Thursday, April 19, 2012

Etholiadau lleol - beth fydd yn digwydd yng Nghymru?

Mae hi'n drybeulig o anodd darogan canlyniadau etholiadau lleol o ddata polio - yn llawer mwy anodd nag ydi hi i ddarogan canlyniadau etholiadau San Steffan neu rai'r Cynulliad. Yr erfyn mwyaf defnyddiol mewn cyd destun Prydeinig mae'n debyg ydi cyfrifau Collin Rallings. Mae'r cyfrifiadau hyn yn awgrymu y bydd canran Llafur ym Mhrydain yn cynyddu 13%, un y Toriaid yn gostwng 9% a chanran y Lib Dems yn gostwng 5%.

Mae'r newid yma yn sylweddol iawn, ac o'i wireddu byddai'n arwain at ganoedd lawer o seddi yn newid dwylo tros y DU. Er ei bod yn anodd trosglwyddo'r ymarferiad i gyd destun Cymru gan fod Plaid Cymru yn blaid gref ar lefel llywodraeth leol yma, byddai patrwm tebyg i hyn yng Nghymru yn arwain at newid arwyddocaol. Fel enghraifft o hyn 'dwi am edrych yn frysiog ar Gyngor Caerdydd. Os ydych yn cymryd bod pleidlais y Blaid yn aros yn statig, a bod pleidlais y pleidiau unoliaethol yn newid yn unol a darogan Rallings, byddai cydbwysedd y cyngor yn cael ei drawsnewid yn llwyr.

Y sefyllfa ar hyn o bryd ar Gyngor Caerdydd ydi:
Lib Dems 34
Toriaid 17
Llafur 14
Plaid Cymru 6
Eraill 4

Y sefyllfa newydd fyddai:
Llafur 43
Lib Dems 19
Plaid Cymru 4
Toriaid 5
Annibynnol 4

Felly ar noswaith pryd bydd Llafur yn debygol o golli yn drwm yn nwy brif ddinas arall tir mawr Prydain, mae'n bosibl y byddant yn cael eu sgubo yn ol i rym yn ninas Caerdydd.

Rwan fel dwi wedi awgrymu eisoes, mae'n bosibl y bydd presenoldeb y Blaid yn arwain at sefyllfa wahanol yng Nghymru. Dydan ni ddim yn gwybod faint o effaith y bydd y newid yn arweinyddiaeth a chyfeiriad y Blaid yn ei gael. Mae'r etholiad am yr arweinyddiaeth hefyd wedi rhoi mwy o sylw i'r Blaid o lawer na mae'n arfer ei gael.

Ond petai'r oruwchafiaeth Lafur yn cael ei hatgyfodi mor fuan wedi i Lafur golli grym yn San Steffan - a hynny er gwaetha eu amhoblogrwydd enbyd, gwta ddwy flynedd yn ol - byddai'n adlewyrchiad hynod o wael ar ein diwylliant gwleidyddol. Er gwaetha'r faith bod Cymru wedi pleidleisio i Lafur ym mhob math o etholiad, bron yn ddi eithriad ers 1918, rydan ni'n dal yn dlotach na'r unman arall yn y DU. Er gwaetha'r ffaith bod llawer yn gweld trwy Lafur pan maent mewn grym yn San Steffan, rydym yn pleidleisio iddynt mewn modd Paflofaidd cyn gynted ag y bo'r Toriaid yn ennill grym yn Llundain.

Byddai hefyd yn dysteb i fethiant hanesyddol ar ran y Blaid i ffurfio naratif sy'n cynnig cyfeiriad arall, a sy'n rhyddhau pobl o'r feddylfryd syml sy'n eu harwain i bleidleisio i Lafur fel modd o ddatgan gwrthwynebiad i'r Toriaid. Creu naratif felly ddylai fod prif flaenoriaeth arweinyddiaeth newydd y Blaid tros y flwyddyn neu ddwy nesaf.

9 comments:

Anonymous said...

Ble tin meddwl bydd yr bliad yn colli seddi yn Glan yr Afon? a cadw rhai tyllgoed a creigiau?

menaiblog said...

Wel, dwi ond yn gweithio o'r gogwyddau mae'r ffigyrau yn eu hawgrymu.

Mae'r mwyafrifoedd yn llawer uwch yng Nghreigiau a'r Tyllgoed nag ydynt yng Nglan yr Afon.

Anonymous said...

Saen gweld y Toriaid yn mynd lawr i 4, dwi'n rhagweld fod yr Bliad yn colli pob set, a bu ni ddim yn gweld cynghorydd plaid cymru na am degawdau

menaiblog said...

Wel, mae Creigiau gydag un o'r mwyafrifoedd mwyaf yng Nghaedydd. Mae llawer o'r seddi Toriaidd yn ymylol iawn - y 4 yn Eglwys Newydd / Tongwynlais er enghraifft.

Ond dwi ddim yn honni i fod yn anffaeledig yma - wedi gweithio trwy'r ffigyrau dwi - ymarferiad mathemategol oedd o. Mae'n ddigon posibl bod gen ti fwy o wybodaeth lleol na fi.

Anonymous said...

Wel mae Mr Creigiau Delme wedi symun i sefyll yn Caerfyrddin, a dwi ddim yn disgwl ir blaid gadw ei sedd fyna, am y Tyllgoed saen gwybod en da, ond saen credu bod nhwn mynd i cadw ei seddi mae mwy o siawns yn Glan Yr Afon dwin credu

menaiblog said...

Yn 2008 roedd pleidlais y Blaid tua 2:1 o un Llafur yn y Tyllgoed, a 6:1 o un Llafur Creigiau.

Anonymous said...

cymryd pethe mewn I datgan, un oedd Delme yn poblogaidd iawn, pleidleiso am yr dyn bu nhw ddim yr blaid, mae'r ardal o gwmpas fyna yn gally bod yn un sy'n crose rhwng toriaid a Lafur cyn bo hir

A yn Tyllgoed roedd popeth fyna yn mynd gyda nhw, ond maent yn dal yn ardal saesneg, Lafyr, a bu nhwn symun yn nol i nhw yn eitha hawdd

Tra bod yn Glan Yr Afon mae fwy o pobl gymraeg

menaiblog said...

Dydi pleidleisio lleol yng Nghaerdydd ddim yn adlewyrchu patrymau ieithyddol yn agos iawn - a dydi o erioed wedi.

Anonymous said...

Na maent ddim ond cofia maer rhai yn Glan Yr Afon di bod yna am fwy na 8 mlynedd, tra bod yn Tyllgoed maent yn fwy tueddol i mynd i Lafur,

Maen digon debygol i dweud bydd plaid cymru ddim yn ennillset o gwbl