Tuesday, February 14, 2012

Ymddiheuriadau _ _

_ _ am flogio ysgafn yr wythnos yma, ond 'dwi i ffwrdd yn Athen am ychydig ddyddiau - yn cadw golwg ar bethau ar ran darllenwyr Blogmenai wrth gwrs!

Mae'n ddiddorol nodi canlyniad cyfres o ddigwyddiadau sy'n cychwyn efo 'celwydd golau' yn ol yn 2001 pan aeth llywodraeth Groeg ati i ddweud celwydd ynglyn a maint eu dyled gyhoeddus er mwyn cael ymuno a'r Ewro, cyn mynd ati i wario fel morwr meddw (ar Gemau Olympaidd 2004 ymysg pethau eraill).

Ar hyn o bryd mae gan y wlad ddyled o €350bn - 160% o GDP y wlad. Mae gwario afrad ar y raddfa yma yn ymylu ar fod yn arwrol mewn rhyw ystyr gwyrdroedig o'r ansoddair hwnnw

2 comments:

Anonymous said...

Bai y saeson mae'n siwr?

Cai Larsen said...

Wel roedd yna fai ar y sector bancio wrth gwrs, ac mae bai ar y banciau Americanaidd a Seisnig - ond roedd mwy o arian o lawer wedi ei fenthyg gan fanciau Ffrengig ac Almaeneg - y ddwy wlad sy'n symud mor a mynydd i geisio sicrhau nad ydi Gwlad Groeg yn gwneud y peth synhwyrol a jyst dweud na fedran nhw dalu eu dyledion.