddigwyddodd yn west england
Ymddihiheuro am y camsillafu yn yr uchod predictive text yn chwara gwmpas
Beth am y 'steddfod? Uffernol o bisar!!
Beth am y 'steddfod? Uffernol o bisar!!
Gobeithio nad ydi Vaughan yn dod i glywed am y peth - neu mi fydd yna stori yn y Mule ar y pwnc.
"Labour AM condemns Gorsedd's bizarre sword-wielding ceremony" - mae'n fater o amser gyfeillion.
'Labour AM condemns military flag on top of pavilion'
Mae http://www.bbc.scotlandshire.co.uk/ yn werth ei weld!
Post a Comment