Sunday, August 19, 2012

Cwymp yn y gefnogaeth i annibyniaeth yr Alban yn sgil y Gemau Olympaidd

Os ydych o'r farn nad oedd goblygiadau gwleidyddol i'r Gemau Olympaidd cymerwch gip ar dudalen flaen Mail on Sunday heddiw.

Mae'r erthygl ei hun yn bropoganda unoliaethol, ond mae'n adrodd ar rhywbeth 'caled' yn yr ystyr bod pol piniwn oedd wedi ei gomisiynu gan y papur ei hun yn dangos bod y gefnogaeth i annibyniaeth wedi cwympo'n sylweddol.

Mi fydd digwyddiadau chwaraeon mawr yn aml gydag is destun gwleidyddol iddynt - Beijing, Barcalona, Moscow, Los Angeles yn esiamplau diweddar.

Clymu'r Deyrnas Unedig at ei gilydd oedd is destun hon - rhywbeth fyddai wedi ymddangos yn gwbl ddi angen hanner canrif yn ol. Ers hynny mae amrywiaeth o rymoedd wedi gwneud y syniad o Brydeindod yn llawer mwy anelwig a chymhleth - ac felly'n fwy anodd i'w gynnal. Nid yr adfywiad cenedlaethol yn y gwledydd Celtaidd ydi'r unig beth sydd wedi bod yn gyrru hyn. Mae natur cymdeithas yn llawer o ardaloedd trefol Lloegr wedi newid yn sgil y tonnau o fewnfudo tros y degawdau diwethaf, ac o ganlyniad mae Prydeindod wedi colli llawer o'r hyn oedd yn ei ddiffinio yn y gorffennol - Protestaniaeth, ethnigrwydd neilltuol, perchnogaeth ymerodraeth enfawr, Saesneg fel iaith oedd bron yn gyffredinol ac ati.

Doedd hi erioed yn bosibl i'r wladwriaeth ddychwelyd ymdeimlad pobl o Brydeindod i factory setting, ond mae'r gemau wedi bod yn gyfle i arddangos model arall o Brydeindod - model aml ddiwyllianol a chynhwysol. Yn y Brydain sydd ohoni dyna'r unig fodel y gellir ei gynnig bellach mewn gwirionedd, ac mae'r model o Brydain mwy cynhwysol yn un sy'n hyrwyddo'r undeb hefyd - yn un sydd a'r potensial i atal neu arafu y grymoedd hynny sy'n anfon Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ol ddatganoli i lawr llwybrau eu hunain. Dydw i ddim yn amau am funud bod gwahanol elfennau'r DU wedi eu tynnu at ei gilydd gan ddigwyddiadau'r haf.

Ond cyn i'r unoliaethwyr ddathlu gormod mae yna un mater bach i'w ystyried. Dydi hi ddim yn glir os ydi'r gemau wedi newid pethau yn sylfaenol. Mae'n sicr wedi creu feel good factor, ac wedi cysylltu hwnnw efo'r wladwriaeth Brydeinig. Ond dydi hi ddim yn glir os ydi wedi gwneud Prydeindod fel cysyniad yn fwy atyniadol yn yr hir dymor. Mae gwladwriaethau (democrataidd) yn cael eu cadw at ei gilydd gan gyfuniad o ystyriaethau ymarferol, materol a rhai mwy haniaethol sy'n ymwneud a hunaniaeth.

Dydi'r gemau ddim wedi symud y ddadl ynglyn ag os ydi'r Alban yn well o safbwynt materol yn y DU neu ar ei liwt ei hun fodfedd. Roedd cryn dipyn o son y byddai buddugoliaeth Ffrainc gyda'i dim aml ddiwyllianol yng Nghwpan (pel droed) y Byd yn 1998 yn newid pethau yn y wlad honno yn sylfaenol - ond o fewn blwyddyn roedd terfysgoedd ar y strydoedd. Wnaeth y teimlad cadarnhaol a greuwyd bryd hynny ddim oll i newid yr anghyfartaledd materol yn y wlad. Rhywbeth byrhoedlog ydi ymdeimlad cadarnhaol ynddo'i hun.

Mae hefyd yn ddigon posibl nad ydi'r Gemauu Olympaidd wedi newid agwedd pobl at eu hunaniaeth sylfaenol mewn unrhyw ffordd sylfaenol a pharhaol chwaith. Os felly mi fydd y gemau wedi eu hen pan fydd yr Albanwyr yn pleidleisio ar annibyniaeth mewn dwy flynedd.

7 comments:

Cneifiwr said...

Wrth i'r ffagl deithio o gwmpas Cymru cawsom glywed yr un peth drosodd a throsodd yn y cyfryngau: "mae'r ffagl wedi rhoi Llanelli/Aberaeron/Cwmsgwt/Porthmadog ar y map". Erbyn hyn mae'r holl histeria wedi sobri. Ymhen blwyddyn bydd y peth wedi mynd yn anghof. Mae'n debygol mai tân siafins yw'r pol hefyd.

Cigfran said...

Cytuno,penllanw Prydeindod yw hyn.
O gofio 'r miliynnau sydd wedi eu gwario rhwng y jiwbili ar gemau,y propoganda di dor o'r cyfryngau,Mond Lawr rallt aiff prydeindod o fama.

Anonymous said...

"Post hoc ergo propter hoc".

h.y. yn dilyn hyn, felly oherwydd hyn.

Beth sydd yna i ddangos bod a wnelo'r cwymp unrhyw beth i wneud a'r gemau? Dadansoddiad gwbl ddi-sail hyd y gwela' i.

"support for independence has nearly halved since a high of 52 per cent in 2006,"

Go brin bod y gemau wedi bod ar feddwl pobl yn barhaol ers 2006.

Anonymous said...

Ac wedyn, mae hyn..

http://newsnetscotland.com/index.php/scottish-news/5588-scots-poll-bursts-unionists-olympic-bubble

Cai Larsen said...

Anon 6.01

Digon gwir.

Serch hynny mi fyddwn yn ychwanegu bod y refferendwm annibyniaeth yn debygol o ymwneud a hunaniaeth yn ogystal materion caletach economaidd.

Byddwn yn tybio bod brand Prydeindod yn gryfach rwan nag oedd ychydig fisoedd yn ol - ond dwi ddim yn teimlo bod effaith yr hyn sydd wedi digwydd am adael effaith parhaol - ond fel ti'n awgrymu does yna ddim ffordd o ddangos hynny gydag unrhyw beth tebyg i sicrwydd.

Anonymous said...

Tybio a fydd y Daily Mail yn gwneud yr stori i'r gwrthwyneb yn 2014 pan mae'r gemau gymanwlad yn dod i Glasgow - ychdyig fisoedd cyn y refferendwm?


Er nad ydw i yn darllen y DM llawer roedd na un sylwad da iawn ar waelod y dudalen:

"Total input from Scotland for the London Olympics - Over £200m. Total input from the rest of the UK for the 2014 Commonwealth Games - £0. That's what Scots must always remember."

HC said...

Ni fydd gemau'r gymanwlad gyda cymaint o ddylanwad a rhywbeth sy'n digwydd ymhen tair wythnos - gemau rhgbrofol cwpan y byd (Yn Rio , 2014) . Mae'r Albanwyr yn addoli eu tim peldroed. Yn anffodus, Mae'r Alban yn yr un grwp a Cymru ! .