Sunday, October 07, 2012

Beth fyddai'n digwydd _ _ _

_ _ _ petai pol YouGov heddiw yn cael ei adlewyrchu mewn etholiad cyffredinol?

Wel - efo'r ffiniau presenol byddai Llafur yn ennill pob sedd yng Nghymru ag eithrio Meirion / Dwyfor, Brycheiniog a Maesyfed, Ceredigion a Maldwyn.

Efo'r ffiniau newydd - byddai Llafur yn ennill pob sedd ag eithrio Gwynedd, De Penfro, Ceredigion / Gogledd Powys a Mynwy.

Mi fyddai hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa digon tebyg i'r penllanw Llafur ymhell yn ol yn 1966.

Rwan dydi polau 'cenedlaethol' na rhaglenni darogan fel yr un mae'r lincs yn arwain ati ddim yn gweithio yn dda yng Nghymru oherwydd nad ydynt yn mesur cefnogaeth Plaid Cymru.  Hefyd rydan ni  ychydig ddyddiau ar ol cynhadledd y Blaid Lafur a thua hanner ffordd trwy'r senedd yma.  Gallai llawer iawn ddigwydd rhwng rwan a 2015.

Ond - ond dylai'r polau diweddaraf fod yn rhybudd i aelodau seneddol pob plaid ag eithrio Llafur yng Nghymru - os am oroesi i'r senedd nesaf bydd rhaid i'r rhan fwyaf ohonynt berfformio'n well na'u pleidiau yn ehangach.  Dyma'r amser i feddwl sut i wneud hynny - bydd 2014 yn rhy hwyr.

5 comments:

Anonymous said...

Cytuno. Sut felly mae egluro penderfyniad Alun Ffred, DET ayyb i gythruddo cefnogwyr "traddodiadol" fel fi drwy bleidleisio yn erbyn dwy-ieithrwydd llawn yn y Cynulliad?

Cai Larsen said...

Mae gen i ofn nad ydi materion megis cyfieithu cofnodion pwyllgorau'r Cynulliad yn ysgrifenedig am gael iot o effaith ar yr hyn sy'n digwydd mewn etholiad cyffredinol - economi a naratif cyfryngol 'cenedlaethol' - hy Prydeinig - sy'n gyrru etholiadau cyffredinol.

Anonymous said...

Digon gwir - ond mae suro a dadrithio cefnogwyr yn ffordd ryfedd iawn o'u sbarduno i ymladd drostoch.
Dyna ni- efallai fod y don enfawr o Sosialwyr penboeth y mae Leanne Wps wedi eu hysbrydoli'n ddiweddar yn ddigonol i sgubo Prydeindod ymaith.

Anonymous said...

Wrth gwrs mai mater ymylol yw hyn i drwch y pleidleiswyr, ond dwi'n amau ei fod yn fater pwysig iawn i'r ychydig gannoedd fydd yn cnocio'r drysau, yn codi'r arian, yn marcio'r blychau ayyb. i'r Blaid.

Y bobl yma fydd y bobl fydd yn gwneud y gwahaniaeth yn y 4 / 5 sedd fydd yn cyfrif ar lefel San Steffan.

Cai Larsen said...

Dwi ddim yn cytuno efo safbwynt y Blaid ar hyn - ond y gwir ydi nad y ffwndementalwyr ieithyddol sydd yn cnocio drysau yn fy mhrofiad i.

A dweud y gwir dydi puryddion syniadaethol ddim yn ymhel efo gwleidyddiaeth etholiadol at ei gilydd. Mae'n well ganddyn nhw feirniadu o'r tu allan.