Thursday, October 18, 2012

Beth am i Guto Bebb ddechrau wrth ei draed?

Felly mae Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb wedi - rhywsut, rhywfodd - argyhoeddi ei hun bod Deddf Iaith 1993 yn well peth na'r Mesur Iaith a ddaeth i rym eleni.  Plaid Guto oedd yn gyfrifol am Ddeddf 93 wrth gwrs tra mai'r glymblaid Plaid Cymru / Llafur oedd yn gyfrifol am y Mesur Iaith.



Mae'r honiad ei hun yn rhy chwerthinllyd i drafferthu mynd i'r afael efo fo mewn gwirionedd, ond cyn bod Guto yn ystyried ei hun yn cymaint o foi am yr iaith a ballu, tybed os y byddai'n syniad iddo ddechrau wrth ei draed ei hun yn hytrach na malu awyr ar lawr Ty'r Cyffredin?

Ystyrier er enghraifft wefan y Ceidwadwyr Cymreig.  Os wnewch chi chwilio yn ofalus - yn ofnadwy o ofalus - mi gewch chi hyd i dri gair Cymraeg yno, sef Ceidwadwyr, Cymreig a croeso.

Mae'n dda gen i ddweud fodd bynnag bod yna fwy o Gymraeg ar wefan Ceidwadwyr Aberconwy.  A dweud y gwir mae yna hafan Gymraeg er nad yw yn cyfateb i'r un Saesneg.  Y rheswm am hynny ydi bod yr ochr Saesneg yn cael ei diweddaru, tra nad ydi'r un Gymraeg wedi ei diweddaru ers cyn etholiad cyffredinol 2010.  Mae yna gryn dipyn o gobyldigwc digon rhyfedd yno hefyd - oes yna unrhyw un yn gwybod beth ydi Cymraeg Chyman Ymgeisydd yn ei olygu?  Neu cyfryngau oriel?

Dylai Toriaid Aberconwy hefyd ystyried cyflogi dylunydd i sortio'r ochr Gymraeg allan - mae'r testun yn un stribedun hir a hyll i lawr yr ochr dde - mae'r dylunio ar yr ochr Saesneg yn dwt a threfnus wrth gwrs.

Ceir fodd bynnag gyfres o lincs i lawr yr ochr chwith sy'n arwain at  adrannau sy'n ymwneud a materion o bwys - yr economi, iechyd, addysg, yr amgylchedd, amaethyddiaeth, trafnidiaeth ac ati.  Ond o ddilyn y lincs  mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd.  Er enghraifft o ddilyn y linc Amgylchedd, dyma sydd i'w weld:


Dydd Llun – 10fed o Fai 2010


Diwrnod difyr!  Cyfarfod o bwyllgor y 1922 heno am 6pm oedd yn gefnogol i safbwynt arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol.  Fydd y cynnig yn ddigon i’r Rhyddfrydwyr?  Os eu dewis fydd cefnogi Llafur yna da ni mewn twll.  Yr hyn sydd ei angen yw llywodraeth gadarn a hynny am 4 blynedd.  Ni all clymblaid Llafur/Rhyddfrydwyr/SNP/PC/SDLP/DUP wneud hyn.
Fel Plaid yr ydym wedi ymdrechu i gyfaddawdu er bydd y wlad.  A wnaiff y Rhyddfrydwyr?
Guto




Ac o ddilyn y linc Amaethyddiaeth mae'r un neges yn union yn ymddangos.  A dweud y gwir, dydi o ddim ots pa linc yr ydych yn ei ddilyn, mi gewch chi'r un neges cwbl amherthnasol.  

Maen siwr eich bod yn rhyw feddwl fy mod am ddweud bod y lincs Saesneg yn arwain at rhywle gweddol gall - ond dydyn nhw ddim pob tro.  Mae'r adrannau arbenigol yn y Saesneg yn llawnach, ond yn fwy bisar na'r rhai Cymraeg.   Er enghraifft o ddilyn y lincHealth dyma'r neges sy'n ymddangos:





Strategic Defence and Security Review


It has been a long day at Westminster.
First we had the announcement in relation to the Strategic Defence and Security Review. The impacts are severe as we expected but what is even more shocking is the mess that we were left by the previous Government.
1. In total Labour left us a £38bn black hole over the next ten years. To repeat, they had committed to spend £38,000,000,000 more than the money in the defence budget over the next ten years.
2. The top fifteen (15) spending programmes are currently £8.8bn over budget with the delivery programme for these commitments facing a delay of 32 years UNDER THE LABOUR PLANS!
3. Last year alone the Labour Government increased their spending commitments on defence equipment by an incredible £3.3bn in one year and yet made no additional funding available.
So the background is horrendous to say the least. However, the announcements at least attempted to make sense of the chaos left to the Coalition by the Labour Party – but there was a heavy price to pay.
The loss of the investment at St. Athan in South Wales was a serious blow to my colleague Alun Cairns, the Conservative MP for the Vale of Glamorgan and there are some unpalatable changes in all three services. However, as a result of this review there are important positives which we need to highlight;
Royal Navy
• There will keep a continuous at sea nuclear deterrent
• Seven attack submarines and 19 Frigates and Destroyers will be maintained
• All three naval bases will be retained
Army
• All 36 Infantry Battalions are to be kept
• There will be a new structure of five deployable Multi-Role Brigades
• There will be no changes to Army Units involved in Afghanistan
RAF
• Move to a fleet of Carrier Variant Joint Strike Fighters and a Typhoon Fleet by 2020
• New state of the art Strategic Airlift aircraft consisting of C17s, A400Ms and A330s
• No impact on operations in Afghanistan
Having attempted to digest all these announcements we then met the Minister for Culture, Jeremy Hunt, to discuss his proposed new funding arrangements for S4C. As I was attempting to get to grip with the details the story appeared on the BBC. I suspect that tomorrow will be exhausting. There will be the fallout from the Strategic Defence and Security Review and the funding announcements of the BBC and S4C coupled with the Comprehensive Spending review being revealed at 12.30.
Interesting times.

Mae'n ymddangos bod Guto yn llafurio o dan y camargraff gweddol sylfaenol bod yr adolygiad amddiffyn rhywbeth neu'i gilydd i'w wneud efo iechyd. Ta waeth, tra bod ochr Saesneg y wefan yn rhyfedd o bryd i'w gilydd, byddwn yn fodlon betio mai'r ochr Gymraeg ydi un o'r gwefannau salaf yn yr iaith Gymraeg, ac yn wir un o'r rhai salaf mewn unrhyw iaith arall. Mae yna olwg y diawl arni, dydi hi byth yn cael ei diweddaru, dydi llawer ohoni ddim yn gwneud unrhyw synnwyr a does yna ddim oll ynddi fyddai'n gwneud i unrhyw un yn ei lawn bwyll fod eisiau ei darllen -  tokenism ar ei waethaf a mwyaf dibwynt.

Fydda i ddim yn galw am gael gwared ar ddarpariaeth Gymraeg yn aml, ond wir Dduw byddai'n well i bawb petai Ceidwadwyr Aberconwy yn cael gwared o'r nonsens di ystyr o wefan Gymraeg sydd ganddynt cyn gynted a phosibl. Byddai hefyd yn syniad i'r sawl sydd yn gyfrifol am yr erchyll beth, feddwl ddwywaith cyn doethinebu ynglyn a'r iaith a hawliau ieithyddol, cyn cael ei dy - neu o leiaf ei wefan - ei hun mewn trefn.

12 comments:

Guto Bebb said...

Dim sylw am 24 awr Cai, arwydd fod dy hysteria yn dechrau diflasu hyd yn oed darllenwyr Blog Menai?

Cwpwl o bwyntiau;

1. Ti'n datgan fod honni fod Mesur 2011 yn wan yn rhyw fath o ffwlbri ac eto dyna oedd union farn y Gymdeithas (gweler isod)

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8550000/newsid_8559100/8559140.stm

2. Rhag ofn bod ti'n camarwain yn fwriadol (fydde hynny'n syndod -not) ddaru mi ddim honni fod Mesur 2011 yn wanach nag Deddf '93 ag eithrio yn achos adrannau o lywodraeth San Steffan. Pam camarwain dy ddarllenwyr Cai?

Rwan o ran yr hyn y bu i mi ddweud nid yr hyn y mae Cai am ddymuno i mi fod wedi ddweud ewch i'r i-player i wrando ar y Post Cyntaf am 7.12 ac wedyn am tua 8.10 i wrando arna fi ac Alun Ffred. Ychydig mwy ffeithiol gywir na hysteria Cai er fod Ffred yn chwerthinllyd o amddiffynnol.

Y pwynt dwi wedi ei wneud yw fod Ffred a Llywodraeth Cymru'n 1 (y llywodraeth orau erioed os digwydd bod eich bod yn brifathro yn Trefor) wedi taflu'r babi allan gan gadw'r brych. Yn fras, trwy ddisodli datblygiad Cynlluniau Iaith a goruchwyliaeth y Bwrdd gyda chyfundrefn newydd, fler a di-ddylanwad tu allan i'r ugain maes polisi yr hyn y bu i Ffred ei wneud oedd gofyn i Swyddfa Cymru ail greu yr olwyn unwaith yn rhagor.

Sylwer o'r sgwrs radio na fu i Ffred wadu hyn gan nodi yn ddi-hid y byddai popeth yn iawn mewn dwy neu dair blynedd (gret os am wasanaeth gan y DWP 'fory trwy gyfrwn y Gymraeg). Bu i Ffred hefyd dderbyn nad oedd Mesur 2011 yn ychwanegu DIM at ddeddf 93 yn achos maesydd polisi sydd heb eu datganoli. Yr hyn dwi'n awgrymu yw fod y newidiadau wedi creu cymhlethdd a chwyldro lle y bu dealltwriaeth ac esblygiad. Ymddengys nad yw Ffred yn anghytuno gyda hyn er gwaethaf ei ymateb hurt o ymosodol yn Golwg.

I gloi felly, dwi wedi nodi fod y Gymraeg yn llai diogel ers Mesur 2011 nid o fwriad ond oherwydd diffyg ystyriaeth - mae hyn yn ffaith. Dwi wedi cynnig cefnogaeth i'r drefn newydd gan bwysleisio yr angen i sicrhau cyd-weithrediad rhwng Meri Huws, Swyddfa Cymru ac adrannau San Steffan i adfer y sefyllfa cyn 2011. Yn olaf, dwi wedi gofyn am ddadl Senedol i atgoffa adrannau San Steffan beth yw eu cyfrifoldebau. Yn amlwg dwi'n casau y iaith!

Y gwir plaen yw fod panic Ffred ac gwawd Cai yn dysteb i'r ffaith fy mod yn gywir. Pwrpas gwleidyddol llawn cymaint ac ymarferol oedd i Fesur 2011 - dyna pam y bu i Ffred anwybyddu effaith ei addasiadau i ddeddf 93. Yr oedd datgan fod Plaid WEDI cyflwyno mesur newydd yn bwysicach na sicrhau fod y mesur yn gweithio er lles y rhai sy'n defnyddio y Gymraeg.

Yn olaf, y mae blogiad Cai yn dysteb i gywirdeb fy nadl. Fel y dywedodd fy nhaid ( y groser) "when they play the man and not the ball you know that you have won".

Fe wn fod Cai yn coleddu obsesiwn go afiach gyda fi (wn i ddim pam) ond mae y blogiad hurt, OTT ac rhyfeddol amddiffynnol hwn yn dysteb i unigolyn sy'n rhoi ffyddlondeb i blaid cyn dim byd. Ych a fi.

Cai Larsen said...

Bore da Mr Bebb.

I ddechrau ynglyn a chamarwain bwriadol - mae Blogmenai fel y rhan fwyaf o flogiau gwleidyddol yn dod o gyfeiriad arbennig ond wnei di ddim dod o hyd i ddim sydd yn ffeithiol anghywir yma - a dydi'r blogiad ti'n cwyno amdano ddim yn eithriad yn hynny o beth. Mae'r stori mae'r blogiad yn lincio iddi yn dod o Golwg360 - ac mae'r stori honno yn cyd fynd a chynnwys y blogiad. Dwi'n ymddiried yn y cyfryngau prif lif - dydi amser ddim yn caniatau i mi ymbalfalu yn Hansard.

Ti'n gywir y byddai'n well petai gan y Comisiynydd Iaith bwerau tros faterion sydd heb eu datganoli, ond does gan y Cynulliad ddim hawl i greu mesur sy'n mynd i'r afael a materion sydd heb eu datganoli - ac fel rydym wedi darganfod yn ddiweddar mae Swyddfa Cymru yn mynd ar ol mesurau sydd yn cyffwrdd a materion sydd heb eu datganoli - hyd yn oed os mai cyffwrdd 'technegol' a geir mewn gwirionedd.

Does yna ddim ymysodiad arnat ti fel y cyfryw yn y blogiad, ond tynnir sylw at ddiffygion treuenus yn dy wefan cyfrwng Cymraeg, a gwneir cysylltiad rhwng dy frwdfrydedd tros y Gymraeg mewn un maes a dy ddiffyg hid llwyr mewn maes arall. Dydi hynny ddim yn ymysodiad personol - ti'n hogyn mawr sy'n gwneud joban hogyn mawr - mae derbyn beirniadaeth yn mynd efo'r diriogaeth - delia efo'r peth.

Mi fyddi di hefyd yn fy nghuddo o fod yn obsesiynol pob tro mae yna gyfeiriad atat ar flogmenai. Mae yna gannoedd ar gannoedd o flogiadau ar y blog bellsch, a llond dwrn yn unig sydd hyd yn oed yn cyfeirio atat. Fel y dywedais ti'n hogyn mawr - dydi dy feirniadu ddim yn dystiolaeth o anhwylder seicolegol ar ran y sawl sy'n trafod dy wleidydda - mae derbyn beirniadaeth ( a rhoi) yn greiddiol i natur gwleidyddiaeth ddemocrataidd.

O ac ar nodyn mwy cadarnhaol, da iawn ti am beidio amddiffyn y wefan. Dydi o byth yn beth braf gweld dyn yn ceisio amddiffyn yr hyn na ellir ei amddiffyn.

Anonymous said...

Awesomе blog! Dо you hаve аny tipѕ anԁ hints for aspiгіng ωriterѕ?
I'm hoping to start my own site soon but I'm a little lost on eѵerythіng.
Wοuld you rесommend stаrtіng ωith a fгее platform lіke Wοrԁpreѕs οr go fοr а paid οption?
There are sο manу oрtіons out theге that I'm totally overwhelmed .. Any suggestions? Kudos!
My page - lgbtplanet.com

Anonymous said...

Υeѕ! Finally someone ωrites about je.
my web site :: www.prweb.com/releases/silkn/sensepilreview/prweb10193901.Htm

Anonymous said...

Ι'm truly enjoying the design and layout of your website. It's a
verу eаsy on the eуes whіch makes it
much more enјoyable for me to сοme here anԁ visit
morе often. Did yοu hire out а designeг tо create your theme?

Fantastic work!
Here is my web-site localbride.org

Anonymous said...

I wаs ablе tо find gοod information from yоur blοg postѕ.


Feel free to ѕurf to my weblοg; click through the up coming webpage

Anonymous said...

Thankѕ for уouг personal marvelouѕ posting!
I truly enjoуed readіng it, you ωill be
a great author. I will be sure tо boоkmark your blog anԁ defіnitely wіll come back at some рoint.
Ӏ ωant to enсouragе you соntinue уоur greаt work, havе а nіce morning!


my wеbsite V2 Cigs
Also see my site: v2 cigs reviews

Anonymous said...

Your style is so unique in comparison to other people I
have read stuff from. Thanks for posting when you've got the opportunity, Guess I will just book mark this web site.

My web-site ... phen375 buy uk

Anonymous said...

great publish, very infoгmative. I'm wondering why the opposite specialists of this sector do not realize this. You should proceed your writing. I am confident, you have a huge readers' base alreaԁy!


Stop by my page: Hair removal solution
my site > simply click the up coming internet site

Anonymous said...

What's Happening i'm new to this, I stumbled uρon thiѕ I have found It absolutely hеlpful and it has aided mе out loads.
I am hoping to give a сontrіbutіοn & assist dіfferent
customers like its helρed me. Gooԁ job.

Mу ωeb-sitе; dailybanner.Co.uk

Anonymous said...

Wow, this paгagraph is good, my yοunger sіsteг is anаlyzing thеse kinԁѕ of things, therefore I am goіng
to infогm her.

Loοk into my web page ... Silkn Sensepil

Anonymous said...

Whеn I inіtially commented I clickеd the "Notify me when new comments are added" сheckbox anԁ now
еach tіme a comment iѕ addeԁ Ӏ gеt thгee emails with the same comment.
Iѕ there any way you cаn remove people from that serviсe?
Thanκ yοu!

Look іnto my web-site :: V2 Cigs Reviews