Tuesday, April 10, 2012

Amgylchiadau ehangach yn rhoi cyfle i'r Blaid yn etholiadau lleol eleni?

Fel rydym wedi ystyried yn frysiog yn y gorffennol, mae'r hinsawdd etholiadol yn y DU wedi newid yn sylweddol ers i George Osborne fod ddigon caredig a defnyddio ei gyllideb i ddangos yn glir i ni bod ei lywodraeth yn llywodraethu yn bennaf er budd pobl gyfoethog - pobl fel aelodau'r llywodraeth. Yn wir, yn ol rhai o polau mae'r Toriaid ar 30% - lefel nad ydynt wedi gostwng iddo ers dyddiau Michael Howard.

Yr hyn sy'n ddidddorol- ac efo arwyddocad posibl o safbwynt Cymru, ydi methiant Llafur i gymryd mantais o'r sefyllfa - mae eu rhifau nhw hefyd yn gostwng neu'n fflat yn y polau. Mae'r polau, yn ogystal ag is etholiad Bradford West yn awgrymu mai pleidiau sydd y tu allan i gonsensus cyfforddus San Steffan sy' n elwa, gyda'r UKIP yn gwneud yn dda yn y polau a George Galloway yn sgubo i fuddugoliaeth yn is etholiad Bradford West. Mae'r polau a'r marchnadoedd betio yn awgrymu y bydd Llafur yn cael cweir yn etholiadau lleol yr Alban, ac y bydd Ken Livingstone yn methu yn ei ymgais i ail ennill marroliaeth Llundain.

Y cwestiwn diddorol i'n pwrpas ni ydi - i ba raddau y bydd y patrwm hwn yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru yn yr etholiadau lleol? 'Dydi'r cyfryngau Cymreig ddim yn comisiynu polau piniwn yn aml iawn, felly rydym mewn tywyllwch braidd ynglyn a'r tirwedd etholiadol yma.

Ers datganoli mae Cymru wedi tueddu i ddilyn ei thrywydd etholiadol ei hun i rai graddau - ddim yn adlewyrchu patrymau Lloegr yn llwyr, ond ddim yn dilyn trywydd mor wahanol a'r Alban chwaith.

Mae'r tystiolaeth sydd gennym yn awgrymu bod Llafur wedi ennill cefnogaeth yng Nghymru ers etholiad cyffredinol 2010. Oherwydd hynny mae pobl wedi tueddu i gymryd y bydd Llafur yn ad ennill tir yn etholiadau lleol 2012 wedi eu perfformiad trychinebus yn 2008. Ond tybed i ba raddau y bydd hynny'n digwydd - er i Lafur wneud yn gymharol dda yn etholiadau'r Cynulliad 2011, ni lwyddwyd i ad ennill mwyafrif - ac hynny mewn amgylchiadau hynod ffafriol. Cymysg, ar y gorau ydi eu record mewn is etholiadau cyngor wedi bod ers 2010.

Efallai bod gwleidyddiaeth ehangach nag un Cymru yn rhoi cyfle i bleidiau sydd y tu allan i'r consensws unoliaethol, neo ryddfrydig i ennill tir. Dim ond un plaid felly sydd yng Nghymru sydd a'r adnoddau a'r drefniadaeth i gymryd mantais o newid strwythurol o'r fath, a Phlaid Cymru ydi honno.

Fel rheol niweidiol ydi effaith patrymau gwleidyddol Prydeinig o safbwynt y Blaid. Gallai eleni - o bosibl - fod yn eithriad.

2 comments:

Hogyn o Rachub said...

Un peth allwn ni ddim ei anwybyddu ydi'r ffaith bod Llafur yn gwneud yn dda pan fo'r Ceidwadwyr mewn grym yn Llundain, a hynny i bob pwrpas yn ddieithriad. Dw i'm isio bod yn bôr cyn etholiad ond rhaid inni beidio â chyffroi am ddirywiad Llafur na gorddweud ein cyfleoedd ni - mi fydd eleni'n dalcen caled inni mewn rhai llefydd dwi'n amau. Fydd hi'n anodd iawn i ni gadw llefydd fel Caerffili, ac ennill tir yn y Cymoedd neu'r gogledd-ddwyrain. 'Sdim isio ni anobeithio, ond mae'n anodd pwysleisio cymaint o dasg ag ydyw.

Teimlaf y gwnawn ni golledion, gydag ambell eithriad, a hynny yn wyneb adfywiad Llafur, mewn nifer o ardaloedd. Ond fe allwn ni wrthbwyso hynny mewn rhai cynghorau - dylen ni ennill tir yng Ngwynedd, a phwy ag wyr, mi allen ni ennill mwyafrifau ar Geredigion a Sir Gâr hefyd (er yn anffodus dw i'm yn rhagweld hynny'n digwydd yn y naill na'r llall).

Gan ddweud hynny oll, mae etholiadau lleol yn bethau rhyfedd sy'n aml yn mynd yn erbyn llif y cyd-destun ehangach - tybiaf y gwelwn ni ambell i ganlyniad fydd yn sioc i ni gyd!

Anonymous said...

Cytuno ar y cyfan efo'r hogyn (er nad ydw i'n credu y gwneith y Blaid ennill tir ond yn hytrach golli tir yng Nghaerfyrddin).

Tra bod gwleidyddiaeth Cymru i'r chwith o wleidyddiaeth y DU, a Phlaid Cymru ychydig ymhellach eto i'r chwaith, ac felly Cymru a Phlaid Cymru yn chwyrn yn erbyn cyllideb Osborne, y peryg yw y bydd etholwyr, wrth gamu i fewn i'r orsaf bleidleisio, hefyd wedi digio at Osborne a'r Ceidwadwyr ac yn teimlo rheidrwydd i roi croes yn erbyn y Blaid Lafur fel yr unig 'alternative' gwirioneddol i fedru rwystro'r Ceidwadwyr.

Wrth gwrs yr un peth sy'n debygol i ymatal hyn yw natur etholiadau Llywodraeth leol; mae pobl ar y cyfan yn deall nad etholiadau 'Prydeinig' neu 'genedlaethol' ydyn nhw.

Mae gymaint yn dibynu ar yr ymgeiswyr a faint o waith y mae'r ymgeiswyr eu hun yn barod i'w roi i fewn yn cnocio drysau ayb.