Monday, October 29, 2012

Moesoldeb ymprydio

Dwi i ffwrdd ar hyn o bryd, ac mae fy mynediad i'r we yn gyfyng - ond fedra i ddim peidio a gwneud sylw brysiog ynglyn a sylwadau DET heddiw ynglyn ag 'anfoesoldeb' bygythiad Gwynfor Evans i ymprydio.

Yn ol yn 1981 arweiniodd rhywbeth arall a ddywedwyd gan DET at is etholiad - ail is etholiad Fermanagh South Tyrone yng Ngogledd Iwerddon.  Canlyniad i farwolaeth yr ymprydiwr newyn Bobby Sands oedd is etholiad Awst 20, 1981.  Nid oedd llywodraeth Thatcher am gynnal yr is etholiad wedi marwolaeth Sands oherwydd y byddai'r amgylchiadau dirdynnol oedd yn bodoli ar y pryd yn debygol iawn o arwain at fuddugoliaeth i gefnogwyr yr ymprydwyr newyn.  Roedd ymprydwyr newyn yn marw un ar ol y llall, a phob tro y byddai hynny'n digwydd byddai ton o emosiwn - a thrais yn torri tros ardaloedd Pabyddol y Gogledd.  Gorfodwyd y llywodraeth i alw'r is etholiad oherwydd i aelod seneddol ifanc o'r enw Dafydd Elis Thomas fygwth symud gwrit i'w galw oni bai y byddai'r llywodraeth yn gwneud hynny.

Does yna erioed etholwyr wedi mynd i bleidleisio o dan yr un pwysau emosiynol a wnaeth rhai Fermanagh South Tyrone yn yr etholiad hwnnw.  Bu farw'r degfed ymprydiwr newyn , Mickey Devine ar y diwrnod enilliodd Owen Carron yr is etholiad ar ran yr ymprydwyr.  Roedd deg o bobl wedi bod ar ympryd newyn ar yr un pryd trwy gydol yr ymgyrch, ac roedd yr hyn mae DET yn cwyno amdano - pwysau oherwydd 'bygythiad o hunanladdiad' yn greiddiol i natur yr ymgyrch.  Yn wir - wnawn ni byth wybod i sicrwydd wrth gwrs -  ond mae'n ddigon posibl y byddai'r ympryd wedi dod i ben yn llawer cynt pe na byddai'r ymgyrch yn mynd rhagddi.  Roedd ystyriaethau gwleidyddol yn pwyso ar yr ymprydwyr ac arweinwyr y Mudiad Gweriniaethol fel ei gilydd.


6 comments:

Anonymous said...

Mwy na hyn,DET symudodd y writ - hynny yw, fe wnaeth gorchmynu Senedd DU i gael is-etholiad yn Fermanagh-De Tyrone ar ol bod Bobby Sands yn marw.Wnaeth dim gwaed cael eu colli oherwydd syniad "anfoesol" Gwynfor Evans i newid meddwl Llywodreth Thatcher am S4C.

Anonymous said...

Mae rhagrith yr Arglwydd i'w ddisgwyl. Mae'r boi di newid ei farn ar bawb a phopeth yn ei amser. Ond dydi'r creu stwr yn y cyfryngau ddim yn ddifyr erbyn hyn. Mae'n boen. Mae'n ddiflas. Does ganddo fo ddim hawl i gynrychioli'r Blaid mwyach.

Anonymous said...

DET a wnaeth gyflwyno y 'Wolfe Tones'
ar lwyfan Deeside yn haf 1982, ynghanol stwr y Falklands a'r gan 'Admiral Brown ' . Efallai nad yw'n cofio bellach.

Anonymous said...

Mae DET yn prat. Paid sgwennu amdano.

Cai Larsen said...

Anon 10.08 - Obama fathodd y term Romnesia. Mi wna i fathu Thomnesia.

Anonymous said...

Thomnesia : Y grefft o gredu'r yr hyn nad oeddech bum munud ynghynt , ac i'r gwrthwyneb.