Thursday, April 12, 2012

Llais Gwynedd a thref Caernarfon

A finnau mor bell o lygad y ffynnon mae newyddion yn fy nghyraedd o Gaernarfon bod Llais Gwynedd yn ofnadwy o flin bod Cangen Caernarfon o Blaid Cymru wedi cyfeirio mewn pamffled at eu cynlluniau ar gyfer hyd at 700 o swyddi yng Nghyngor Gwynedd.

Yn wir roeddynt mor flin nes mynd ati i blagio'r Caernarfon & Denbigh Herald i redeg stori yn dweud fod y Blaid yn dweud celwydd am Lais Gwynedd. Ni redwyd y stori gan yr Herald oherwydd bod y sylwadau yn y pamffled yn digwydd bod yn wir.

'Dydi'r Blaid yng Nghaernarfon nag yn unman arall ddim yn gwneud honiadau nad ydynt yn wir. Rhag bod yna unrhyw amheuaeth, dyfynnaf y sail i'r sylwadau:

 
Llythyr Daily Post, 13 Ionawr 2012 sylwadau gan Owain Williams, 'we would look to restructure the staffing levels at the council's top end - employing around 700 upper and middle management is a luxury we can't afford.'
 
Golwg 360 (gwefan), 20  Ionawr 2012, teitl 'Llais Gwynedd v Plaid Cymru: ffrae swyddi' Owain Williams yn dweud: Yn ôl y Cynghorydd Owain William mae lle i “chwynnu” ar y nifer o bobol sy’n gweithio yn reolwyr ar rannau’r cyngor. “Mae 600 o middle-management i gael yng Nghyngor Gwynedd,” meddai Owain Williams, “fyddai hynny byth yn digwydd yn y sector preifat.”

Mr Williams wrth gwrs ydi arweinydd Llais Gwynedd.

Rwan mae unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth am strwythur staffio'r Cyngor yn gwybod y byddai mynd ar ol 700 o swyddi yn debygol o effeithio ar lawer o bobl sydd mewn swyddi digon cyffredin, ond hanfodol i weinyddiaeth effeithiol y Cyngor.

Mae llawer o'r swyddi hyn yn ardal Caernarfon, a byddai toriad sylweddol yn hoelen go fawr yn arch economi'r ardal - ardal sydd yn digwydd bod yn ardal Gymreiciaf Cymru o ran iaith.

Mae'r syniad yn rhan o batrwm ehangach gan Lais Gwynedd o ymddwyn mewn ffordd sy'n uniongyrchol groes i fuddiannau tref Caernarfon. Rydym wedi edrych ar hyn yn y gorffennol - gwrthwynebu grant i helpu Ysgol Syr Hugh Owen ddod tros broblemau ariannol tymor byr, gwrthwynebu'r datblygiad yn Ysgol yr Hendre - buddsoddiad o £10m yn un o wardiau mwyaf difreintiedig y Gogledd ac ati. Gellir cael y manylion yma.

Mae'r wers yn eithaf clir i etholwyr Caernarfon yn etholiadau mis Mai - 'Os ydych chi'n pleidleisio i Lais Gwynedd, rydych yn pleidleisio i grwp sydd a record cyson o wrthwynebu datblygiadau llesol i'r dref'.

No comments: