Sunday, April 15, 2012

Un gair bach arall am helynt pamffledi Trelai

Un o'r cynghorwyr sy'n gyfrifol am yr holl helynt ynglyn a'r pamffled gwrth Gymreig yn Nhrelai ydi Russell Goodway, neu Russell Goodwage fel y cai ei adnabod yn ol yn y dyddiau pan roedd yn arwain Cyngor Caerdydd.



Bydd y rhan fwyaf ohonoch o bosibl yn cofio Russell fel y boi a arweiniodd Llafur i anialdir yn nhermau llywodraeth leol yng Nghaerdydd. Yn wir cymaint ei amhoblogrwydd fel bod son ar led bod neb llai na'i aelod Cynulliad ar y pryd, Rhodri Morgan, wedi cynllwynio i'w gael i golli ei sedd i ymgeisydd annibynnol yn 2004. Yn anffodus llwyddod i gadw ei sedd.

Aeth ymlaen i arwain Siambr Fasnach Caerdydd i ddifancoll ariannol - bu'n rhaid i'r Siambr ddod i ben oherwydd na allai dalu yn ol dyledion o tua £1.5m, a chollodd 35 o bobl eu gwaith.

'Dydi bod ynghanol smonach ddim yn brofiad newydd i Russell Goodway o bell, bell ffordd.

5 comments:

Anonymous said...

Be wyt yn medd bu'n digwydd i'r blaid lafur po'r llanast ma?

Cai Larsen said...

Mi geith o ei anghofio ar ol wythnos neu ddwy.

Anonymous said...

Bu e'n cael effaith ar ganlyniad Trelai?

Faint o seddi ath Plaid cymryd yn Caerdydd neu dim o gwbl?

Cai Larsen said...

Chwech sydd gan y Blaid - tri yn y Tyllgoed, dau yng Nglan yr Afon ac yn yn Creigiau.

Stad tai cyngor enfawr yng Ngorllewid Caerdydd ydi'r rhan fwyaf o Elai. Llafur aeth a'r dair yn 2008, gyda'r Blaid yn bedwerydd a phumed. Goodway oedd yr olaf o'r rhai Llafur, a doedd o ddim yn gofforddus iawn.

O dan yr amgylchiadau presenol byddai dyn yn disgwyl i Lafur ddal eu seddi - ond maen nhw'n dweud i mi bod yna dipyn go lew o bosteri'r Blaid eisoes i fyny yn y ward. Efallai mai dyna sy'n poeni Llafur.

Anonymous said...

Beth fydd y ganlyniad i'r blaid yn Caerdydd yn ol y son te?

Colli pob set oherwydd y swing i Lafur, tybed?

Tyllgoed, Glan Yr Afon a Creigiau yn mynd i Lafur?