Wednesday, March 07, 2012

Mwy o newyddion drwg i Lais Gwynedd?

Dyna'r son beth bynnag.

Os gwir y gair, mae un arall o gynghorwyr Llais Gwynedd ar fin gadael y gorlan.

9 comments:

Anonymous said...

Cyfarfodydd grŵp yng nghiosg Talysarn i Louise, Now ac Aeron Maldwyn o hyn ymlaen felly.

Gobeithio mai Peter Read yw'r diweddaraf i ddianc - fod yw'r unig un call syddar ol.

Cai Larsen said...

Na, nid stori am Peter ydi hi.

Anonymous said...

Ti am roi cliw bach i ni felly?

Cai Larsen said...

Wel - nid Peter.

Nid Seimon, Now, Aeron, Louise nag Alwyn yn amlwg.

Does yna ddim cymaint a chymaint ar ol wedyn.

Anonymous said...

Na, mae'n debyg y bydd y pump yna ac Anwen Davies yn cadw cwmni i'w gilydd yn y byncar tan y diwedd un.

O safbwynt y gweddill,mae Gethin Williams i'w weld yn foi ddigon call a allai ymuno a'r Blaid, annibyn a neidiodd ar y bandwagon Llais fu Bob Wright 'rioed felly mae'n debygol y bydd o yn neidio rwan fod y gwynt gwleidyddol wedi newid cyfeiriad.

Mae hyn yn gadael Endaf Cooke (Duw a wyr) a Llinos Merks (who cares). Hmmm.

Anonymous said...

Pa gorlan, corlan y defaid pendro?

Anonymous said...

"mae Gethin Williams i'w weld yn foi ddigon call a allai ymuno a'r Blaid"

Wedi clywed sibrydion ers tro ei fod yn bwriadu sefyll yn annibynol ym mis Mai.

Er, cofiwch mai Gethin roddodd y cynnig i gau Ysgol Machreth (Llanfachreth) -rhywbeth sydd wedi gwylltio sawl un yn nalgylch Dolgellau.

Anonymous said...

Newydd glywed god Gethin Williamsvwedi gadael Llais Gwynedd.

Pwy nesa felly - Bob Wright, Peter Read neu Endaf Cook?

Anonymous said...

Yn edrych ymlaen at weld Louise Hughes yn gadael Llaid Gwynedd a mynd at ei thebyg yn UKIP.