Tuesday, September 25, 2012

Sesiynau hyfforddi ein ASau

Mae'n debyg gen i bod mae gan Rod Richards rhyw fath o bwynt am unwaith yn ei fywyd - mae gwario £10,000 i ddysgu ASau i ofyn cwestiynau yn ymddangos yn swm sylweddol, ac mae'n anodd ar y coblyn gweld pam bod angen 10 sesiwn hyfforddiant ar unrhyw un i ddysgu sut i ofyn cwestiwn.

Ond dyna fo - os bydd yr holl ymarferiad yn arwain at  Andrew RT Davies yn gofyn cwestiwn neu ddau mae posibl ei ddeall, efallai y caiff democratiaeth Gymreig o leiaf rhywbeth yn ol am y deg mil.

2 comments:

Anonymous said...

OFF TOPIC! Tro nesa ti'n blogio am y BBC, cofia werthfawrogi'r ffaith bod yr adran chwaraeon newydd glywed bod Seland Newydd wedi galw'n gywir yn y gem griced bwysig yn erbyn Sri Lanca... Diolch byth 'mod i wedi cael gwybod hunna!

Dwi'n ama basa Bethel V Llandwrog dan 7 oed o ddiddordeb i fwy o bobol.

Ifan Morgan Jones said...

Dw i'n anghytuno ychydig bach efo dy neges.

Un peth sy'n fy nharo i ydi nad yw'r clwydi y mae'n rhaid i wleidydd ei groesi er mwyn cael ei ethol e.e. bod yn ymgyrchydd da, ac yn ddigon carismataidd, poblogaidd i gael ei ethol, wir yn ei baratoi ar gyfer bywyd yn wleidydd, sydd yn ymarferol yn fwy am geisio dylanwadu ar y gweithwyr sifil sydd wir yn rhedeg y wlad (drwy ofyn cwestiynau anodd ymhlith pethau eraill) a pori drwy focsys a bocsys o waith papur digon diflas.

Os ydi gwario ychydig bach ar hyfforddiant mewn swydd yn codi safon gwleidyddion y Cynulliad dw i'n credu ei fod werth yr arian. Fe fyddai wel gen i wario £70,000 ar wleidydd sy'n gwybod beth mae yn ei wneud na £60,000 ar wleidydd iwsles sydd heb ddim clem sut i wneud y job.